Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Gareth Delve            Ochr 'Barchus' Gareth
Pan fo'n dod i'r drindod o dalentau - actio, canu a chyflwyno, gall Gareth Delve droi ei law at y tri.
Mae'n adnabyddus i nifer o wylwyr ieuengaf S4C fel un traean o'r grŵp meithrin Triongl, ac erbyn hyn mae i'w weld yn cyflwyno ar Planed Plant Bach gyda Lowri Williams. Mae Gareth hefyd yn wyneb adnabyddus ar y sîn roc Cymraeg fel aelod o'r band poblogaidd Mattoidz.

Dechreuodd ei yrfa actio ar y teledu pan gynigwyd rhan y cymeriad 'Parchus' iddo yn y gyfres ddrama arobryn Darn o Dir a gynhyrchir gan Teledu Apollo. Mae'r gyfres yn dilyn hynt a helynt criw bywiog ifanc sy'n byw mewn ardal amaethyddol yng ngorllewin Cymru ac wrth i gyfres newydd ddychwelyd i'r sgrîn nos Iau, 13 Hydref, mae Parchus yn darganfod ei hun ar groesffordd yn ei fywyd.

"Mae'n wyliau'r haf ac mae Parchus yn disgwyl canlyniadau ei arholiade. Mae'n gweithio fel tywysydd yng Nghastell Henllys ond hefyd mae'n ceisio cadw trefn ar ei gariad Catrin (Mari Grug) sy'n meddwi pob nos fel ffordd o ddygymod â cholli fferm Sychpant i Gari Bwch," eglura Gareth sy'n 26 oed ac yn enedigol o Grymych.

"Fel yr awgryma ei enw, mae Parchus yn hoffi gofalu ar ôl pawb a byth yn gwneud dim byd mawr o'i le. Mae'n helpu ei rieni i redeg y Post ac mae pawb yn disgwyl iddo wneud yn dda yn ei arholiade a mynd ymlaen i'r Brifysgol, ond mae Parchus ar fin gwneud penderfyniad sy'n mynd i synnu pawb," ychwanega.

Roedd actio ar Darn o Dir yn fater o droedio tir cyfarwydd iawn i Gareth gan ei fod yn byw yn yr ardal lle lleolir y gyfres ac eisoes yn adnabod nifer o aelodau'r cast. "Fel un sy'n enedigol o'r ardal mae'n braf gweld cyfres yn cael ei lleoli yng nghefn gwlad Sir Benfro ac yn adlewyrchu rhai o'r pynciau llosg sy'n effeithio bywydau pobl sy'n byw yno.

"Ers rhai blynyddoedd bellach mae gwyliau'r haf wedi golygu wythnose o ffilmio i mi ac mae wedi bod yn grêt. Rwy' wedi gwneud lot o ffrindie newydd a chael cyfle i actio gyda hen ffrindie gan fod nifer ohonom yn gyn-ddisgyblion o Ysgol y Preseli, Crymych," meddai.

"Roedd yna eitha lot o Parchus ynddo i pan oeddwn i'n ifanc yn yr ystyr fy mod i'n eitha tawel a swil a byth eisie rhoi troed mas o'i le. Ond dwi'n gobeithio fod mwy i mi na hynny erbyn hyn - y Gareth yma sy'n cael ei weld ar y sgrîn ac ar y llwyfan yn cael hwyl ac yn aml iawn yn actio'r ffŵl, ac efallai tamed bach yn fwy 'amharchus' - ond dim gormod!" chwardda.

Ar ddechrau'r drydedd gyfres hon o Darn o Dir mae'n wyliau'r haf yn Sir Benfro, ond mae cymylau duon yn parhau i hofran uwch rhai o'r cymeriadau. Mae Rhiannon yn ymdaflu ei hun i'w menter newydd yn y caffi er mwyn ceisio ymdopi â cholli Mike yn nhân Sychpant, tra bo Catrin yn ei chael hi'n anodd delio â'r ffaith fod Gari Bwch yn hanner brawd iddi. A fydd Caren yn gallu maddau i'w thad am gael affêr gyda'i ffrind gorau, Bethan sydd wedi gadael am Awstralia, ac wrth i bawb baratoi ar gyfer y parti i ddathlu diwedd yr ysgol a yw Mei yn saff rhag crafangau Sioned Bodlondeb?

Darn o Dir
Nos Iau, 13 Hydref, 9.30pm, S4C
Is-deitlau Cymraeg a Saesneg ar gael Cynhyrchiad Teledu Apollo ar gyfer S4C


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý