Lle a phryd
Awst 7fed, Pafiliwn pinc yr Eisteddfod
Yr artistiaid
Cyngerdd teyrnged i Dewi Pws ydoedd felly yn ogystal a'r dyn ei hun, roedd Edward H Dafis, Y Tebot Piws, Bryn Fôn, Huw Chiswell, Linda Griffiths, Heather Jones, Sioned Mair, Emyr Wyn a phlant ysgol yn ran o'r gyngerdd.
Awyrgylch
Y pafilwn yn llawn chwerthin a chanu - yn amlwg bod pawb yn mwynhau yr hen glasuron.
Trac y noson
"Ma' Lleucu wedi marw ond mae'r blodau dal yn fyw." Huw Chiswell a Linda Griffiths oedd yn canu - deuawd wefreiddiol.
Disgrifiad o'r perfformiadau
Roedd pob perfformiad yn llawn egni a brwdfrydedd. Yr artistiaid i gyd yn canu caneuon wedi eu hysgrifennu gan Dewi Pws i gyfeiliant band ardderchog. Grêt oedd gweld Y Tebot Piws ac Edward H yn canu unwaith eto - byddai'n wych cael mwy o gyngerddau ganddyn nhw!!
Uchafbwynt y noson
Yr holl artistiaid a'r band yn ymuno i ganu "Dewch at eich gilydd."
Beth sy'n aros yn y cof
Emyr Wyn yn dod i'r llwyfan fel Rhisiart rhwng y caneuon - llawer o chwerthin ac ymateb y gynulleidfa yn wych iddo.
Marciau allan o ddeg
10/10
Un gair am y gyngerdd
Mawreddog!
Adolygiad gan Angharad Lewis.
Anfonwyd yr erthygl hon atom fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng Â鶹Éç Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Am fwy o fanylion ac i wybod sut fedrwch chi ennill £30 am ysgrifennu - cliciwch yma.
Adolygiadau gigs yr Eisteddfod
|