Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Clebran
Marchnad yn Indonesia Nadolig yn Indonesia
Ionawr 2009
Mae un o drigolion Indonesia yn sôn am ei phrofiadau o fwyd yn ei gwlad ei hun.

Rwy'n dod o wlad sy'n baradwys ffrwythau a llysiau, lle mae'r bobl yn dal i fwyta'n iach.

Mae llawer wedi clywed am Bali ac yn gwybod am Java. Mae Indonesia yn cynnwys bron 14,000 o ynysoedd. Mae pobl yn byw'n barhaol ar 1,000 ohonynt yn unig. Mae tua 350 grwp ethnig a siaredir tua 250 o wahanol dafodieithoedd.

Indonesia yw gwlad Islamaidd fwya'r byd ac Islam yw crefydd nawdeg y cant o'r bobl. Mae rhai grwpiau bach tu allan i Jafa yn Gristnogion. Hindw yw crefydd Bali. Cristnogaeth neu Fwdiaeth yw crefydd mwyaf y Chiniaid. Sut bynnag, mae'r Nadolig yn un o wyliau swyddogol Indonesia.

Y ffordd orau o weld y dull traddodiadol o fyw yw ymweld a'r machnadoedd lleol, sy'n dangos gwir fywyd diddorol y werin. Yn y marchnadoedd, mae 'na stondinau o bob math o fwyd gwahanol. Ar wahan i reis (y prif fwyd), Tofu a Tempe sy'n cael eu gwneud o ffa soia, yw bwyd bob dydd y werin bobl. Mae llawer o bysgod mor a chyflawnder o bysgod dwr croyw, corgimwch a sgwid ar gael o hyd. Mae rhai o'r pysgod yn cael eu halltu a'u sychu er mwyn eu cadw'n hirach.

Mae'r llysiau, ffrwythau, y cig a'r dofednod ar gael bob amser. Hefyd, mae'r blodau ffres yn cael eu gwerthu ar bob cornel o'r marchnadoedd - mae'n hyfryd.

Yn ystod y Nadolig mae'r marchnadoedd lleol o dan eu sang, oherwydd mae rhan fwya o'r bobl yn mwynhau bwyd cartref. Daw teuluoedd a ffrindiau agos at ei gilydd i ddathlu'r Wyl yn eu ty gwyliau ar y mynydd ac ymlacio o flaen y tân a siarad am y byd a'r betws tan oriau mân y bore.

Mae'r rhan fwyaf o'r adeiladau'n cael eu haddurno'n lliwgar. Mae golau amryliw'r stryd yn wincio drwy'r nos. Mae partïon mewn gwestai moethus neu glybiau nos eitha poblogaidd. Clywir cerddoriaeth Nadoligaidd ym mhob man. Mae naws yr Wyl yn gryf a'r ddinas fel petai ar ddihun drwy'r nos.

Yn ystod y tymor hwn, does dim prinder o bethau diddorol i'n bodloni ni i gyd, ac mae'r dathliadau'n parhau tan ddydd Calan. Mae Gwyl y Nadolig i bawb!!

.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý