Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Clebran
Tomos Livingstone Chwilio am sgŵps Cymreig
Ionawr 2005
Sa i'n siŵr pa un sy' fwya o fraint - cael bod yn Glebranwr y Mis neu cael sgrifennu ar y dudalen flaen.

Fel newyddiadurwr, yr ail yw'r peth pwysica' bob tro, ond fel crwt o odre'r Preseli ma'r cynta'n rhywbeth eitha' sbeshial hefyd. Ma e' hefyd yn rhyw fath o bromotion i fi - blynyddoedd maith yn ôl bues i'n golygu atodiad Clebran Bach, a dygymod am y tro cynta' â'r broblem o ffitio'r syniadau a'r straeon mewn i'r geiriau a'r lluniau, a ffitio rheiny wedyn ar y tudalennau.

Erbyn hynny wen i'n hooked ar y syniad o newyddiadura, a dyna dwi wedi neud byth ers hynny - golygu papurau coleg cyn mynd ymlaen i'r Western Mail a nawr i asiantaeth y Press Association. Dwi bellach yn cadw golwg ar fyd y Cynulliad (a phytiau eraill o fywyd Cymru) ac anfon y stori i'r byd a'r Betws.

Ma'r erthyglau yn mynd i bobman, o'r Daily Post i'r Sun, ac weithiau'n bellach fyth. Pan nes i glywed y llynedd bod Undeb Rygbi Cymru am chwarae Cwm Rhondda trwy'r loudspeakers yn ystod gêm ryngwladol gan fod y dorf yn pallu canu, dyma fi'n anfon y stori yn syth ac fe glywes i wedyn ei fod wedi ymddangos yn y Sydney Morning Herald. O leia bod hemisffer y De wedi gweld fis Tachwedd fod tipyn mwy o reswm i ganu yn Stadiwm y Mileniwm erbyn hyn.

A dyma amser diddorol i fod yn newyddiadurwr, heb sôn am amser difyr i fod yn Gymro hefyd. Ma' datblygiad technoleg yn golygu bod y newyddion yn ymddangos yn gynt nag erioed o'r blaen (un o'm dyletswydde i yw gwneud yn siŵr taw fi syn cael y stori gynta', sy'n golygu bod tŷ ni fel ffair weithe!), ond eto, ma cymaint o bwysau ar y wasg nes bod rhai'n siarad am fynd back to basics llwyr.

I ddechrau da'r naill, ma'r newid technolegol yn digwydd mor gloi nes bod y newyddiadurwr mwya' brwd yn debygol o deimlo'n benwan. Pan ddechreues i weithio ar y Western Mail, un cyfrifiadur yn yr ystafell newyddion oedd wedi ei gysylltu â'r we. Nawr dwi'n gallu teipio stori yn eistedd ar ben y Frenni ar fy ngliniadur a'i hala fe at y swyddfa yn Llundain drwy'r ffôn symudol.

Felly dyna'r math o fywyd ma nifer ohonom ni'n byw - dilyn gwleidyddion, protestwyr, heddweision neu ladron tan fod y stori gyda ni, ac yna teipio'n gloi, gloi, tan fod y peth hanner ffordd rownd y byd.

Ond dyw popeth ddim yn ffantastig yn y byd newyddiadurol chwaith. Roedd adroddiad Hutton yn ergyd anferth i'r Â鶹Éç, a'n codi cwestiynau ynglÅ·n â beth yw gwir rôl gohebydd mewn cymdeithas. Er i'r papurau newyddion geisio esgus taw mater i'r Â鶹Éç oedd hynny, dyle'r un cwestiwn gael ei ofyn ganddyn nhw hefyd - wedi'r cyfan, colli darllenwyr ma' bob papur dan haul yn ei wneud, felly mae'n siŵr bod rhywbeth yn mynd o'i le.

Mynd nôl at hanfod y pethe yw'r ateb yn ôl rhai, a dwi'n credu mod i'n un ohonyn nhw. Gormod o rwtsh, a gormod o bethe sy jyst ddim yn wir sydd yn y wasg y dyddiau hyn, a dyna un o'r rhesymau pam nad yw pobol yn prynu mwyach. Beth yw'r pwynt prynu papur os nad y'ch chi'n credu beth sy ynddo fe?

Yn ffodus, mae 'na ddigon o newyddiaduraeth dda i gael ym Mhrydain, a da o beth fydde gweld mwy ohono'n cael ei efelychu. Mae 'na sgiliau sylfaenol fel cofnodi beth yn union ddywedodd y dyn pwysig ynglŷn â pholisi'r llywodraeth yn hwyr un nos, a gwneud ymdrech i gadarnhau ei fod e'n wir. Dyw e ddim yn gymhleth, ond mae'n cael ei anghofio'n rhy aml, a'r cyhoedd sy'n cael eu twyllo ar ddiwedd y dydd.

Mae'n amser o newid yn y wasg felly, ac amser o newid yng Nghymru hefyd. Er taw dim ond pum mlynedd sydd wedi bod ers datganoli, ma'r galw am fwy o bŵer i'r cynulliad yn codi stêm. Gwelwyd adroddiad trawsbleidiol yr Arglwydd Richard yn amlinellu pam, pryd a shwt dylai hynny ddigwydd, a threuliwyd tipyn o amser gan y pleidiau gwahanol yn ceisio dadansoddi neu ddilorni beth oedd gan yr Arglwydd i'w ddweud.

I gadw'r stori'n fyr, mae'n debyg y daw mwy o bŵer yn raddol bach i'r Bae, ond nid ar yr un raddfa â'r Alban ac yn sicr heb refferendwm arall. Gyda gwleidyddion o bob lliw yn newid eu meddwl ac yn awgrymu hyn a'r llall (pwy fuasai'n meddwl y byddai rhai Ceidwadwyr yn galw am fwy o ddatganoli?) - bu 2004 yn flwyddyn brysur.

A beth am 2005? Bydd yr etholiad cyffredinol mae pawb yn ei ddisgwyl yn y gwanwyn yn golygu mwy o sylw i record y Cynulliad, gyda'r gwasanaeth iechyd yn enwedig. Mae nifer o aelodau seneddol Llafur yn poeni taw'r record yna fydd yn effeithio fwyaf ar y bleidlais, er taw mater i Gaerdydd nid Llundain yw iechyd. Un eironi bach yn y datganoli na ragwelwyd cyn 1999, weden i.

Bydd llawer yn cadw golwg hefyd ar Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan. Wedi blwyddyn anodd, ac yntau bellach dros ei 65, mae rhai wedi awgrymu ei bod hi'n amser iddo ymddeol. Mae ef ei hun wedi dweud bod angen dwy flynedd bob ochr i etholiad Cynulliad i'w olynydd setlo mewn, a gyda'r etholiad nesaf yn 2007, pwy a ŵyr os mai 2005 fydd blwyddyn olaf Rhodri?

Digon fanna i gadw fi'n brysur, ac i gadw diddordeb y darllenwyr gobeithio. Blwyddyn newydd dda, a chariwch ymlaen i brynu papurau newyddion, Clebran yn enwedig!

gan Tomos Livingstone, dan ofal Prosiect Papurau Bro.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý