|
|
|
Y Celfyddydau Ym maes theatr, arlunio, cerddoriaeth, dawns, llenyddiaeth neu ffilm, mae'r celfyddydau yn bwysig iawn yng Nghymru a digon o artistiaid talentog yn sylwebu ar eu hardaloedd mewn myrdd o wahanol ffyrdd. |
|
|
|
http://www.mostyn.org
Er mai prin iawn ydy'r Gymraeg ar y safle yma, mae'n rhoi gwybodaeth am ddigwyddiadau, prosiectau addysg a gwasanaethau yr oriel. Mae hefyd yn dangos detholiad o ddelweddau o arddangosfeydd hen a newydd. Rhaid cael Flash i fynd i mewn i'r safle ond mae modd dilyn cysylltiad o'r ddalen gartref i'w lwytho i'ch peiriant os oes angen.
http://www.theatrardudwy.co.uk/
Mae graffeg y safle yma yn syml a deniadol gydag aderyn bach yn eich dilyn wrth ichi symud eich llygoden dros y sgrîn! Efallai nad ydy'r brif ddalen wedi ei diweddaru ers tro (mae'n cynnwys cyfarchiad gan y cyn gyfarwyddwr, Mici Plwm, sydd bellach wedi gadael y theatr) mae'r cysylltiadau ar y llaw chwith yn eich harwain at wybodaeth gyfredol am y dramâu a'r ffilmiau sydd i ddod.
http://www.nwtheatre.co.uk/index.asp
Safle syml, hawdd ei ddefnyddio sy'n rhoi gwybodaeth am be' sydd ymlaen yn y theatr. Cliciwch ar yr adran ar y bar llywio ar y chwith a bydd rhagor o is-adrannau perthnasol yn dod i'r amlwg i'ch arwain at wybodaeth bellach.
http://www.realinstitute.org
Chwiliwch am y rhestr o adrannau sydd mewn testun llwyd gwan yng nghornel dde uchaf y sgrîn. Drwy glicio ar y cysylltiadau hyn, cewch wybodaeth am ffilm neu ddigwyddiad diweddaraf y gymdeithas unigryw hwn o Ddyffryn Conwy yn ogystal â chyn brosiectau. Bwriad y gymdeithas ydy dod â syniadau newydd i fyd y celfyddydau a ffilm yn yr ardal.
http://www.rcaconwy.org
Rhaid gwneud dipyn o waith sgrolio i gyrraedd y botymau i weddill y safle ar waelod y dudalen - ac mae cysylltiadau llywio ar waelod pob tudalen. Mae'r tudalennau syml hyn yn cynnwys gwybodaeth am arddangosfeydd, hanes yr oriel, enghreifftiau o waith artistiaid a lleoliad yr oriel.
http://www.rygarug.org/
Safle lliwgar prosiect sy'n hyfforddi pobl ifanc Dyffryn Peris yn y celfyddydau perfformio. Mae digon o luniau ar y wefan i roi blas ar weithgareddau a chynyrchiadau'r prosiect a lincs clir i'w dilyn i roi gwybodaeth i rieni ynglŷn â thiwtoriaid, sut i gofrestru eu plant a lle mae'r canolfannau
http://www.dolgellaumusicclub.org.uk/
Mae'r wefan yma yn ddigon syml, heb luniau na llawer o liw. Ond mae'n rhoi cyflwyniad da i'r clwb, gan gynnig ychydig o'i hanes, gwybodaeth am y pwyllgor a gweithgareddau'r clwb. Mae linc o'r ddalen gartref i weld y wybodaeth yn y Gymraeg.
http://www.hogiarddwylan.co.uk/
Dysgwch am hanes y côr a gwrandewch ar gip o'u ganeuon cyn ystyried eu gwahodd i ganu i chi.
http://www.llwyfan-gogledd-cymru.com/
Cafodd y cwmni theatr yma ei sefydlu pan ddaeth yr hen Gwmni Theatr Gwynedd i ben. Mae wedi ei seilio yn y gogledd er ei fod yn teithio ar hyd a lled Cymru. Mae'r wefan yn cynnwys manylion eu cynhyrchiad diweddaraf, yn edrych nôl dros gyn gynyrchiadau ac yn rhoi cyfle ichi drafod dramâu yn y fforwm drafod hefyd.
http://mysite.wanadoo-members.co.uk/cormeibiondolgellau
Mae hon yn drysor fach o wefan sy'n cynnig mwy na gwefannau corau arferol. Er ei bod yn eithaf prysur o ran cynllun mae popeth yn ei le a lle i bopeth. Mae dyddiadur cyngherddau'r côr wedi ei ddiweddaru, mi gewch hanes a repertoire y côr, manylion cysylltu clir, a hanes a lluniau o'u trip i'r Unol Daleithiau. Ar ben hynny, mae yma ddolenni i safleoedd diddorol lleol a cherddorol eraill hefyd.
http://www.deiniolenband.org.uk/
Gwefan dwt a thaclus sy'n hawdd ei darllen a llywio drwyddi ac sy'n cynnig gwybodaeth am y band, manylion eu cystadlaethau, hanes, gwybodaeth am y band ieuenctid, sut i gysylltu a nifer fawr o orielau lluniau difyr o wahanol ddigwyddiadau (er nad yw'r cysylltiad â rhai lluniau i'w gweld yn gweithio weithiau.)Diolch i Dylan Williams am enwebu'r wefan yma
http://www.corcyntafirfelin.co.uk/
Mae'r wefan fach ond cynhwysfawr yma yn gyflwyniad gwych i Gôr Cyntaf i'r Felin, y Felinheli. O hanes ei sefydlu i newyddion am ei llwyddiannau diweddaraf, mae'r wefan yma yn ffordd dda o gadw i fyny efo'r hyn sy'n digwydd ym myd y CCIF. Cynigiwyd gan Meilyr o'r Felinheli
http://www.galericaernarfon.com/
Mae'r ganolfan mentrau creadigol a agorodd ar y cei yng Nghaernarfon yn 2005 yn addo bod yn ganolbwynt ar gyfer pob agwedd o'r celfyddydau yn y gogledd. Mae'r wefan ar hyn o bryd yn rhestru'r newyddion diweddaraf, staff a swyddi gwag, lluniau a digwyddiaddau.
http://www.tonnau.com/cymraeg/
Mae'r wefan yma yn rhoi cipolwg ar waith yr arlunwyr a ffotograffwyr sydd i'w weld yn galeri newydd Pwllheli. Awgrymu gan Rhodri, Pwllheli
http://www.oriel.org.uk/
Gwefan 'oriel hynaf Cymru' sy'n rhoi gwybodaeth am eu harddangosfeydd a'r darnau celf a phrintiadau sydd ar werth yno. Mae hefyd yn egluro'r holl wasanaethau sydd ar gael yn yr oriel ac yn rhoi cip ar hanes difyr yr adeilad a adnewyddwyd gan Dafydd a Gwyneth ap Thomas yn yr 1980au. Rhowch wybod inni am unrhyw wefannau da eraill rydych chi'n dod ar eu traws.
http://www.gwynedd.gov.uk/gwy_doc.asp?cat=5544&doc=19151&Language=2
Cipolwg ar brosiectau Cyngor Gwynedd yn y byd celfyddydau. Cynnig gan Gwawr o Gaernarfon
Dyw'r Â鶹Éç ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.
|
|
|
|
|