Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Clebran
Eisteddfod Eisteddfod Maenclochog
Ebrill 2007
Gwybodaeth am Eisteddfod Maenclochog a gynhelir ddydd Llun, Mai 7, 2007.

"Fe gaewn ni'r drws. A cha di dy ben!"

Dyna yn ôl y Prifardd Eirwyn George oedd ymateb un o geidwaid y drws i weiddi parhaus yr arweinydd o'r llwyfan yn ystod un o'r Eisteddfodau cynnar, a Neuadd yr Eglwys, Maenclochog dan ei sang hyd oriau mân y bore.

Efallai nad oes yr un bri ar yr Eisteddfodau bach heddiw a'r cynulleidfaoedd wedi lleihau, ond er hynny, fe fydd drws y Neuadd ar agor ar ddydd Llun y 7fed o Fai, sef Calan Mai, a rhywrai hefyd wrth y drws i groesawu yr Eisteddfod yn ôl i'w chartref naturiol. Mi fydd llawer wedi newid ers y noson honno yn ôl ym mhedwardegau'r ganrif ddiwethaf, yn un peth Neuadd Gymunedol Maenclochog yw'r enw ar y Neuadd bellach, neuadd fodern, gysurus yn cynnig y cyfleusterau diweddaraf.

Disgwylir i feirniadu eleni:
Canu- Gwyn Nicholas, Llanpumsaint; Llefaru, - Bronwen Morgan, Llangeitho; Llenyddiaeth - Y Prifardd Idris Reynolds, Brynhoffnant; Cystadlaethau Llenyddol y Plant, - Maureen George, Maenclochog; Arlunio - Alun Ifans, Maenclochog.

Er fod 'na gystadleuaeth gorawl yn bodoli ar gyfer y plant a'r ieuenctid ers nifer o flynyddoedd, eleni fe gynhelir cystadleuaeth newydd ar gyfer corau o 25 o leisiau dros 15 oed i ganu dau ddarn cyferbyniol. Noddir y gystadleuaeth gan Gyngor Cymuned Maenclochog.

Fe fydd gan y plant o dan 12 oed gyfle i ennill Tarian Nest, sef Tarian a gyflwynwyd gan Wyn Thomas, Streatley on Thames, i'r cystadleuydd mwyaf addawol o dan 12 oed, er cof am ei chyfnither, Nest Llwyd. Mae 'na doreth o gystadlaethau llwyfan a llenyddol a chystadlaethau arbennig i'r dysgwyr.

Am fwy o fanylion cysylltwch â'r ysgrifenyddion sef Heather Jenkins ar 01437 532392 neu Julie Thomas ar 01994 448756.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý