Mae hyn o ddiddordeb i ddarllenwyr "Y Garthen" gan fod yr arweinyddes ddawnus yn dod o'r fro, sef Sioned James, gynt o Landysul ond bellach o Gaerdydd. Do, daeth Côrdydd yn gyntaf gyda beirniadaeth glodwiw, a'r arweinyddes ifanc yn derbyn cymeradwyaeth y beirniaid. Sioned ffurfiodd y côr o ieuenctid yma tua dwy flynedd yn ôl. I aelodau Côrdydd mae nos Iau yn noson ymarfer a chymdeithasau, ynghanol dinas cosmopolitaidd Caerdydd. Yn y darlun mae Keith Jones, Pennaeth Rhaglenni Cymraeg y Â鶹Éç, a Beti George o Radio Cymru yn cyflwyno y tlws i Sioned. Beti George oedd yn cyflwyno'r noson ac mae hithau hefyd o'r cylch. Llongyfarchiadau mawr i Côrdydd. Lwc dda i'r dyfodol.
|