Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

Â鶹Éç VOCAB : OFF / I FFWRDD

Turn on / Troi ymlaen

Language Help / Cymorth Iaith


Â鶹Éç Homepage
Hafan Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý

Straeon

Archdderwydd yn ceryddu

Gorffennaf 2007

Cicio pêl-droedwyr mud fel postyn

Cafodd ei arwyr ar y maes pêl-droed a rhai o'i gyfeillion yn yr Orsedd gic gan yr Archdderwydd ddydd Sadwrn.

Dangosodd Selwyn Iolen gerdyn coch i chwaraewyr pêl-droed Cymru am "sefyll yn fud fel pyst" pan fo'r anthem genedlaethol yn cael ei chanu cyn gemau rhyngwladol.

A beirniadodd yr aelodau hynny o'r Orsedd a Chyngor yr Eisteddfod sydd ddim yn cefnogi y 106 o eisteddfodau bychain a gynhelir ar hyd a lled Cymru.

Dysgu'r anthem

"Dau brif ddiddordeb sy gen i - Steddfota a phêl-droed," meddai yn ei anerchiad a fyddai, oni bai am y tywydd, wedi cael ei draddodi o'r Maen Llog yn ystod seremoni cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2008.

"Onid ydi o'n hen bryd i'r bechgyn a anrhydeddir drwy gael y fraint o wisgo'r crys coch ddysgu geiriau ein hanthem genedlaethol ni a'i chanu gyda balchder ar ddechrau pob gêm," meddai.

"Chware teg i fechgyn y bêl hirgron, mae nifer go dda ohonyn nhw yn gwneud ymdrech ond mae bechgyn y bêl gron yn sefyll yno mor fud a physt gôl ac mae'n hen bryd i rywun ddeud wrthyn nhw am ymfalchïo yn y ffaith eu bad nhw yn cael y fraint o gynrychioli ein gwlad ni ac fe ddylen nhw ddangos hynny," meddai.

Eisteddfodau bach

Yn gynharach yn ei araith yr oedd wedi ceryddu aelodau blaenllaw o'r sefydliad eisteddfodol am eu diffyg brwdfrydedd hwythau ynglÅ·n ag eisteddfodau bychain.

"Gaf i ofyn yn garedig y prynhawn 'ma. faint ohonoch chi aelodau'r Orsedd ac aelodau o Gyngor yr Eisteddfod ac aelodau o Lys yr Eisteddfod; faint ohonoch chi fu mewn eisteddfod leol o fewn cyrraedd i'ch cartrefi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf 'ma?" holodd.

"Mi wn i fod 'na ffyddloniaid yn eich mysg chi hefyd ond prin iawn ydyn nhw," meddai



About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý