Daeth y clwb yma i fod o ganlyniad i gyfarfod a gynhaliwyd ym mis Mawrth
1989 i drafod y posibilrwydd i ffurfio Clwb Bowlio yn Nhyddewi gan ystyried cael rink yn yr awyr agored, a chael tÅ· i'r clwb ar Waun Fawr, ger yr ochr ogleddol o'r ddinas. Gwelwyd yn fuan fyddai'r gost o gael cynllun fel yna a chaniatad i'w ddechrau yn llawer rhy anodd. Felly penderfynwyd newid cyfeiriad gan daro ar y syniad o gael Clwb Bowls mewn adeilad gan fod amryw o fannau addas ar gyfer hyn yn y ddinas.
Etholwyd Mr. M. Phillips yn Gadeirydd a Mr. L. Narbett yn Ysgrifennydd wedi iddynt gael ymateb boddhaol gan y Cyngor Cymuned i ddefnyddio Neuadd y Ddinas.
Trafodwyd y gwahanol bosibiliadau i godi arian, ac ym mis Mai etholwyd Mr.
R. Evans yn Gapten a Mrs. R. Thomton yn Drysorydd. Talwyd £720 am y mat cyntaf, a chafwyd addewid am yr ail gan y Cyngor Chwaraeon Cymreig, a daeth hwn erbyn mis Gorffennaf.
Mewn cyfarfod ym mis Awst penderfynwyd i ofyn i Mr. Brian Harries, gŵr lleol, sydd i'w glywed yn fynych ar Â鶹Éç Radio Cymru, i fod yn Llywydd y Clwb, a grymuswyd y pwyllgor trwy ethol Mr. B. Hall yn Is-gadeirydd ac Is-gapten, a Mrs. W. Price yn Ysgrifennydd. Yn Rhagfyr 1989 penderfynwyd bod cyflwr llawr Neuadd y Ddinas yn wael ac yn andwyo pleser a medrusrwydd y chwaraewyr. Fe ddefnyddiodd y chwaraewyr campfa Ysgol Dewi Sant. Erbyn hyn roedd nifer o oedolion yn y Clwb ynghyd â nifer o blant yn eu harddegau.
Daeth y Clwb yn aelodau o "Pembrokeshire Short Mat League," gan gynnwys cystadleuaeth Cwpan y Llywydd. Ar ôl nifer o flynyddoedd cymharol lwyddiannus collodd y Clwb Bowlio Tyddewi amryw o aelodau ffyddlon gan i rai symud o'r cylch ac eraill ddim yn iach, ac hefyd bod y clybiau eraill yng Nghymdeithas Sir Benfro ymhell o Dyddewi, penderfynwyd yn gyndyn i dynnu'n ôl yn 1999.
Yn 2003 fe ddodwyd llawr newydd yn Neuadd y Ddinas fel rhan o'r gwelliant mawr i'r adeilad, ac fe wnaeth y clwb ddychwelyd yno i chwarae. Mae tua 20 aelod yn perthyn i'r clwb ar hyn o bryd ac maent yn cyfarfod rhwng mis Medi a Mehefin, ac mae'r nifer yn dyblu weithiau. Trefnir gêm gyda'r clybiau cyfagos yn y Sir yn achlysurol, ac mae hyn yn rhoi cyfle i'r aelodau i gystadlu mewn mannau eraill. Trefnir hefyd gystadlaethau o fewn y clwb er mwyn ennyn diddordeb a rhoi pleser i'r chwaraewyr a'r gwylwyr.
Darparwyd yr erthygl hon gan aelodau Clwb Bowls Tyddewi pan fu Bws Â鶹Éç Cymru ar ymweliad â'r ddinas ym mis Mawrth, 2007
|