Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Garthen
Alun Jones Cofio Alun Jones, Saron
Chwefror 2010
Y Parchedig Emyr Wyn Thomas sy'n talu teyrnged i'r diweddar, Alun Jones, Saron, un o sylfaenwyr Y Garthen yn 1981.

Des i nabod Alun gyntaf nôl yn y 1960au fel Alun Brynafon, un o chwaraewyr snwcer rheolaidd yn Neuadd y Ddraig Goch, ac un o chwaraewyr pêl-droed yr enwog Bargod Rangers yn ardal Drefach Felindre, canolfan y Diwydiant Gwlan yn Nyffryn Teifi yng Ngorllewin Cymru.

Roedd yn arferiad galw pobl wrth eu henw cyntaf a'u cartref.

Roedd Brynafon ym mhentref Drefelin, rhyw hanner milltir dda o Felindre, ac yno oedd cartref Alun.

Roedd ganddo chwaer o'r enw Nesta. Roedd Alun, a dreuliodd flynyddoedd maith fel athro Cymraeg yn Ysgol Uwchradd Aberteifi cyn ymddeol, yn berchen ar fesur haelionus o hiwmor, ond cymerai ei waith, ei ddiddordebau a'i deulu o ddifri calon, a chofiaf amdano fel person didwyll a thrylwyr ymhob peth.

Ei ffugenw oedd 'Boxy'; nid wyf yn siwr o ystyr na tharddiad yr enw, ond roedd Alun yn uchel ei barch gan bawb a'i adnabu.

Priododd tua chanol y chwedegau â merch o ardal Trefdraeth, a ganwyd iddynt ddau o blant, Aneurin a Meleri, y ddau yn uchel eu parch, a mawr eu cyfraniad i'r iaith a'r diwylliant Cymraeg - blas y cyw yn y cawl! Yn anffodus collodd Alun ei briod yn yr 1980au, and er y brofedigaeth lem hon, ni phylodd y gweithgaredd a'r weledigaeth.

Ddechrau'r 1980au bu Alun a minnau yn gweithio yn agos wrth lansio Papur bro Dyffryn Teifi 'Y Garthen', a chofiaf lawenydd Alun ymhlith llawer cefnogwr arall, pan ddaeth y diweddar Huw Lewis Gwasg Gomer a rhifyn cyntaf 'Y Garthen' i olau dydd yng nghegin 'Yr Aelwyd' yn 5 Heol y Bedw yn Henllan, - fy nghartref ar y pryd, - tua dechrau'r 1980au.

Yn rheolaidd cyn ac ar ô1 hynny, byddem yn cwrdd yn lolfa ffrynt 'Yr Aelwyd' i drafod cynnwys a diwyg Y Garthen am flynyddoedd, weithiau yn anghytuno, fan amlaf yn cytuno, cyn mynd a'r Garthen i'w wely yng Ngwasg Gomer, Llandysul.

O dan yr amgylchiadau hyn gwelais Alun yn hollod gefnogol, weithiau yn ddigyfaddawd, ond wastad yn ffrind dibynadwy.

Byddwn yn aml yn ymweld a'i gartref yn Saron, a gweld bod gweithdy pob crydd cydwybodol yn siangdifang, ond bod y crydd yn gwybod ble i gael gafael ar pob darn bach anghenrheidiol!

Daliodd Alun ati gyda'r Garthen hyd at y diwedd, gan fod yn gyfrifol am gornel y beirdd yn Y Garthen.

Fe briodais ... a symud i fyw i Gwm Gwendraeth. Daliais i brynu'r Garthen - ei chael yn fisol o Siop y Pentan, Caerfyrddin. Sylweddolais fod Alun yn fwy na bardd Gwlad.

Ymddangosai'n aml ar Dalwrn y Beirdd. Mynychai Ysgol Farddol Caerfyrddin tan yn weddol ddiweddar, gan lewyrchu mewn nifer o Eisteddfodau lleol a chenedlaethol.

Ni chadwai'n ddierth o'r Babell Lên yn yr Eisteddfod Genedlaethol, a phwysicaf oll ni anghofiodd am ddoniau nac angenion ei febyd fro.

Cyhoeddodd sawl cyfrol farddoniaeth e.e, Tafell o Ddyffryn Teifi, gan fynnu'r safon ucha' o waith, a sicrhau chwarae teg i bawb.

Croesodd Alun yr afon, ac yntau ond yn ei saithdegau. Cofir amdano fel person bythol ifanc, and yn anffodus wedi cael dioddefaint tua diwedd ei oes.

Cofir amdano fel person ymarferol, ei farddoniaeth yn ddarnau bywiog lleddf a llon yn llawn ystyr, ac yn portreadu person wedi byw pob munud o'i fywyd i'r llawn eithaf.

Deisyfir ar i'r elfennau hyn gael eu hrgadw gan ei ddisgynyddion a'i gyfoeswyr i'r oesau a ddel.

Cydymdeimlir ag aelodau ei deulu, gan lawn sylweddoli na all ardal golli cymeriad na dylanwad un fel Alun a'i arddeliad a'i egwyddorion dros yr hyn a gredai.

O wybod am gynhesrwydd ardal bro'r Garthen mae gen i deimlad ym mêr fy esgyrn y bydd dylanwad Alun Lewis Jones - Alun Brynafon - yn goroesi ymhell i'r dyfodol.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý