|
|
麻豆社 Homepage Hafan Cymru | ||
Ymateb Cymorth Wedi mwynhau'r ddalen hon? Anfonwch hyn at gyfaill! 听 |
AdolygiadDrama - 'Yn haeddu mwy o sylw'11 Awst 2007Gweithgareddau dramatig yn cael eu gwthio o'r neilltu? Bu Eisteddfod Yr Wyddgrug yn un hynod o brysur i Catrin Jones. Cyrhaeddodd tri o'i disgyblion y llwyfan yng nghystadleuaeth Gwobr Goffa Richard Burton ac iddi hi y dyfarnwyd gwobr y cynhyrchydd drama fer gorau. Yma, mae'n son am ei hwythnos ddramatig ac yn holi tybed a yw'r ddrama yn cael sylw haeddiannol ar y cyfryngau. Ychydig o sylw a roddir i fyd y ddrama ar raglenni'r Eisteddfod ar S4C. Ond dyma beth a glywais heddiw gan rywun fu'n gwylio pob rhaglen o glydwch ei chartref ac yn gefnogwr brwd o fyd y ddrama. O'r pafiliwnTrueni mawr, er enghraifft, fu symud Seremoni'r Fedal Ddrama o'r Pafiliwn flynyddoedd yn 么l. Os mai derbyn hyn fu raid o leiaf gallwn ymhyfrydu ein bod yn creu naws gartrefol, glos, yn y theatr a braf oedd cael teilyngdod a safon uchel ymhob un o'r cystadlaethau drama. Hip hip hwre medda fi! A roddwyd sylw i'r perfformiadau yno? Dim digon o gydnabyddiaethPam ydwi'n rhefru medde chi? Ag eithrio bod cystadleuaeth Gwobr Goffa Richard Burton yn ymddangos ar lwyfan y Pafiliwn a fyddai hi'n cael ei darlledu? Gyda llaw roedd 24 o bobl ifanc dawnus iawn wedi ymddangos yn y rhagbrawf a thri a hyfforddwyd gen i yn dod i'r brig. Da iawn chi Gwion, Aaron a Manon - diolch am wireddu breuddwyd! I ddweud gwir roedd dydd Mercher yn ddiwrnod i'w gofio wrth imi ruthro o wrando ar ddyfarniad y Richard Burton i Theatr y Maes i dderbyn Cwpan Gwynfor am ennill y gystadleuaeth Actio Drama Fer a Chwpan Bro Dinefwr am fod yn gynhyrchydd gorau'r cwmniau amatur. Panto gan Gwenlyn Parry a berfformiwyd, a disgyblion Ysgol y Creuddyn a ymlafniodd i ennill cystadleuaeth mor uchel ei safon. Roedd ennill hon yn golygu cymaint; yn brofiad sentimental iawn gan mai dyma fy swansong neu gan ffarwel i Ysgol y Creuddyn cyn dechrau ym Modedern ym mis Medi. Diolch i'r rhai a fu'n gynulleidfaoedd dros dair noson o gystadlu. Mwynhau'r mwynhau"Lle bo camp mae rhemp," medda'r hen ddywediad a Champ a Rhemp gan Tony Llewelyn a berfformiwyd gan Theatr Fach Llangefni nos Wener ac mi gawsom ni fel cast clamp o hwyl a dwi'n meddwl i'r rhan fwyaf o'r gynulleidfa fwynhau hefyd - mwynhau ein gweld ni yn mwynhau ein hunain! Ond dydw i ddim yn honni ein bod ni fel cwmni wedi gwneud rhyw gamp fawr ond ni a chwmniau eraill tebyg yw asgwrn cefn y diwylliant dramatig erbyn hyn ac yn meithrin y talentau ifanc fydd yn llenwi'r llwyfannau a rhaglenni teledu proffesiynol. Gallasai S4C gynnal sawl rhaglen ar y cwmniau hyn a'u tebyg, ar enillwyr y cystadlaethau drama ac ar berfformiadau. Categori
|
About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy 听 |