Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Gŵyl ddysgu Aberteifi
Caiff oedolion yn Aberteifi eu hannog i gymryd y camau cyntaf mewn taith hollbwysig nol i ddysgu fel rhan o'r Wythnos Addysg Oedolion (20-26 Mai 2006). Sesiynau 'blasu' fydd sylfaen yr ŵyl Ddysgu yn Aberteifi, yn cynnig cyfle i oedolion ddysgu rhywbeth newydd drwy roi cynnig ar weithgaredd di-dâl.

Bwriad yr ŵyl yw dangos i bobl sut gall dysgu sgil newydd fod yn hwyl, a chyfoethogi eu bywydau, gyda'r gobaith y bydd hyn yn eu hannog i barhau i ddysgu. Bydd hefyd yn gyfle i ddarparwyr hyfforddiant yr ardal ddod at ei gilydd i ddangos pa gyrsiau sydd ar gael ac i roi cyngor ac arweiniad i bobl sydd â diddordeb dechrau dysgu eto.

Bydd gweithgareddau'r wythnos yn cael eu lansio ar Ddydd Sadwrn, Mai 20fed, yn Ysgol Uwchradd Aberteifi, gyda diwrnod bywiog wedi'i drefnu rhwng 11 a 5 y prynhawn. Amrywiaeth diwylliannol yw thema'r diwrnod hwn, ac fe fydd nifer o grwpiau dawnsio, canu ac actio yn rhoi cyfle i bobl gymryd rhan gyda gweithdy roc a gweithdy corawl hefyd yn rhan o'r gweithgareddau.

"Gall digwyddiadau lleol ddangos i bobl bod dysgu'n hwyl, yn hyblyg a'i fod yn gallu agor y drws i nifer o bosibiliadau newydd'' meddai Siân Johnston, rheolwr Adran Adfywio Antur Teifi, sy'n cydlynu'r digwyddiadau. "Yr unig ffordd y mae pobl yn mynd i ganfod yr hyn y gall dysgu ei wneud iddynt yw drwy roi cynnig arni ac mae'r Wythnos Addysg Oedolion yn rhoi'r cyfle perffaith i oedolion wneud yn union hynny.''

Yn ystod yr wythnos bydd teithiau cerdded, trafodaeth am hanes yr ardal, sesiynau byr ar drefnu a marchnata digwyddiadau cymunedol, blas ar sut i roi cynllun busnes at ei gilydd, yn ogystal â nifer o gyfleoedd i weld sut gallwch wella'ch sgiliau cyfrifiadurol, er enghraifft dylunio cylchlythyron a defnyddio sganiwr i roi lluniau gwerthfawr ar gyfrifiadur. Bydd Mwldan Creadigol hefyd yn agor eu drysau gan roi cyfle i bobl flasu sesiynau ffilm a fideo.

Dydd Iau, Mai 25ain, fydd penllanw'r wythnos, gyda'r gweithgareddau'n symud i'r Mwldan, ac fe fydd darparwyr hyfforddiant a chyrsiau cymunedol ar gael trwy'r dydd i roi gwybodaeth a chyngor i rai sydd am fynd ymlaen i ddysgu'n bellach.

Antur Teifi sydd yn cydlynu'r digwyddiadau yn ystod yr wythnos hon ar ran y darparwyr hyfforddiant lleol, ac fe allwch gael rhagor o wybodaeth a rhaglen lawn trwy gysylltu gyda Catrin Miles yn swyddfa Cynnal Ceredigion, 01239 621 828.

Trefnir yr ŵyl ar y cyd rhwng: Coleg Ceredigion, Dysgu Bro, Antur Teifi, Jig-So, Canolfan Natur Gwyllt, a Menter Aberteifi ac fe gefnogir yr ŵyl gan NIACE Dysgu Cymru sydd yn annog pobl i ddychwelyd i ddysgu. Ariennir yr ŵyl trwy raglen Cynnal Ceredigion, gyda chyfraniadau oddi wrth Awards for All a NIACE Dysgu Cymru.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý