|
|
Wyt ti'n 14 oed neu'n hÅ·n? Wyt ti am ennill £30? Oes gen ti ddiddordeb mewn ysgrifennu a hoffet ti weld dy erthygl yn cael ei chyhoeddi ar wefan Â鶹Éç Cymru'r Byd ac yn dy bapur bro lleol?
Os felly - mae Antur Teifi am glywed gen ti...
Beth sydd angen i ti ei wneud?
Beth am ysgrifennu adolygiad gig, digwyddiad lleol, drama neu lyfr Cymraeg? Neu adolygiad o flocbyster ddiweddaraf Hollywood?
Wyt ti'n mwynhau actio neu gerddoriaeth? Beth am adolygu sioe gerdd yr ysgol neu gyfweld â dy fand lleol?
Oes gen ti ddiddordeb mewn chwaraeon ac am ysgrifennu am dy dîm lleol?
Oes gen ti ddiddordeb gwahanol i'r arfer neu wedi gwneud rhywbeth diddorol? Os felly rydyn ni am glywed gennyt!
Mae angen i'r erthygl fod o leiaf 400 o eiriau. Dylid cofio mai ar wefan y Â鶹Éç ac mewn papur bro y bydd dy waith yn ymddangos a dylai natur a safon yr erthygl adlewyrchu hynny. Bydd angen anfon lluniau digidol gwreiddiol a safonol gyda'r erthygl. Ni all y Â鶹Éç gyhoeddi lluniau os yw'r hawlfraint ar eu cyfer yn perthyn i rywun arall.
Rydym yn cadw'r hawl i olygu'r erthyglau a gwrthod eu cyhoeddi os nad ydyn nhw'n addas ar gyfer y wefan neu'r papur bro. Telir mewn tocynnau llyfrau i'r sawl sydd o dan 16 oed.
Am ragor o wybodaeth neu am fwy o syniadau, ac i ennill £30 cysyllta gyda Rhwydwaith Papurau Bro Antur Teifi, e-bost: cyswllt@papurbro.org Ffôn: 0845 6023912.
Cyfeiriad: Rhwydwaith Papurau Bro, Antur Teifi, Parc Busnes, Aberarad, Castell Newydd Emlyn, Sir Gaerfyrddin. SA38 9DB
Paid ag oedi - cysyllta nawr!
Daw'r cynllun hwn i ben yn Ionawr 2008.
|
|
|
|
|
|