麻豆社

Explore the 麻豆社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

麻豆社 VOCAB : OFF / I FFWRDD

Turn on / Troi ymlaen

Language Help / Cymorth Iaith


麻豆社 Homepage
Hafan Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon

Dyn Steddfod a Sioe

11 Awst 2007

Gair o brofiad - Dic Jones, chwith,  yn siarad gyda'r cyn Archdderwydd Robyn Llyn,

Bardd amaethwr am weld dau fyd yn closio

Yn brifardd ac yn ffermwr nid oedd yn syndod clywed fod yr Archdderwydd nesaf yn chwilio am ffyrdd i ddod a dau sefydliad mawr Cymru yn nes at ei gilydd - y Sioe Amaethyddol yn Llanelwedd a'r Eisteddfod Genedlaethol.

Cadarnhawyd penodiad Dic Jones yn Archdderwydd gan Fwrdd yr Orsedd yr wythnos hon a bydd yn cael ei orseddu gan yr Archdderwydd presennol, Selwyn Iolen, fis Gorffennaf nesaf ar gychwyn seremoni cyhoeddi Eisteddfod 2009 yn Y Bala.

Y seremoni honno fydd un olaf y naill ac un gyntaf y llall.

'Rhaid bod potensial'

Am ei syniadau i weld y ddwy 'sioe' fawr yn closio dywedodd Dic Jones:

"Mae'n rhaid bod potensial i chwyddo torfeydd y ddau sefydliad ac mae yna ryw frwdfrydedd rhyfedd y Sioe Genedlaethol - wn i ddim ai oherwydd bod yn a gymaint o bobl ifainc yn ymwneud 芒 hi.

"Ac mae yna rywbeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol i'r sioe hefyd. Rwy'n sicr o hynny," ychwanegodd.

"Oherwydd mod i wedi bod yn ffermio erioed a diddordeb gen i ym meysydd ll锚n hefyd fe hoffwn i gael y ddwy yn nes at ei gilydd rywfodd," ychwanegodd.

"A'r ffordd i wneud hynny yw fod atyniadau yn y ddwy i dynnu pobl o'r naill sefydliad i'r llall.

Am y Steddfod, meddai:

"Mae unrhyw un sydd wedi bod yn dilyn yr Eisteddfod ers deugain mlynedd ;wel, fydde neb yn ddigon dwl i ddweud nad yw yr Eisteddfod yn datblygu .

"Os rhywbeth fe fyddwn i'n meddwl fod y Sioe yn fwy ceidwadol o dipyn bach na'r Eisteddfod gan mai yr un fath o beth ydych chi'n gael, tarw gorau ac yn y blaen."

Gwersi canoli

O ran y gwersi y gall y naill ddysgu oddi wrth y llall dywedodd fod y ffordd y mae'r Sioe wedi canoli mor llwyddiannus yn Llanelwedd yn rhywbeth i edrych arno - er ychwanegodd na fyddai ef am i'r Eisteddfod Genedlaethol ganoli yn yr un modd.

"Y ddadl yw fod canoli'r Sioe wedi sicrhau fod yr adnoddau yn gallu bod gymaint gwell. Ond wedi dweud hynny, yr Eisteddfod sydd wedi ennill eleni oherwydd lwc y tywydd!" meddai.



About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy