Teiar fflat y tu fas i gapel y Tabernacl! Dyna sut y dechreuodd taith papurau bro y Post Cyntaf. Ond doedd dim byd yn fflat am y drafodaeth y tu fewn i'r capel wrth i griw o bapur Yr Hogwr ddod at ei gilydd i wthio'r cwch i'r dŵr fel petai ... yn llythrennol felly gan i bod hi yn bwrw hen wragedd a ffyn y bore hwnnw ...
Arbrawf newydd oedd hwn ar y cyd rhwng newyddiadurwyr rhaglen newyddion foreol y Post Cyntaf ar Radio Cymru, a thimau o wirfoddolwyr sy'n cynhyrchu rhai o'n papurau bro ni. Y bwriad oedd rhoi chwarter awr o'r rhaglen bob bore am wythnos i'r papurau i baratoi rhaglen gylchgrawn fer yn adlewyrchu eu hardaloedd. Fe fydden nhw wedyn yn dewis y storïau, y gwesteion a'r pynciau. Nhw hefyd fydde yn gyfrifol am adolygu papurau newyddion y dydd bob bore. Roedd hi'n dipyn o her, ond roedd pob un yn barod amdani ac am y gorau yn cynhyrchu pecynnau newyddion, ffeindio storïau a gwahodd cyfranwyr i'r rhaglen.
Yr Hogwr
Pryder am ddyfodol corau meibion ac yn wir dyfodol ein papurau bro ni hefyd aeth a bryd pobol Pen-y-bont ar Ogwr a'r cylch, a'r criw yn ddigon parod i ddweud eu dweud. Mae'n werth nodi mai dyma lle 'nethon ni ddarganfod un o golofnwyr y dyfodol, merch ifanc sy'n dal yn yr ysgol gynradd ond sy' eisoes yn cyfrannu adolygiadau llyfrau i'r Hogwr. Dechre'n ifanc fan hyn, mae'n amlwg.
Clebran
Siwrne i'r gorllewin wedyn i ardal Crymych a phapur Clebran. Roedden ni'n darlledu o Gaffi Beca ... ac roedd hi'n dipyn o sioc i gyrraedd cyn chwech y bore a gweld bod y drysau ar agor led y pen, a'r brechdanau bacwn eisoes yn barod gan y perchennog rhadlon. Roedd tîm y Post Cyntaf wrth eu boddau ... roedd hyn yn dipyn gwell na'r coffi mewn cwpane polystyrene sydd ar gael
yn y stiwdios yn Llandaf!
Roedd digon i'w drafod fan hyn hefyd ... er ei bod hi yn demtasiwn i fynd am ddishgled bob pum muned gan bod arogl y coffi ffres yn treiddio drwy'r lle. Dyma beth oedd darlledu mewn steil, a'r criw yn cael blas arni mewn mwy nag un ffordd.
Lluniau o dîm y Post Cyntaf gyda chriw Clebran
Roedd y daith y p'nawn hwnnw yn siwrne a hanner. Cyrraedd Dyffryn Banw oedd y nod er mwyn cwrdd â thîm Plu'r Gweunydd.
Roedd swyddfeydd post yn cau mewn ardaloedd gwledig yn un o'r storïau a ddewiswyd gan y tîm yma. Roedd angen, felly, galw yn swyddfa bost Meifod ar y ffordd. Bu bron i'r ymweliad droi yn stori - fe gafodd allweddi y car eu cloi YN y car ! Dyna halibalŵ^ a rhaid oedd galw am gymorth yr AA (Dyma'r eil dro mewn tridiau ... ond cadwch hynny yn gyfrinach ...).
Roedd y siwrne o Meifod i Ddyffryn Banw hefyd yn ddiddorol a dweud y lleia, diolch yn bennaf i'r tywydd garw. Do, daeth y gwynt a'r glaw. Ond digon cynnes fu'r croeso ar fws Â鶹Éç Cymru yn Llangadfan gyda thîm papur Plu'r Gweunydd ar y bore Mercher - a ninnau hanner ffordd drwy'r daith. Roedd y tywydd yn dal i achosi hafoc wrth deithio i Lanrug hefyd. Doedd dim posib croesi'r bont ym Machynlleth ac felly lan â ni i Lanwrin, ar y scenic route! Ac ar ôl cyrraedd bu bron iawn i holl waith caled papur Eco'r Wyddfa
fynd yn ofer.
Roedd gwyntoedd cryfion dychrynllyd yn Llanrug yn achosi probleme difrifol i'r ddysgl lloeren oedd yn sicrhau bod gyda ni signal i ddarlledu o'r "Stiwt". Yr unig ateb oedd gofyn i'r peiriannydd sain amyneddgar eistedd ar ben to y car yn dal y ddysgl a hynny yn nannedd y gwynt, trwy gydol y rhaglen. Fe gafodd hi baned am ei hymdrech!
Daeth y siwrne i ben yn yr Wyddgrug, cartref y brifwyl eleni, a'r Eisteddfod wrth gwrs ar frig yr agenda fan hyn, a'r paratoadau ar gyfer yr wythnos fawr yn destun trafod. Roedd y bythol wyrdd Aled Lloyd Davies wrth ei fodd yn ymateb i dynnu coes pan nes i awgrymu'n hy ei fod e braidd yn hen i fod yn gadeirydd y pwyllgor
gwaith . "Arhoswch i fi gael mynd i nôl fy ffon" medde fe â gwên ddireidus ar ei wyneb.
Daeth yr wythnos i ben yn rhy sydyn o lawer, ond mae paratoadau ar y gweill i fynd mas eto i gwrdd a'n cyfeillion yn y papurau bro. Mae papur Llambed Clonc wedi ein gwahodd ni draw eisoes. Os hoffech i ni ddod i'ch gweld chi, croeso i chi gysylltu â ni, ond rhowch ddigon o rybudd er mwyn i ni bacio'r cotiau glaw, yr hetiau a'r mapiau ac wrth gwrs i wneud yn siŵr ein bod ni wedi talu am aelodaeth lawn gyda phob cymdeithas foduro - rhag ofn!
Gan Garry Owen
Lluniau o dîm y Post Cyntaf gyda chriw Clebran