麻豆社

Explore the 麻豆社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

麻豆社 VOCAB : OFF / I FFWRDD

Turn on / Troi ymlaen

Language Help / Cymorth Iaith


麻豆社 Homepage
Hafan Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon

Ymateb Llydawyr i'r Gymraeg

11 Awst 2007

Ludovic a Yannig

Eisiau gweld defnydd yr un mor naturiol o'r Llydaweg

Y rhyddid sydd yna i siarad y Gymraeg a'i defnyddio'n naturiol o ddydd i ddydd a wnaeth yr argraff fwyaf ar ddau ymwelydd o Llydaw 芒 maes yr Eisteddfod.

Yr oedd Ludovic Louboutin - enw barddol Kurun Pennbarch yng ngorsedd Llydaw - a Yannif Laporte ymhlith cynrychiolwyr y gwledydd Celtaidd yn ystod seremoni'r coroni ddechrau'r wythnos.

Pan ofynnwyd iddynt ddoe am eu hargraffiadau o'r Eisteddfod a Chymru dywedodd Ludovic:

Naturiol a braf yng Nghymru

"Fe fyddwn i'n dweud ei bod yn gymaint haws defnyddio'r iaith yn naturiol yma yng Nghymru nag yw hi i ni yn Llydaw. Hynny oherwydd iddo fod yn fater gwleidyddol yn Llydaw a hynny wedi gwneud i genedlaethau ofni defnyddio'r Llydaweg," meddai

"Ym meddyliau llawer o Ffrancwyr yr oeddech yn cael eich hystyried yn 'antagonist' os yn siarad Llydaweg - yn union fel pe byddai pawb yma sy'n siarad Cymraeg yn cael ei ystyried yn frawychwr ac yn aelod o fudiad fel yr IRA er enghraifft," meddai.

"Felly, y peth cyntaf sydd wedi'n taro ni yw fod eich iaith yn cael ei defnyddio heb wrthwynebiad ac mewn awyrgylch o braf.

"Ac yr ydym ninnau eisiau medru defnyddio y Llydaweg yn yr un ffordd yn union ag yr ydych chwithau yn defnyddio'r Gymraeg a chael pobl i ddeall nad gweithred sy'n ceisio tanseilio'r drefn ydi siarad eich iaith," meddai.

Gobeithio dilyn Cymru

Dywedodd mai rhyw 230,000 sy'n deall Llydaweg erbyn hyn.

"Mae hynny oherwydd bod y Llywodraeth yn Ffrainc wedi bod yn erbyn yr iaith yn y gorffennol," meddao gan ychwanegu i rai fod yn ofni ei defnyddio hyd yn oed.

"Yr oeddwn i'n 28 oed cyn sylweddoli fod fy nhad yn medru siarad Llydaweg," meddai gan ychwanegu i ofn ei dad i ddefnyddio'r iaith droi'n gyflwr meddygol bron oedd yn tagu'r geiriau yn ei lwnc.

Heddiw, fodd bynnag mae ysgolion fel rhai Diwan yn dysgu a hyrwyddo'r iaith ymhlith ieuenctid a dywedodd ei fod yn ffyddiog y bydd yr iaith yn cael ei hadfer yno gan ddod yn iaith mor naturiol 芒'r Gymraeg yng Nghymru.



About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy