Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gwefannau Lleol

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Canŵ Awyr agored 2
Os ydych am fentro i mewn i'r dŵr neu aros ar yr wyneb, neu hedfan o ben mynydd uchel, mae gwefan ar gael i'ch ysbrydoli. Ydych chi'n gwybod am rai eraill? Rhowch wybod inni.

http://www.plasmenai.co.uk/
Mae'r wefan hon yn rhoi amlinmelliad o'r holl fathau o chwaraeon dŵr mae modd eu gwneud yn y ganolfan ym Mhlas Menai sy'n cynnal nifer o gyrsiau gwahanol. Mae llety ar gael yno a hyfforddiant ar gyfer pob oed a gallu gan gynnwys teuluoedd, grwpiau mawr a phobl sydd ar gyrsiau i ddod yn hyfforddwyr eu hunain. Er ei bod yn ymddangos fel gwefan dwyieithog, does dim llawer o Gymraeg arni.


http://www.welsh-canoeing.org.uk/
Dyma'r gymdeithas sy'n rhedeg y Ganolfan Dŵr Gwyn yn Nhryweryn ger y Bala yn ogystal â goruchwylio cytundebau i gael mynediad i afonydd Conwy, Llugwy a Glaslyn. Mae yna lawer iawn o wybodaeth ar y safle a digon o gysylltiadau os oes angen mwy arnoch.


http://www.welshsurfingfederation.co.uk
Fe geir digon o wybodaeth yma am Glwb Syrffio Cymru, newyddion cystadleuaethau, rhagolygon o'r amodau syrffio ac adran gysylltiadau. Cystadleuaeth luniau hefyd o dro i dro.


http://www.westcoastsurf.co.uk/
Nid siop syrffio yn Abersoch yn unig ond gwefan sy'n cynnwys rhagolygon y tywydd ac amodau syrffio, lle i syrffio neu gael gwersi heb sôn am oriel wych o luniau - er na ellir eu chwyddo i'w gweld yn well.


http://www.free-rads.com/
Yn ôl y wefan yma, does 'na ddim byd yn mynd i wneud ichi deimlo'n fwy byw na thonfyrddio, neu wakeboardio. Bod yn cŵl ydy'r nod: sylwch yn arbennig ar benawdau fel Y Neges ar Bobl Hardd. Mae'r cwmni yma o Gonwy yn cynnig hyfforddiant tonfyrddio ond mae'r safle hefyd yn cynnwys Ystafell Hyfforddi sy'n egluro gwahanol symudiadau ar y tonnau, yn ogystal ag adran holi ac ateb.


http://www.lpyc.org.uk/index.html
Mae'r clwb hwylio bychan a chyfeillgar yma ger Harlech wedi creu gwefan ddefnyddiol a llawn gwybodaeth i unrhyw un am hwylio yn yr ardal.


http://www.diveanglesey.co.uk/
Mae'r ysgol ddeifio hon ger Bae Trearddur ym Môn yn dysgu sgiliau tanddwr i ddechreuwyr a hyfforddwyr yn ogystal â gwersi ar drin cychod pŵer. Mae'r wefan yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol am lle i ddeifio o gwmpas yr ynys - mae digonedd o fywyd morol a hen longddrylliadau i'w gweld yno.


http://www.ateal.co.uk/dsa/
Yn ogystal â chadw siop chwaraeon dŵr ym Mae Trearddur, mae Mike a Joyce McGee yn rhedeg Ysgol Scuba Menai ym mae tawel Porth Castell. Mae'r safle wedi ei ddylunio'n dda iawn ac mae'n hawdd ei ddefnyddio ac maer manylion am wasanaethau'r ardal yn glir, y cysylltiadau'n ddefnyddiol a lluniau da yno hefyd.


http://www.cjsclub.force9.co.uk/
Bwriad y Colwyn Jetski Club sydd ar Bier Fictoria Bae Colwyn ydy annog pobl i ddefnyddio badau dŵr personol mewn ffordd ddiogel. Cynigir hyfforddiant i'r aelodau gan hyfforddwyr profiadol yn ogystal â'r dewis cyntaf ar ddefnyddio adnoddau'r traeth.


http://www.snowdongliders.co.uk
Yn ogsytal â gwerthu offer hen a newydd, mae gan Gleidwyr Eryri ysgol baragleidio ym Mynydd Llandygai, 10 munud or A55 ym Mangor ar gyrion Eryri. Yr union beth i'r rheiny ag ysbryd menter a chynigir hyfforddiant i bob safon - o ddechreuwyr i'r mwy profiadol.


http://www.nwhgpc.org.uk
Mae'r wefan yma'n rhoi golwg lawn ar hanes y clwb, manylion am lefydd i gleidio, tabl cynghrair a ffurflen arlein i beilotiaid rannu llwybrau awyr newydd. Mae'r lleoliadau'n hedfan yn cynnwys Conwy, Penmaenmawr a Phen y Gogarth, Llandudno.


http://www.angelfire.com/ar/ParaExcellence/
Dydy'r cynllun ddim yn un slic iawn, ond mae'r safle yn llawn ffeithiau defnyddiol am baragleidio gan gynnwys lleoliadau yn yr ardal, rhagolygon tywydd, cyngor ynglŷn â diogelwch a lluniau gwych sydd naill ai'n mynd i'ch ysbrydoli neu greu llond twll o ofn ynoch chi! Ystod eang o gyrsiau ar gael, i'r dechreuwyr a'r profiadol.


http://www.ukrafting.co.uk/
Mae'r safle yma'n cyfleu holl gynnwrf rafftio dŵr gwyn ar afon Tryweryn ger y Bala. Mae yma ddigon o wybodaeth am adnoddau a chyrsiau, ond er hynny mae rhai o'r cysylltiadau'n ddiffygiol.
Awgrymwyd gan Nick Penfold.


http://www.snowdonia-active.com
Or ddalen gartref brysur gallwch gysylltu â thudalennau sy'n rhoi pob math o wybodaeth am Eryri ac am waith y bartneriaeth yma. Mae'n sôn am y tywydd a digwyddiadau, am mae'n dangos mapiau a manylion am drefi a phentrefi Eryri a thu hwnt sy'n cynnig gweithgareddau antur. Gall busnesau lleol gymryd rhan yn y trafodaethau arlein am bynciau o bwys i'r ardal a hysbysebu swyddi. Mae yna lawer iawn o wybodaeth gyfoes ac wedi'i archifo ar y safle.
Diolch i Simon Panton o Lanberis am awgrymu'r safle.


http://www.fhc.co.uk/weather/
Mae'r safle'n cynnwys yr holl wybodaeth sy'n cael ei chasglu o orsafoed tywydd Eryri. Mae'r bar llywio yn rhoi gwybodaeth syml a thechnegol iawn ynglŷn â'r tywydd fel y mae ar y pryd ac yn y gorffennol a gellir gwylio'r gwegamerau hefyd. Os ydy'r llun braidd yn niwlog, nid y camera fydd ar fai! Gellir gweld golygfeydd o ben Moel Eilio, yr Wyddfa a'r Mynydd Gwefru yn Llanberis.
Awgrymwyd gan Jeremy Williams o Lanfairfechan.
Os am weld gwefannau eraill diddorol, ewch i Awyr agored 1.


http://www.partneriaethawyragored.co.uk/
Mae'r wefan ddwyieithog yma yn esbonio sut y gall pobl ifanc lleol gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored yn yr ardal a sut i fynd ati i fod yn wirfoddolwyr neu yn hyfforddwyr. Mae'r cynnwys braidd yn sylfaenol ar hyn o bryd ond yn ôl y bartneriaeth, caiff y wefan ei ehangu yn y misoedd i ddod.
Cynigwyd gan Amanda Davies o Fethesda


Dyw'r Â鶹Éç ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.
0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý