Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Clebran
Llun o Gruff Rhys Gruff Rhys yn Moliannu
Mai 2007
Adolygiad o gig Candylionair Gruff Rhys yn Neuadd y Frenhines, Arberth, nos Wener 20 Ebrill gan Hefin Wyn.

Trwy ganu 'Moliannwn', yn ddigyfeiliant, i derfynu'r noson yn Neuadd y Frenhines, Arberth, ar nos Wener, Ebrill 20, roedd Gruff Rhys yn talu gwrogaeth i un o gynheiliaid penna'r diwylliant cerddorol poblogaidd Cymraeg.

Byddai'r hynafgwr, Bob Roberts, Tai'r Felin, na ddechreuodd ddiddanu ar hyd a lled Cymru nes ei fod yn ei 60au hwyr, wedi bod wrth ei fodd. Yr un pryd byddai'r artist rhyngwladol ifanc, a dreuliodd ei flynyddoedd cynnar ym Maenclochog, hefyd yn ymwybodol mai Cymro alltud, Benjamin Thomas o Fethesda, a gyfansoddodd y gân werin, 'Moliannwn', yn America, ac alaw Americanaidd, 'The Old Cabin House' a ddewiswyd i'w chanu. Choeliech chi fyth!

Am fod Gruff Rhys bellach wedi amsugno cynifer o arddulliau cerddorol i'w gyfansoddiad, priodol oedd iddo derfynu trwy gydnabod ei wreiddiau cerddorol cynnar. Gwnaeth hynny gyda chymorth llais hudolus Lisa Jên, hithau o'r Gerlan, ger Bethesda, ac ar adegau ymdebygai ei llais i gyfuniad o leisiau Linda Healey a Heather Jones.

Ond gan amlaf ei llais cyfoethog, hudolus, a hyderus hi ei hun a glywid yn arbennig wrth gyflwyno 'Llongau Caernarfon' a 'Pontypridd', fel aelod o'r grŵp 9Bach, a gychwynnai'r noson. Cafwyd dehongliadau cofiadwy o'r naill gan Y Gasgen a'r llall gan Edward H Dafis yn y gorffennol ond rhoes Lisa Jên fywyd o'r newydd i'r geiriau a'r alawon.

Tua'r diwedd y cafwyd dehongliad llawn tynerwch Gruff Rhys o gân adnabyddus Meic Stevens, 'Y Brawd Houdini' sy'n cael triniaeth ffwrdd-â-hi gan amlaf. Ymddengys ei bod yn de rigeur ymhlith artistiaid Cymraeg, sy'n gyfforddus yn perfformio'n rhyngwladol, i ganu'r gân hon bellach, yn union fel yr arferid cynnwys golygfa lladd mochyn mewn rhyddiaith Gymraeg yn ddieithriad ar un adeg. Ond mater o dalu gwrogaeth oedd hyn eto.

Ac mae'n rhaid bod cyfansoddiad Gruff, 'Cycle of Violence', gyda'i chynddaredd a'i ffyrnigrwydd cynyddol yn taflu cis tuag at gyfansoddiadau cyfnodau tywyll John Cale, y Cymro o'r Garnant a ymsefydlodd yn Efrog Newydd. Mater o dalu gwrogaeth oedd hyn eto. Mae'r naill a'r llall yn eiconau Cymreig bellach a hir y parhaed hynodrwydd y ddau dywynnu.

Ond medrai Gruff Rhys fod wedi hudo'r gynulleidfa amrywiol o ran oed a chefndir gyda'i gyfansoddiadau ei hun o'r grynoddisg ddiweddara Candylion a'r Atal Genhedlaeth flaenorol. Yn unol â'i ddychymyg byw roedd y llwyfan wedi ei lunio ar ffurf ystafell beilot awyren a ninnau'n cael ein gwahodd i fyd hudolus Candylionair o Ficronesia ac yntau'n Comadante Comodo Candylion yn ein tywys ar daith gerddorol.

Cafwyd yr anthemig 'Ni yw y Byd' a'r epig 'Pwdin Ŵy' gyda'i naws drofannol ryfeddol yn gymysg â chaneuon llawn melodïau cryf ac eraill yn ymdebygu i ganu cylch, a hyn i gyd gyda phinsiad hael o'r odrwydd gogleisiol yna sy'n nodweddiadol o gyflwyniadau Gruff Rhys. Roedd y cyfeiriadau at Bwyll Pendefig Dyfed a Maenclochog yn cael eu gwerthfawrogi.

Roedd ei gasgliad o offerynnau a theclynnau y gellir eu defnyddio i greu sŵn a naws cerddorol yn gwneud y noson yn fwy na chyngerdd acwstig pur. Roedd y bît yno'n gryf a gŵr sy'n feistr ar ei grefft yn cyffwrdd â'r synhwyrau oll gyda chymorth cymar cerddorol ysbrydoledig ym mherson Lisa Jên.

Pan ddaeth rhawd Ffa Coffi Pawb i ben ar ddechrau'r 1990au, un blinder a boenai'r sîn Gymraeg ar y pryd oedd y duedd i bob gig gael ei rheoli gan y bar. Dros ddegawd yn ddiweddarach ar ôl profi llwyddiant gyda'r Super Furry Animals, ac ar ôl perfformio ar draws Ewrop ac yn yr Unol Daleithiau yn rheolaidd, mae'n bosib i artist o faintioli Gruff Rhys gael gwrandawiad teg bellach mewn gigiau cartref. Oedd, roedd y bar yn lled brysur yn Neuadd y Frenhines ond y llwyfan oedd yn rheoli, a'r mwyafrif o'r gynulleidfa yn falch fod yna seddau ar eu cyfer.

Arwydd pellach o'r aeddfedrwydd oedd clywed y datgeinydd yn cyflwyno ei ganeuon, bron yn ddieithriad, yn Gymraeg, a hynny er bod nifer helaeth o'r caneuon yn ganeuon Saesneg. Cynigiai ambell gyfieithiad byrfyfyr nawr ac yn y man. Does dim angen yr agwedd slafaidd 'for the sake of our English friends' mwyach.

Eironi pennaf hynny i mi oedd y ffaith i mi gael y profiad prin hwnnw bellach, yn gynharach yn y dydd, o fasnachwr yn Hwlffordd yn gwrthod derbyn siec wedi'i sgrifennu'n Gymraeg am nad oedd yn ei ddeall. Mynnai ei fod cystal Cymro â mi.

Parod oeddwn i gytuno nad ar sail gallu i sgrifennu siec yn Gymraeg yn unig y mae mesur Cymreictod.

Dylwn fod wedi'i wahodd i gyngerdd Candylionair.

Hefin Wyn

  • Adolygiad o gig Gruff Rhys yn Aberystwyth
  • Mwy am Gruff Rhys

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

    Sylw:




    Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý