Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Clebran
Venice Taith i'r Eidal
Tachwedd 2005
Taith disgyblion Ysgol Y Preseli, Crymych i'r Eidal.
Ym mis Mehefin 2005 fe fu criw o ysgol y Preseli'n ddigon ffodus i gael cyfle i ymweld â'r Eidal.

Aeth 42 o ddisgyblion o dan arweiniad Mr. Trystan Pillips, o flynyddoedd 9, 10 ac 11, a Mrs. M. Lloyd, Miss. G. George, Mrs. M. Williams a Mr. P. Higginson. Fe fuom yn aros yn yr Eidal am bump noswaith ac yn teithio am bedwar diwrnod i fynd a dychwelyd. Fe adawon ni Grymych yn llawn hwyl a sbri gan edrych ymlaen am y daith i ddod. Mae'n rhaid dweud mai nid ar fws yw'r lle delfrydol i gael nosweth dda o gwsg!

Fe gyrhaeddon yn Riva del Garda ddydd Mawrth ar ôl 23 awr o deithio ar y bws a phawb yn falch i weld gwesty Alberello o'r diwedd lle byddem yn aros am yr wythnos i ddod. Fe fuom yn ymweld â Verona, Gardaland sef parc antur mwyaf poblogaidd yr Eidal, Limone, Malcesine a Venice.

Trist oedd gwybod y byddai Venice o dan ddŵr mewn rhyw gan mlynedd, a Bascilia San Marco, sef eglwys odidog sydd yn sgwâr St Marc yn diflannu am byth. Ein bwriad oedd mynd i wneud cyngerdd yn yr awyr agored, ond yn anffodus dechreuodd hi fwrw glaw a tharanau. Ond ni stopiodd hyd yn oed y storm bobol Crymych rhag canu! Ar y bws unwaith eto a cheisio chwilio am rhywle i gael mynd i ganu. Yn y diwedd aethon ni mewn i gaffi/ bar a dechrau perfformio gan glywed y glaw a'r gwynt yn taro'r ffenestri ac ambell i daran yn goleuo'r ystafell i gyd. Dyma un o'r profiadau sydd yn mynd i aros gyda ni gyd.

Ar ddydd Sul fe gychwynnon ar ein taith am adref. Doedd neb wir am adael ond roedd pawb yn gwybod bod rhaid dychwelyd i Grymych rywbryd.

Roedd y daith ar ben, pawb wedi blino ac yn drist i weld y daith yn gorffen ar ôl yr holl drefnu a'r paratoi cyn hynny. Fe gawson lawer o brofiadau gwych yn ystod y daith ond yr un sydd yn aros yn y cof i mi'n bersonol ac i nifer o rai eraill siŵr o fod, yw nofio yn llyn Garda. Fe fuon yn ddigon lwcus i gael nofio yn y llyn ddwy waith yn y tywyllwch a dim ond lampau y stryd agosaf a golau'r lleuad yn disgleirio arnom. Roedd y dŵr yn ddigon oer ond fe gofiaf y profiad hwn am byth.

Fe fwynhaodd pawb aeth ar y daith ac fe hoffwn i ar ran y disgyblion ddiolch i'r athrawon am wneud y daith yn hwylus ac yn bleserus i ni ac i Mr. Trystan Phillips am arwain y daith. Yn awr mae pawb yn edrych ymlaen am ddychwelyd i'r Eidal mewn dwy flynedd, ac i unrhyw un sydd yn cael y cyfle i fynd, fy nghyngor i a phawb a fu ar y daith mwy na thebyg yw cymerwch y cyfle ac wnewch chi fyth ddifaru.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý