Dydd Mawrth 17eg Ionawr 2006, 12.3Oyh
Wrth i fi sgrifennu hwn dwi'n styc wrth ochr y ffordd ychydig
filltiroedd y tu allan i Rydaman. Y clutch sy' 'di mynd, a
mynd wnaeth e fyd! Wasges i e fewn i newid gêr a ddaeth e
ddim nôl mas. Felly be wna i nawr? Dwi eisoes 'di cael gafael
ar rifau garejys lleol a dwi 'di ffonio rhyw Sais o'r enw Dave
yn Rhydaman i ddod mas.
Mae'n siŵr fod hyn yn ddigwyddiad digon cyffredin i ohebwyr sy'n gyrru o gwmpas ar drywydd stori bob dydd. I ddweud y gwir dwi'n synnu nad yw e 'di digwydd cyn hyn a finne'n teithio cymaint bob dydd. Dwi'n gorfod gwneud ers cymeryd drosodd fel gohebydd Gorllewin Cymru'r Â鶹Éç tra bod Anwen Francis ar gyfnod mamolaeth.
13.00yh
Mae sŵn tic toc y golau sy'n rhybuddio ceir eraill mod i 'di
torri lawr yn dechrau mynd ar fy nerfau nawr a dyw'r ffaith
fod angen tÅ· bach arna' i ddim yn helpu. Mae 'na gloddiau bob
ochr i'r ffordd ond â hithau'n ganol lonawr does dim digon o
ddail ar y perthi i fi fedru cuddio a dwi ddim eisiau cael fy
arestio!
13.40yh
Ble ddiawl mae'r boi 'ma? Mond o Rydaman mae'n rhaid iddo
fe ddod. Ocê, digon teg, dwi ddim yn mynd i unman ar hast,
ond o'n i'n disgwyl help bach ynghynt na hyn! Mae'r fenyw ar
ben arall y ffôn newydd ddweud ei fod e ar ei ffordd felly
mond disgwyl alla' i wneud. O'n i fod yng Ngwauncaegurwen
erbyn un, wedyn nôl i Drefach Felindre ganol prynhawn ac yna
yn Llechryd tua pump. Dyw hi ddim yn argoeli'n dda.
Dwi 'di neud yswiriant yn ddiweddar. Roedd y llall yn
cynnwys cymorth tasen i'n torri lawr. O'n i 'di bwriadu ymuno
â'r AA neu'r RAC bore 'ma and ches i ddim cyfle.
14.00yh
Mae'r fenyw o'r garej newydd ffonio: "I can't find him
anywhere so I'm sending my son and his friend". lawn medde
fi, 'mond gobeithio fod y ddau gyw-fecanic 'ma'n gwbod be'
maen nhw'n ei wneud.
14.1Oyh
Allen i gicio fy hun... a' garej arall canllath lawr yr hewl!
14.20yh
Erbyn hyn dw i yn y garej yn Rhydaman. Mae'r lle'n drewi o
gŵn ac olew. Yn ogystal â thrwsio ceir mae'n nhw'n delio â
sgrap. Gobeithio na ddaw hi i hynny. Mae nhw 'di cael gafael
ar weiren clutch newydd. Ddyle fe fod gyda nhw o fewn awr.
Dwi 'di cael sandwich felly dwi'n hapusach.
14.45yh
Dwi newydd sôn wrth berchennog y garej beth yw ngwaith i. Dwi ddim yn gwybod p'un ai fydd hynny'n fantais neu'n anfantais. Ar un llaw fe allen nhw wneud jobyn da am bris rhesymol, ar y llaw arall mae'n bosibl yn byddan nhw'n codi
mwy arna' i achos mod i'n gweithio i'r Â鶹Éç. Ddylen i 'di
dweud mod i'n gweithio i Watchdog neu X-Ray.
15.00yh
Dwi'n eistedd mewn caffi yn Rhydaman nawr yn yfed coffi
llaeth. Mae pawb yn siarad Saesneg ond mae'n nhwn swnio
fel tasen nhw'n gallu siarad Cymraeg yn iawn.
15.40yh
Coffi llaeth arall, yn yr un myg. Mae dyn bach newydd fod mewn yn cwyno ei fod e 'di gwario ei arian i gyd yn siopa a'n trio cael te am ddim. Chafodd e ddim lwc and fel Cardi da dwi'n edmygu ei hyfrdra fe.
16.30yh
Nôl yn y garej a'r car yn barod diolch byth. Dwi 'di setlo a'n barod i'w throi hi am adre. Wela' i ddim mo' Gwauncaegurwen heno mwy na Drefach Felindre na Llechryd. Mae 'na alwadau ffôn wedi eu gwneud i ganslo ac mae'r swyddfa yng Nghaerdydd yn gwbod na fydd yna eitem ar gyfer y rhaglen bore fory. Trueni, achos roedd hi'n stori dda 'fyd.
Mae Owain Evans yn gweithio fel gohebydd gyda'r Â鶹Éç yn y gorllewin. Os oes stori gyda chi cysylltwch ag e ar 01267 225728.
Cliciwch yma i weld lluniau o Owain Evans yn gohebu yn y gorllewin