|
|
麻豆社 Homepage Hafan Cymru | ||
Ymateb Cymorth Wedi mwynhau'r ddalen hon? Anfonwch hyn at gyfaill! 听 |
StraeonNewid llwch steddfod am lwch y paith8 Awst 2007Mynd yn weinidog i Batagonia Cyn gynted ag y bydd wedi sychu llwch yr Eisteddfod oddi ar ei esgidiau bydd gweinidog o Gymru yn hel llwch paith Patagonia arnyn nhw. Bydd y Parchedig W J Edwards, gweinidog 71 oed, sy'n awr yn byw yn Bow Street ger Aberystwyth yn treulio tri mis yn gweinidogaethu ymhlith Cymry'r Wladfa o fis Medi tan y Nadolig. Yn frawd i Hywel Wyn Edwards, trefnydd Eisteddfod yr Wyddgrug, dywedodd W J Edwards ei fod mewn gwirionedd yn ateb gwahoddiad a estynnwyd iddo gyntaf gryn ddeugain mlynedd yn 么l. "Ond tan hyn ni fu'n bosibl imi fynd oherwydd galwadau yng Nghymru," meddai. Ond mae ganddo resymau da i fod yn ymwybodol iawn, iawn,o'r cysylltiad Cymreig 芒 Phatagonia. Cyn iddo symud yn weinidog yng Nghaerfyrddin bu'n weinidog gyda'r Annibynwyr am bum mlynedd ar hugain yn Llanuwchllyn gyda'r Hen Gapel - lle mae Michael D Jones wedi ei gladdu - dan ei ofal. "O'r herwydd yr ydw i wedi bod yn ymwybodol iawn o arwyddoc芒d Y Wladfa i hanes Cymru ac rwyf hefyd wedi cyfarfod 芒 nifer o ymwelwyr o Batagonia a fyddai'n ymweld 芒 bedd Michael D Jones ac i weld cofeb iddo osodwyd ar fur yr hen Gapel," meddai. Yr oedd yn weinidog yno yn 1975 pan ymwelodd y criw mwyaf erioed o Batagonia 芒 Chymru a threulio llawer o'u hamser ym Mhenllyn. Cysylltiad teuluol"Ac mae yna rywfaint o gysylltiad teuluol hefyd gan fod Jonathan Evans, hen daid i gyfnither i'm gwraig, Gwenda, yn un o'r rhai a hwyliodd o Lerpwl i Ariannin i helpu sefydlu rheilffordd y Wladfa," meddai. Bydd 'WJ' a Gwenda yn treulio'i amser ym Mhatagonia yn Nhrelew a'r Gaiman gan ymweld hefyd ag Esquel yn yr Andes. Yr ydw i'n edrych ymlaen yn fawr at fod yno a chael gweinidogaethu ymhlith y Cymry yno," meddai. "Mae rhai yn holi pam gwastraffu amser, egni ac arian ar y lle - ond yr wyf i'n awyddus i fynd yna a chael gweld fy hun beth sut mae pethau. "Wedi'r cyfan y mae hi'n wyrth bod y Gymraeg yn dal i gael ei siarad mewn cymdeithas mor bell o Gymru dros 140 o flynyddoedd wedi'r ymfudiad cyntaf," meddai. Categori
|
About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy 听 |