Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Garthen
Ysgol Pontsian Gwobr Arbennig i Ysgol Pontsian
Tachwedd 2008
Enillodd Ysgol Pontsian 'Gwobr Arbennig' yn y Seremoni Wobrwyo Genedlaethol i Ffilmiau ac Animeiddiau Ysgolion.

"Camera'n barod... Camera'n rholio... ac... Acsiwn!

Pan oedd disgyblion o'r Ysgol Gynradd wledig ym Mhontsian wrthi'n cynllunio, recordio, golygu ac actio yn eu ffilm eu hunain, prin wnaethant ddychmygu y byddai'r ffilm honno'n cael ei dewis ar gyfer 'gwobr arbennig' yn y seremoni wobrwyo genedlaethol i ffilmiau ac animeiddiadau ysgolion.

Caiff y seremoni wobrwyo ei chynnal yn y British Film Institute (BFI), South Bank, Llundain, ar 25 o Dachwedd ac fe'i cyflwynir gan Floella Benjamin (actores a darlledwraig o fri oedd yn rhan o banel y beirniaid).

Yn 61 yin Mawrth 2008, cafodd y disgyblion gyfle i ddysgu'r sgil o greu a golygu ffilmiau gan Tim Davies, Athro Ymgynghorol ar gyfer TGCh yn Awdurdod Addysg Leol Ceredigion.

Cyn bo' hir, gyda'u brwdfrydedd a'u creadigrwydd, llwyddodd y meddyliau ifainc hyn i greu eu ffilm eu hunain.

Seiliwyd y ffilm, `Y Sgweier Slei', ar stori wir a ddigwyddodd o fewn ac o gwmpas Plas Alltyrodyn a leolwyd tua 2 filltir o'r Ysgol.

Cyfrannodd pob disgybl i'r gwaith golygu gofalus o greu ffilm ddu a gwyn fud, gydag is-deitlau Cymraeg.

Nododd Tim: "Mae'r prosiectau creu ffilmiau a gynigiwn i'r ysgolion yn brofiad dysgu cyfoethog i'r disgyblion sy'n dysgu ac yn datblygu nifer o sgiliau megis meddwl, cyfathrebu, Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebiad, rhifo, y Cwricwlwm Cymreig ac Addysg Bersonol a Chymdeithasol'.

Creodd y ffilm ddiddordeb enfawr pan gafodd ei chyflwyno i wyl ffilmiau Ceredigion yng Ngorffennaf 2008. Cafodd y disgybl blwyddyn 6 Richard Jones a chwaraeodd ran y Sgweier Slei ei gyfweld yn fyw ar Â鶹Éç Radio Cymru a gwnaeth Mr Gary Slaymaker, y cyflwynydd teledu a'r beirniad ffilm, nodi'n glir mai dyma oedd ei ffefryn o blith holl ffilmiau'r wyl.

Roedd Mrs Delyth Davies, y Pennaeth, wedi'i syfrdanu gan y canlyniad a dywedodd "Mae hyn yn gyflawniad ardderchog i bawb sy'n ymwneud a'r Ysgol a Sir Ceredigion. Roedd y gymuned leol wedi cyfrannu at greu'r fflm ac mae pawb yn falch iawn o lwyddiant yr Ysgol. Mae'r disgyblion yn llawn cynnwrf ynglyn ag ymweld a'r BFI i dderbyn eu gwobr arbennig."


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý