Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Clebran
Rhodri John a Llew Rhodri'n ennill gwobr Bafta
Mehefin 2008
Yr actor Rhodri John sy'n sôn am y profiad o ennill gwbor Bafta Cymru am ei bortread o 'Balders' yn y gyfres Cowbois ac Injans.

Ar nos Sul, Ebrill 27 yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd cefais brofiad anrhydeddus. Nid yn unig fy mod wedi cael fy ngwahodd i noson wobrwyo BAFTA Cymru, ond fe fûm yn ddigon ffodus i ennill y tlws am yr actor gorau' am fy mhortread o'r cymeriad 'Balders' yn y gyfres 'Cowbois ac Injans'.

Yn eironig iawn, yn yr olygfa gyntaf o'r gyfres gyntaf gwelir Balders yn annerch cynulleidfa fawr ar ôl derbyn gwobr am ei ddawn ysgrifennu creadigol. Breuddwyd oedd hyn i Balders, a dyna'n union sut oeddwn i'n teimlo ar y noson yna ym mis Ebrill.

Mae mynychu'r math yma o nosweithiau yn brofiad hollol estron i mi er fy mod wedi bod wrth fy ngwaith fel actor ers deunaw mlynedd. Roedd clywed fy enw'n cael ei ddarllen mas o'r amlen aur yn teimlo'n union fel breuddwyd nes i mi sylweddoli bod rhaid i mi godi o 'nghadair, cerdded lawr y llwybr a lan i'r llwyfan ac wedyn ceisio yngan ychydig o eiriau pwrpasol o flaen cannoedd o bobl oedd yn llechu yn nhywyllwch yr eisteddle.

Nid wyf yn cofio'n gywir beth 'wedais i hyd y diwrnod yma. Roedd fy mol yn troi, fy nwylo'n crynu a'm ceg yn sych. Bron i'r tlws lithro o'm gafael wrth i mi ei dderbyn - mae'n llawer trymach na'r disgwyl!

O ddramâu byrion a chynyrchiadau hirfaith yn yr ysgol gynradd, yr aelwyd, ac Ysgol y Preseli yng Nghrymych, trwy flynyddoedd y brifysgol yn Aberystwyth, mewn amryw i gyflwyniad theatr, teledu a radio - yn rhinwedd fy swydd yr wyf wedi derbyn cefnogaeth frwd, cyfarwyddyd manwl a llu o gyfleoedd i gyd-greu, cyd-weithio a chyd-chwarae. Byddwn i ddim wedi cyrraedd y sefyllfa yma heb y sail yna a heb y siawns y cefais gan gwmni Opus i lenwi croen 'Balders'.

Mae fy nyled i'r cynhyrchwyr, yr awduron, y cast a'r criw yn enfawr. Er i mi gael fy syfrdanu fy mod wedi ennill, mae'n fraint ac yn anrhydedd gallu dweud fy mod yn enillydd BAFTA Cymru. Ni allaf feddwl am ffordd well i ddod a 12 mis cyffrous, hapus a thymhestlog ar brydiau, i ben.

'Rwyf bellach yn ol yn byw yn fy milltir sgwâr ar ol blynyddoedd o fod ledled Cymru, ac yn falch lawn o fod wedi ymgartrefu gyda fy nheulu yn Efailwen. Hoffwn fanteisio ar y cyfle yma i ddiolch o waelod calon am y gefnogaeth, y cyfeillgarwch a'r croeso yr ydw i a'm gwraig wedi derbyn dros y blynyddoedd, ond yn enwedig yn y misoedd diwethaf ers genedigaeth Llew. Rydym yn eithriadol o ffodus o gaed teulu, ffrindiau a chymdogion mor gefnogol a chariadus. Diolch i chi oll ... mae'n braf hod getre!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý