|
|
Â鶹Éç Homepage Hafan Cymru | ||
Ymateb Cymorth Wedi mwynhau'r ddalen hon? Anfonwch hyn at gyfaill! Ìý |
StraeonTylwyth teg yn cipio merch o'r Almaen!9 Awst 2007Ymweld â phrifddinas grwydrol Cymru Disgrifiwyd yr Eisteddfod Genedlaethol fel, Prifddinas Cymru ar daith, gan ymwelydd o'r Almaen â maes yr Wyddgrug. Mae Imogen Rhia Herrad ar y maes i baratoi rhaglen radio am yr Eisteddfod ar gyfer gorsaf radio yn Yr Almaen. Dysgu CymraegOnd mae ei chysylltiad â Chymru yn mynd yn ôl i ddiwedd yr Wythdegau pan ddaeth i astudio yn Llanbedr pont Steffan yn sgil cwrs Astudiaethau Celtaidd oedd yn ei ddilyn yn y Brifysgol yn yr Almaen. "Fy mwriad oedd mynd i Iwerddon - ond cefais fy mherswadio gan ffrind imi oedd yn hoff iawn o'r Alarm y byddai'n well imi ddodi Gymru," meddai. "Yna treuliais flwyddyn yn Aberystwyth yn athrawes Almaeneg ," meddai. Ers deng mlynedd mae'n byw yn Llundain - ond blas a lliw acen cymoedd y de sydd i'w Saesneg ac y mae'r Gymraeg hefyd yn un o'r chwech o ieithoedd y mae'n eu siarad. Acen America i ddechrau"Wn i ddim sut mae'r peth wedi digwydd," meddai am seiniau Cymreig ei Saesneg. "Pan ddechreuais i siarad Saesneg, acen Americanaidd oedd gen i, er nad oeddwn yn sylweddoli hynny, gan fy mod yn gwrando ar Radio'r Lluoedd Americanaidd i ddysgu ac yna fe ddes i Lambed ac am yn hir doeddwn i ddim yn sylweddoli imi droi i siarad Saesneg gydag acen Gymraeg," meddai. "Weithiau, mi fyddai'n meddwl fod y tylwyth teg wedi nwyn i! Allai ddim credu fod y peth wedi medru digwydd o fewn un flwyddyn. 1989 oedd hi," meddai. Acen Gymreig sydd yna hefyd i'r llyfr cyntaf iddi ei gyhoeddi,, The Woman Who Loved an Octopus, sef golwg ychydig yn wahanol ar fywydau 13 santes Geltaidd. A hynny'n deillio o ddiddordeb cyffredinol sydd ganddi mewn chwedloniaeth gan gynnwys straeon y Mabinogi. "Yr ydw i'n hoffi'r ffordd y mae'r straeon wedi eu gwreiddio mewn lleoedd," meddai. "Madryn a Charn Fadryn, Eurgain a Llanilltud Fawr ac yn y blaen." Ei chwedlau ei hunA dydi Imogen ddim yn brin o greu ei chwedlau ei hun hefyd. "Mae gen i stori am 'Y Ddynes oedd yn Caru Ciwcymbyrs' am y ferch yma o 'r enw Bronwerdd sy'n gwirioni gyda sbinaets i'r fath raddau ei bod yn creu person arall o sbinaets ond i ddarganfod fod hwnnw yn anffyddlon iddi gyda llwyn rhosmari. Felly mae yna rywfaint o Blodeuwedd a Gwydion fan yna!" meddai. Mae'n cyfaddef iddi gael ei hudo'n llwyr gan Gymru a phethau Cymreig. Eisiau dweud popeth"Fe fyddai'n ceisio dod i'r Eisteddfod bob blwyddyn ond dydi hynny ddim bob amser yn bosibl - ond eleni yr ydw i yma yn gwisgo fy het newyddiadurol yn paratoi rhaglen radio am yr Ŵyl. "Yr ydw i eisiau dweud popeth amdani. Yr ydw i wrth fy modd gyda holl hanes yr Eisteddfod ac yn arbennig gyda y seremonïaeth, y derwyddon a Iolo Morganwg a ddyfeisiodd yr Orsedd a sut y mae wedi newid o fod yn rhywbeth rhanbarthol i fod yn rhywbeth sy'n ganolog i'r iaith Gymraeg yn ei holl agweddau," meddai. "Yr ydw i wedi gweld ei disgrifio fel Prifddinas grwydrol Cymru ac yr ydw innau'n teimlo hynny hefyd ynglŷn â hi," meddai.
Categori
|
About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy Ìý |