Gig Cymdeithas yr Iaith gyda Huw Chiswell, Gareth Phillips, Pala a Brigyn yn y 'Steddfod, Awst 8fed yn y Glamorgan Arms, Pontlliw.
Awyrgylch
Y lle yn orlawn a phawb yn canu ac yn ymateb yn wych!
Trac y noson
"Y Cwm" gan Huw Chiswell - pwrpasol iawn ym mro'r Eisteddfod eleni.
Disgrifiad o'r perfformiadau
Perfformiadau gwreiddiol a da iawn gan Gareth Phillips a Pala. Llwyddodd Brigyn i greu awyrgylch wych â'r caneuon ar eu halbwm diweddaraf, Brigyn 2 yn plesio'n fawr.
Huw Chiswell yn cloi'r noson yn ffantastig a'r gynulleidfa wrth eu bodd yn gwrando ar ei ddawn.
Uchafbwynt y noson
Pawb ar eu traed wrth i Huw Chiswell ganu "Rhywbeth o'i Le" a'r geiriau "Fe darodd deuddeg, hanner nos....." yn cael eu canu am hanner nos!
Y peth gwaethaf am y noson
Gorfod gadael ar ddiwedd y noson!
Un gair am y gig
Anhygoel!
Marciau allan o ddeg
10/10
Angharad Haf Lewis
Anfonwyd yr erthygl hon atom fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng Â鶹Éç Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Am fwy o fanylion ac i wybod sut fedrwch chi ennill £30 am ysgrifennu - cliciwch yma
Adolygiadau gigs Eisteddfod Abertawe 2006
|