Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Garthen
Question Time Cymorth dau ddisgybl ar Question Time
Gorffennaf/Awst 2006
Cafodd Geraint Faulkener ac Abby Humphrys eu dewis i gynrychioli Ysgol Gyfun Emlyn, Castellnewydd Emlyn a helpu tîm cynhyrchu Question Time.

Bu'r ddau, ynghyd â chwe disgybl arall o Loegr a'r Alban, yn helpu'r tîm i gynhyrchu rhifyn ar gyfer pobl ifanc nos Iau, wedi i'r ysgol yn un o bedair ddaeth i frig cystadleuaeth oedd yn hybu diddordeb pobl ifanc mewn gwleidyddiaeth a dinasyddiaeth.

Dywedodd Abby a Geraint fod y rhaglen yn un "cyffrous iawn" a'u bod yn drist fod y profiad wedi dod i ben. Daeth eu hysgol a thair ysgol arall i'r brig yng nghystadleuaeth Her Ysgolion Question Time wedi i'r beirniaid wylio disgyblion yn cynnal sesiwn holi ac ateb eu hunain ar batrwm y rhaglen deledu.

Wedi pleidlais ymhlith y disgyblion oedd yn y sesiwn honno, Geraint ac Abby gafodd eu dewis i gynrychioli'r ysgol. Mae'r ddau wedi bod yn Llundain ers dydd Mawrth yn helpu paratoi rhaglen sy'n cael ei darlledu o Theatr Laban, Greenwich.

Yn Ebrill fe fuon nhw'n dysgu mwy am y broses gynhyrchu yn Coventry wrth wylio'r tîm cynhyrchu arferol wrth eu gwaith. Fe dorrodd rhifyn nos lau dir newydd gan fod aelod o'r cyhoedd ar y panel am y tro cyntaf ers cychwyn y rhaglen 27 mlynedd yn ôl.

Ar ôl dod i'r brig mewn cystadleuaeth a chael sawl cyfweliad cafodd myfyriwr prifysgol 20-oed o Swydd Buckingham, Matt Pollard, ei ddewis.

Ar y panel
Y panelwyr eraill oedd Ysgrifennydd yr Amgylchedd, David Miliband, llefarydd Trysorlys y Democratiaid Rhyddfrydol Julia Goldsworthy, y cyflwynydd teledu Richard Madeley, a'r Arglwydd Coe, cadeirydd pwyllgor Gemau Olympaidd Llundain 2012.

Roedd Geraint, 18 oed o Drefach Felindre, yn un o'r rhai a awgrymodd pwy ddylai fod ar y panel. Ym Mawrth fe fu'n rhaid iddo yrru rhestr o bobl addas at y cynhyrchwyr ac wrth gyrraedd Llundain ddydd Mawrth fe gafodd wybod pwy oedd wedi eu dewis o'r enwau hynny.

"Roedden ni'n anelu at rai fyddai pobl ifanc yn gwybod amdanyn nhw," eglurodd.

"Mae Julia Goldsworthy newydd ymddangos yn rhaglen realaeth The Games yn ddiweddar, felly fe fydd pobl ifanc yn gwybod pwy yw hi, ac yn nabod yr Arglwydd Coe oherwydd y Gemau Olympaidd."

Dywedodd ar ôl gorffen recordio'r rhaglen fod holl aelodau'r panel wedi cael trafodaeth dda a bod y myfyriwr wedi dal ei dir yng nghwmni'r darlledwyr a'r gwleidyddion.

"Roedd Matt yn ffantastig ac fe fu'n herio'r gweinidog David Milliband gydol y rhaglen," meddai.

Ymysg y pynciau trafod roedd helyntion diweddar y dirprwy brif weinidog John Prescott, caniatáu i bobl iau bleidleisio mewn etholiadau ac effaith cynnal Gemau Olympaidd 2012 ar drigolion Llundain.

Cynulleidfa
Dyletswydd Abby, 17 oed o Gwm-coed, oedd helpu dewis aelodau'r gynulleidfa. Roedd gofyn iddi ffonio pobl oedd wedi ebostio neu ffonio yn gofyn am fod yn y gynulleidfa, a gwneud yn siwr eu bod yn siaradwyr da.

Hefyd fe fu 'n croesawu'r gynulleidfa wrth iddyn nhw gyrraedd, cofnodi eu manylion a chasglu cwestiynau posib ar gyfer y panel. Roedd safon y trafod wedi ei phlesio. Dywedodd ar ddiwedd y rhaglen:

"Roeddwn i wedi bod yn poeni y bydde'r gynulleidfa yn ddistaw, ond wrth i'r rhaglen fynd yn ei blaen, fe wnaeth y trafod ddod yn fwy a mwy bywiog. "Fe aeth y cyfan heibio mor gyflym - fe wnes i wylio hanner y rhaglen o'r gynulleidfa a'r ail hanner o'r oriel gynhyrchu. Roedd yn gyffrous iawn, ond rwy'n teimlo'n drist fod o wedi cwpla."

Dywedodd y ddau fod y profiad wedi bod yn wych ac wedi tanio eu diddordeb yn y maes. Mae Geraint yn gobeithio astudio gwleidyddiaeth a hanes ym Mhrifysgol Abertawe yn yr hydref ac Abby'n ystyried gweithio yn y cyfryngau.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý