Dydd Mawrth, Tachwedd 30 bydd yn dechrau ar gyfres arall o gerddoriaeth danllyd, cyflwyno hwyliog a gweithdai bywiog, yn ne a gorllewin Cymru y tro hwn. Ar y diwrnod cyntaf, Ysgol y Strade, Llanelli yw'r gyrchfan wrth i wyneb cyfarwydd ar S4C, Alex Jones, gyflwyno tair act gyfarwydd a phoblogaidd - Kentucky AFC, Maharishi a'r anhygoel Elin Fflur, sy'n addo siglo'r ysgol i'w seiliau.Bydd cyfle hefyd i ddysgu yn ogystal â mwynhau perfformiadau deinamig, wrth i'r criw cynhyrchu ddarparu gweithdai ymarferol i ddysgu sgiliau i'r disgyblion.
Ddydd Mercher (Rhagfyr 1), bydd Kentucky AFC, Maharishi ac Elin Fflur yn glanio yn Ysgol Dyffryn Teifi, Llandysul, lle bydd y perfformiadau bywiog yn cael eu cyflwyno gan Alex Jones eto.
Dydd Iau (Rhagfyr 2) bydd y daith yn symud ymlaen i Ganolfan Hamdden Llanbedr Pont Steffan, ar gyfer diwrnod arall o gyffro cerddorol.
Abertawe fydd cyrchfan y criw ar ddydd Gwener (Rhagfyr 3), ac Ysgol Bryn Tawe, Abertawe, i gloi wythnos arall o weithgareddau.
Mae Taith Popty C2 yn fenter unigryw yn yr ystyr bod Â鶹Éç Radio Cymru, S4C a Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi ddod at ei gilydd am y tro cyntaf i ddarparu wythnosau o gynnwrf gyda rhai o fandiau gorau'r wlad tros gyfnod o chwech wythnos. Mae hyn wedi sicrhau bod hyd at 20,000 o ddisgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd Cymru wedi cael mwynhau'r gerddoriaeth orau, a hynny am ddim.
"Mae ymateb y disgyblion wedi bod yn wych," meddai Huw Meredydd Roberts, cynhyrchydd C2. "Mae'r gweithdai wedi dangos bod yna dalentau gwirioneddol allan yna. Yn y sesiynau hyfforddi sut i gynhyrchu rhaglen - o'r ochr dechnegol i'r ochr gyflwyno - mi fu'r disgyblion yn cynhyrchu rhaglenni go iawn sydd i'w clywed ar C2 dros yr wythnos.
Mae wedi bod yn gyfle iddyn nhw gael blas ar y diwydiant radio, a rhaid dweud bod ambell rai yn sefyll allan fel cyflwynwyr a chynhyrchwyr y dyfodol."
Bydd C2 ar Radio Cymru yn cynnwys uchafbwyntiau o'r daith a chyfraniadau gan ddisgyblion. C2: Dydd Llun-Dydd Gwener, 8pm. Dydd Sadwrn, 10.30am.
Bydd rhaglen arbennig Popty i'w gweld ar S4C ar ddydd Nadolig a bydd cyfres newydd o Planed Plant yn dechrau ar Ionawr 5, 2005. Mae tonfeddi lleol Â鶹Éç Radio Cymru fel a ganlyn:
Llanelli 104.2FM
Llandysul 93.1FM
Llanbedr Pont Steffan 94.1FM
Abertawe 104.2FM
Mwy am daith Popty C2 yma.