Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
cantorion
Huw Chiswell
Huw Chiswell

Magwyd: Cwmtawe

Addysg: Ysgol Gynradd Pant-Teg, Ysgol Gyfun Ystalyfera a Phrifysgolion Aberystwyth ac Abertawe.


Canwr ac actor ddaeth yn enwog yn y ffilm Gymraeg Ibiza Ibiza

Ganed yng Nghwmtawe, a chafodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Pant-Teg, Ysgol Gyfun Ystalyfera a Phrifysgolion Aberystwyth ac Abertawe.

Yr oedd yn aelod o'r bandiau 'Y Crach' a'r anfarwol 'Trwynau Coch', ac mae wedi cael gyrfa ym myd teledu fel cyflwynydd, cynhyrchydd ac actor.

Ef a gyfansoddodd y gân elusen i Ethiopia 'Dwylo dros y môr' (1985), a chrisialodd ei ymddangosiad fel Carlos yn y ffilm Ibiza Ibiza!' ei le yng nghalon merched Cymru fel un o heart throbs mwyaf Cymru yn yr wythdegau! Roedd ei albym gyntaf 'Rhywbeth o'i le' (1986), yn cynnwys clasuron megis trac teitl yr albym, cân ddirdynnol am farwolaeth milwr yng ngogledd Iwerddon, 'Parti'r Ysbrydion', (efo'n gilydd - "bwbwgibwgibwbwgibwbwgibw(!)" a daeth 'Y Cwm', ei deyrnged i'r cwm lle'i magwyd, yn ffefryn i'w pherfformio ymysg corau meibion. Buan iawn y daeth yr albym yn gefndir i ddisgos Cymraeg ledled Cymru.

Fe'i dilynwyd gan 'Rhywun yn gadael' (1989) (bydd rhai ohonoch yn cofio'r anfawrol 'Tatws') a 'Cameo Man' (1993), recordiad preifat a ryddhawyd gan Huw yn bersonol, ac a ddosbarthwyd gan Sain. Roedd yn albym a'i gwelai yn ymestyn ei adennydd i ganeuon â thinciau jazz a ffync - albym hyfryd ac aeddfed sy'n haeddu cael ei hailwerthuso.

Ar ôl cryn seibiant o recordio, ryddhaodd 'Dere Nawr' (2003) ar label Sain, casgliad o ganeuon sy'n ochri at ganu gwlad o ran arddull, heb lithro i sentiment nodweddiadol y genre hwnnw. Ceir teyrngedau i hen gymeriadau ei gwm, a golwg ar ochr dywyll ei fywyd, gyda theimladau dwys ac anodd o edifeirwch ac hunan-ymchwil.

Roedd yn fyd oddi wrth 'Chiz' seren bop yr 80au, ac efallai i'r casgliad ddod braidd yn syndod i'r rhai a oedd yn dal i'w gofio felly. Serch hynny, roedd yr hen elfennau yno, ei lais cadarn swynol, baledau â threfniadau dychmygus, clust am alaw a geiriau syml a guddiai haenau o deimlad. Roedd yn taflu golwg newydd arno unwaith eto.

Mae'n parhau i berfformio a recordio ac fe fydd yn canu yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2008. Mae Huw Chiswell hefyd wedi rhyddhau casgliad o'i oreuon erbyn hyn.


Cyfrannwch

nia
Oes rhywun yn gwybod ble mae'n bosib i gael copi o'r video lliwgar 'Parti'r ysbrydion' darlledwyd nol yn yr wythdegau?
Fri Feb 1 10:13:37 2008


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý