Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Garthen
llun o'r sioe 'Joseff a'i got amryliw' Joseff a'i got amryliw
Tachwedd 2007
Roedd bron i 200 o ddisgyblion o flynyddoedd 7 i 13 ynghlwm wrth y sioe sef rhyw draean o'r ysgol - rhywbeth i'w ganmol ynddo'i hun.

"Ysbrydoledig a gwefreiddiol"

"Un o'r pethau gorau rwyf i wedi ei weld ar lwyfan yn unrhyw le yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf."

Roedd ymateb y gynulleidfa yn unfrydol wrth iddynt adael neuadd Ysgol Dyffryn Teifi yn dilyn perfformiadau'r disgyblion o'r sioe 'Joseff a'i got amryliw'. Cafwyd canmoliaeth frwdfrydig o bob tu.

Roedd y côr mawr lliwgar a oedd wedi ei leoli ar hyd ochrau'r neuadd yn bwerus a disgybledig ac yn cyfrannu'n aruthrol at lwyddiant y noson gan greu sain a oedd fel rhyw fath o system stereo o gwmpas y gynulleidfa. Roedd aelodau'r band hefyd yn wych. Mae hi'n sioe amrywiol iawn sydd â chaneuon mewn arddulliadau gwahanol a chyflwynwyd rhain yn ddramatig dros ben - i'r glust ac i'r llygaid.

Roedd y set a'r gwisgoedd yn effeithiol iawn ac yn sicr yn ychwanegu at y naws. Roedd y cefnlenni'n arbennig o gywrain a'r gwisgoedd yn cyfleu'r cymeriadau a'r sefyllfaoedd i'r dim. Cafwyd cymysgedd clyfar o'r swreal a'r realistig ac ni ellir ond canmol gwaith yr adrannau Celf a Thecstiliau.

llun o'r sioe

Ar y llwyfan ei hun, roedd cymaint yn digwydd! Llwyddwyd i wneud y digri yn wirioneddol ddoniol a'r golygfeydd dwys yn rhai dirdynnol. Roedd egni'r cast yn heintus gyda phob un yn chwarae ei ran gydag arddeliad. Yn sicr gwelwyd doniau perfformio arbennig ar y llwyfan yn ystod y saith perfformiad a gafwyd. Teg yw sôn yn benodol am berffromiad meistrolgar, hyderus Rhys Griffiths fel Joseff a pherfformiad graenus Elen Morgan fel llefarydd sy'n clymu'r cyfan. Sêr yn wir!

Bydd y golygfeydd o'r dawnsio bywiog wedi i Joseff gael ei ddwyn i'r Aifft; drama ddu a gwyn Potiffar; Pharo yn canu am ei freuddwyd; y brodyr newynog yn chwilio am fwyd; Joseff yn cyhuddo Benjamin o ddwyn, a chot Joseff ei hun yn cael ei hagor ar y diwedd yn aros yn hir yn y cof. Ac wrth gwrs roedd yna lawer, llawer mwy. Roedd hi'n sioe yn llawn uchafbwyntiau a'r sylw i fanylion bach a gafwyd yn y cynhyrchiad yn gwneud y profiad theatrig yn un unigryw.

Rhaid canmol yn arbennig waith yr Adran Ddrama a'r Adran Gerdd am eu gwaith gwych.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý