Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Garthen
Telynau Telynau Teifi
Chwefror 2004
Bydd sŵn canu i'w glywed yn hen adeilad Ysgol Gynradd Llandysul eto o'r flwyddyn nesaf ymlaen.

Mae cwmni newydd Telynau Teifi Cyf wedi llwyddo yn ei ymgais i ddenu nawdd at gychwyn busnes cynhyrchu telynau yn nyffryn Teifi.

Sicrhawyd arian o'r Undeb Ewropeaidd, ynghyd â chyfraniadau gan Gronfa Adfywio Lleol Cyngor Sir Ceredigion, Gwasg Gomer, Allan Shiers (gwneuthurwr telynau) ynghyd ag amser gwirfoddol gan aelodau'r cwmni.

Mae gan y cwmni Fwrdd Cyfarwyddwyr sy'n cynnwys yn bennaf, aelodau'r gymuned leol, ac sydd yn rhoi eu hamser a'u gwasanaeth am ddim.

Mae Allan Shiers yn dilyn traddodiad arbennig iawn o wneud telynau.

Cafodd ei ddysgu gan athro uchel ei barch, y diweddar John Thomas, Gwaelod y Garth, a nawr mae ef am ddysgu'r grefft brin o wneud telynau Cymreig i eraill.

Ag yntau wedi croesi hanner cant oed, mae Allan yn frwd iawn i rannu'r sgitiau y mae ef wedi eu meithrin o'i gartref yng Nghaerdydd gyda phobol ifanc yr ardal hon. Fe synnwch i glywed mai dim ond yn America, Ffrainc, Yr Almaen Yr Eidal a Siapan y ceir cwmnïau mawrion sy'n cynhyrchu telynau i weddill y byd.

Mae'r fenter newydd hon yn gobeithio cyflogi tua 8 person fel prentisiaid i Allan, a'r gobaith yn y pendraw yw y byddant hwy yn gallu cystadlu â'r farchnad eang hon. Mae gan Allan dros 30 mlynedd o brofiad, ond wrth iddo weithio o'i stydi yng nghefn gwlad Capel Dewi, mae'n cymryd bron i flwyddyn iddo gynllunio a chynhyrchu un delyn gyngerdd, sy'n gallu costio tua £14,000.

Trwy gofleidio technoleg fodern, mae'n gobeithio gallu cynhyrchu telynau at raddol ehangach a'u gwerthu am bris rhatach i'r cyhoedd. Ar hyn o bryd, mae myfyrwyr ôl-radd yng Nghanolfan Peirianneg Mecanyddol Prifysgol Caerdydd yn archwilio i'r dulliau gorau o ddefnyddio technoleg fodern a deunyddiau newydd ar gyfer cynhyrchu'r telynau.

Ond er y datblygiadau cyffrous hyn yn y brifddinas, mae Allan yn falch iawn ei fod ef a'i deulu wedi symud o Gaerdydd i Gapel Dewi. Mae ei ddau blentyn wedi derbyn addysg Gymraeg yn lleol, ac Allan a Gwynneth ei wraig, wedi bod yn driw iawn i'r gwersi Cymraeg gyda'r nos yn y pentref. O ganlyniad, mae Allan yn ymfalchïo yn y ffaith ei fod yn gallu thoi rhywbeth yn ôl i'r gymuned, ac yn y pen draw, perchen y gymuned fydd y ganolfan arbennig hon.

Mae Allan yn arbennig o awyddus i gydweithio gyda'r ysgol uwchradd led ac ynghyd â'r tîm sydd ganddo eisoes, mae'n gweld hyn fel rhan o'r broses greadigol. Yn ei farn ef, mae'n rhaid creu sylfaen economaidd gref er mwyn cynnal unrhyw gymuned lewyrchus.

Mae'n siŵr ein bod ni oll, ddarllenwyr Y Garthen, yn dymuno pob hwyl a llwyddiant iddo ar y fenter newydd hon.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý