|
|
麻豆社 Homepage Hafan Cymru | ||
Ymateb Cymorth Wedi mwynhau'r ddalen hon? Anfonwch hyn at gyfaill! 听 |
StraeonArchdderwydd yn ffarwelio11 Awst 2007Pwysig cofio pwy sy'n bwysig! Un o'r pethau y bydd yr Archdderwydd Selwyn Iolen yn ei drysori o'i gyfnod yn Archdderwydd yw digwyddiad ar faes Caernarfon. Gwraig ar y Maes yn y dref yn dweud wrtho ar ei longyfarch: "Roeddwn i'n dweud wrth y gwr 'cw; chap ifanc fatha chi sy isio ar gyfer y job yna." Ac meddai Selwyn Iolen gan chwerthin wrth ffarwelio 芒'i Eisteddfod olaf yn Archdderwydd yr wythnos hon; "Ond r诺an mae'r amser wedi dod i'r chap ifanc yma ddod o hyd i rywun ifancach na fo i wneud y job yma - a Dic Jones ydi hwnnw" meddai." Dim ond un orchwyl swyddogol sydd i Selwyn Iolen ei chyflawni cyn y digwydd hynny - agor cyfarfod yr Orsedd i gyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Y Bala 2009 fis Gorffennaf nesaf ac ar gychwyn y seremoni gorseddu Dic Jones yn Archdderwydd am y tair blynedd wedyn. Dywedodd Selwyn Iolen iddynt fod yn dair blynedd hapus iawn iddo. Ac wrth ddiolch i aelodau'r Orsedd am eu cefnogaeth dywedodd: "A diolch yn fwy na dim i aelodau'r gynulleidfa yn y pafiliwn a rhai sydd wedi dod ata i ar hyd y maes am sgwrs - mae hynny wedi bod yn uchafbwynt i mi." Dywedodd hefyd iddo geisio cofio gydol yr amser nad yr Archdderwydd yw'r person pwysig ar lwyfan prifwyl. "Nid y fi oedd yn bwysig ond y sawl oedd yn codi ar alwad y corn gwlad. Fy ngwaith i oedd gwneud y diwrnod yna yn gofiadwy iddyn nhw ac yn rhywbeth i gofio amdano fo am byth. "Hynny oedd fy nghyfrifoldeb i . Nid y fi sy'n bwysig ar y diwrnod yna ond y fo," meddai. Categori
|
About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy 听 |