|
|
Â鶹Éç Homepage Hafan Cymru | ||
Ymateb Cymorth Wedi mwynhau'r ddalen hon? Anfonwch hyn at gyfaill! Ìý |
StraeonChwilio am y ffilm hynaf10 Awst 2007Archif eisiau gweld y Steddfod cyn 1925 Mae Archif Ffilm Cymru yn chwilio am y ffilm hynaf am yr Eisteddfod Genedlaethol. Y ffilm hynaf sydd gan yr Archif ar hyn o bryd yw un, munud a 33 eiliad o orymdaith yr Orsedd a'r Archdderwydd Elfed yn coroni Wil Ifan yn 1925. "Byddai canfod ffilm hŷn na 1925 o'r Eisteddfod Genedlaethol yn hynod o werthfawr a diddorol i gasgliad Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru," meddai'r cynhyrchydd a chyfarwyddwr John Hefin. Gall fod yn waith camera amatur neu broffesiynol. "Mae'n siŵr gen i fod yna ffilm, neu ddarn o ffilm coll, allan mewn llofft neu hen archif yng Nghymru neu du hwnt. O gofio i'r Eisteddfod ymweld â Phenbedw yn 1917, efallai bod ffilm i'w chael yn ardal Lerpwl, hyd yn oed," meddai Gwnaed yr apêl pan lansiwyd gŵyl ffilm Fflics, sydd i'w chynnal yn Aberystwyth, ar stondin y Llyfrgell Genedlaethol gan yr actores Nia Roberts, seren Solomon a Gaenor . Cynhelir 'Fflics - Clasuron Sgrin Cymru' ar y cyd gan Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru yn y Llyfrgell a Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth Hydref 2007. Ymhlith uchel bwyntiau'r ŵyl bydd print adferedig o How Green was my Valley yn ogystal â'r ffilm fud y daethpwyd o hyd iddi, The Life Story of David Lloyd George.
Categori
|
About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy Ìý |