Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Dr Eiron Morgan Twrio i fyd golff
Mae Dr Eiron Morgan o Gwm Afan sydd wedi gwirioni gyda chasglu memorabilia golff yn dweud bod modd casglu unrhyw beth - a does dim rhaid bod yn filiwnydd i fod yn gasglwr.

Cafodd pob math o gasglwyr o wahanol rannau o Gymru eu cyfweld ar raglen Twrio, nos Iau, 7 Gorffennaf gan gynnwys yr actor Huw Ceredig a fu'n dangos ei gasgliad o lestri Clarice Cliff.

Bu'r rhaglen hefyd yn bwrw golwg ar bêl rygbi sydd wedi ei llofnodi gan dîm Cymru a gipiodd y Gamp Lawn eleni, 2005 - y tîm cyntaf i gyflawni'r orchest ers 1978. Bu'r bêl rygbi yn un o'r eitemau a gynigwyd yn yr ocsiwn fyw.

Casgliad golff

Hefyd ar y rhaglen, bu'r arbenigwr o femorabilia byd golff, Dr Eiron Morgan, yn dangos ei gasgliad yntau o'r byd golff.

"Cefais fy magu yn Mhontrhydyfen, ac nid oedd golff yn beth mawr yr adeg honno, a dweud y gwir doedd neb yn chwarae golff. Dim ond y meddyg a dyn y siop oedd yn berchen ar gar," meddai.

"Mi ddechreuais chwarae golff pan oni'n gweithio, ac ar yr un pryd dyma ddechrau casglu gwahanol memorabilia golff hefyd.

"Dechreuais i gasglu'r cylchgronau golff oedd yn cael eu cyhoeddi'n flynyddol ac yna'r stamps oedd yn gysylltiedig gyda byd golff," meddai Dr Morgan.

"Erbyn heddiw dwi'n casglu'r teis, y llwyau golff, cardiau post, lluniau, pinnau gwallt, mae'r rhestr yn faith.

"Nid wyf yn casglu un peth yn benodol, ond dwi'n hoffi meddwl fy mod yn casglu ychydig bach o lot o bethau."

Mae Dr Morgan yn aelod o Gymdeithas Casglwyr Golff Prydain sydd yn ceisio annog mwy o bobl i gasglu memorabilia o'r byd golff.

"Mae'r gymdeithas yn ceisio cadw'r diddordeb mewn hanes a thraddodiad y gêm golff yn fyw, a hefyd yn frwdfrydig iawn i gefnogi unigolion sydd yn casglu pethau sydd â chysylltiad â'r gêm," eglura Dr Morgan.

Diffyg pobl ifanc

Er bod Dr Morgan yn adnabod llawer o gasglwyr drwy'r gymdeithas mae hefyd yn difaru nad oes gymaint o bobl ifanc heddiw yn casglu.

"Arferai pawb gasglu stampiau. Roedd yn rhan o fywyd a phawb yn gwneud ei hwyl ei hunain drwy gymharu ag edrych a mwynhau eu casgliad. Tydi merched heddiw ddim yn gwnïo nag yn crosio - mae'r oes wedi newid," meddai.

"Yn ddiweddar bûm yn siarad gyda gwyr ifanc oedd yn gweithio ym myd golff ac nid oeddynt hwy yn gasglwyr, mae'n drueni bod traddodiad a hen hanes yn mynd i ebergofiant a hynny yn hanes eu proffesiwn eu hunain."

Mae Dr Morgan am annog pawb yng Nghymru i fynd ati i gasglu unrhyw beth.

"Mae cardiau post yn hawdd i'w casglu gan fod gymaint yn mynd ar eu gwyliau i wahanol wledydd, mi fydda i yn casglu cardiau post sydd â chysylltiad â byd golff."

Twrio, 9.00pm, Nos Iau, 7 Gorffennaf, 9.00pm.

Ailddarllediad, 10 Gorffennaf, 4.30pm gydag isdeitlau Saesneg ar y sgrîn

Cynhyrchiad Apollo Pedol ar gyfer S4C. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â: Lowri Rees, 01678 540528


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý