Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Clebran
Twm Carnabwth Carnabwth ... "Sbadda fe Twm"
09 Gorffennaf 2003
Hanes Twm Carnabwth - un o gymeriadau chwedlonol Gorllewin Cymru, a sioe gymunedol arbennig fydd yn cael ei pherfformio y mis hwn i gofio hanes cythryblus Merched Beca yn yr ardal.

Mae Twm Carnabwth - Thomas Rees - yn un o gymeriadau chwedlonol Gorllewin Cymru.

Hanes Twm Carnabwth
Twm o'i fwthyn llwm ar lethrau'r Preselau, arweiniodd y fintai honno o 'Ferched Beca' i ymosod ar dollborth Efailwen deirgwaith yn ystod Haf 1839.

Roedd gwerinwyr yr ardal o'r farn mai gorthrwm oedd codi tollborth arall a hynny'n arbennig am mai Sais, Thomas Bullin, oedd â'i fryd ar wneud elw oedd wedi ei chodi. Ychwanegai at galedu'r ffermwyr am eu bod yn arfer cyrchu calch o Eglwyslwyd i geisio achlesu eu tiroedd llwm. Roedd talu am y calch yn ddigon o faich. Byddai talu am ei gludo trwy dollborth yn faich ychwanegol - ac yn anghyfiawn yn eu golwg nhw.

Dyna pam yr arweiniodd Twm Carnabwth fintai o ddynion liw nos i chwalu'r iet. Ar ôl ei chwalu'r trydydd tro liw dydd gyda thorf o 500 o gefnogwyr rhoddodd Thomas Bullin y gore i'r syniad o gasglu tollau yn Efailwen.

Ail-fyw'r digwyddiad ac olrhain yr amgylchiadau arweiniodd at derfysg Merched Beca fydd y sioe 'Carnabwth' ar Sgwâr Maenclochog ar Orffennaf 17,18,19.

Penderfynodd y gwrthryfelwyr wisgo peisiau, siolau a bonedi am fod yna goel gwlad na fyddai gwragedd yn cael eu harestio au herlyn am herian y gyfraith.

Yn ôl y sôn 'Beca' oedd enwr wraig lysti roes fenthyg ei phais i Twm a byddai'r gwyr yn galw ei gilydd yn ôl enwau perchnogion y dillad roedden nhw'n eu gwisgo. Pwy oedd Twm? Sut fachan oedd e? Mae'r straeon amdano yn lleng. Deallir ei fod yn ymladdwr ffeiriau dansheris. Yn wir, fe gollodd lygad mewn sgarmes ty tafarn wyth mlynedd wedi 'Helynt Efailwen. Ond yn ei hen ddyddiau roedd yn fawr ei barch fel aelod selog a defnyddiol yng Nghapel Bethel, Mynachlog ddu. Mae'n werth gweld y pennill coffa sydd ar ei fedd with ochor orllewinol y capel - pennill syn ychwanegu at y chwedloniaeth amdano ac sy'n tanlinellu ei ddigrifwch ei hun fel tynnwr coes.

Er ei wylltineb cynnar credir fod ganddo yn ei ffordd urddas y mynydd a synnwyr dwfn o chwarae teg i'w gyd-ddyn.

Sioe Carnabwth
Sioe gymunedol yw Carnabwth', yn cael ei llwyfannu gan drigolion lleol arwydd o falchder yn eu tras. Yn dilyn y gwrthryfel lleol ymledodd Terfysg y Beca ar draws Gorllewin Cymruym 40aur 19ganrif.

Trefnir y sioe gan Gymdeithas Clychau Clochog a derbyniwyd nawdd a chefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Awdurdod Datblygu Cymru, Cyngor Sir Penfro a PLANED.Os am archebu tocynnau neu am wybod mwy am y sioe cysylltwch â Cyril Ridley (01437 532264) neu Rebeca Ashe (01437 532556).


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý