Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Garthen
Cynthia Davies o lanfihangel ar Arth Llanbed - Moroco - Llandysul
Rhagfyr 2004
Pan gaeodd ffatri ddillad Dewhurst yn Llanbedr Pont Steffan, roedd yn gyfnod helbulus i lawer o'r gweithwyr lleol.

Symudodd y ffatri i ddinas Tangiers yn Moroco, a dim ond un o'r gweithwyr gafodd gynnig mynd gyda'r ffatri, sef Cynthia Davies o Lanfihangel ar Arth.Roedd Cynthia wedi bod yn gweithio yn ffatri Dewhurst, Llambed am 31 mlynedd, ac er iddi gael cynnig i symud i Aberteifi ac Abertawe gyda'r gwaith, roedd hi'n ddigon bodlon ei byd yn gweithio'n Llambed. Cam tipyn mwy oedd yr un i ogledd Affrica!

"Roedd pawb yn gweud wrtha' i am fynd" meddai Cynthia, "y byddwn i'n cael profiadau gwahanol, a'i fod yn gyfle rhy dda i'w golli. Mynd amdani wnes i wedyn, a chael cwpwl o fisoedd mewn gwesty yn Tangiers i gael gweld os o'n i'n hapus, a wedyn ffeindio fflat ac arwyddo'r contract gwaith."

Treuliodd Cynthia dair mlynedd yno yn dysgu dau berson sut i reoli llawr lle roedd 450 o bobol yn gweithio ar beiriannau. Gwnaeth lu o ffrindiau ymysg y bobol oedd yn gweithio yno, ac wedi dychwelyd i Landysul erbyn hyn, mae'n gweld eu heisiau yn fawr, a gweld eisiau'r haul hefyd wrth gwrs!

"Mae gen i atgofion da iawn" meddai Cynthia, "mae'r Morocans yn bobol hyfryd, ac roedd y bobol o'n i'n eu dysgu ishe dysgu, oedd yn gwneud fy ngwaith i lot yn haws."

Saesneg fu'r iaith rhyngddynt bob dydd, ond fe wnaeth Cynthia ddysgu rhywfaint o'r iaith frodorol hefyd, sef Arabeg, ac mae hi hyd yn oed yn canfod ei hunan heddiw yn dweud Shukran (diolch) i ambell yrrwr tacsi!

Erbyn hyn, mae Cynthia wedi dychwelyd nôl i ddyffryn Teifi i fyw a gweithio yma. Mae hi wedi agor ei siop ei hun, sef 'Nodwydde a Phinnau', ar stryd fawr Llandysul ers dechrau Tachwedd, ac mae'n hapus ei byd yn cael bod yn fos ar ei hun! Derbyniodd Cynthia lawer o gyngor ynglŷn ag agor ei busnes ei hun oddi wrth ffrind da iddi, Helena Gregson, sydd hefyd â siop wnïo ei hun sef 'Pwythau' yn Llambed. Bu'n edrych arni'n gweithio ac fe wnaeth hefyd dderbyn llawer o help a chyngor am grantiau a gwneud cynllun busnes wrth 'Llygad Busnes', Antur Teifi.

Bellach, mae'r siop ar agor, a Cynthia'n hapus iawn yn gwneud newidiadau i ddillad pobol yr ardal. "Mae pawb yn wahanol" meddai Cynthia, "felly ma' digon o waith i'w gael - y rhan fwyaf o bobol ishe llacio eu dillad!" Os felly, mae'n siŵr y bydd hi'n brysur iawn ar ôl y Nadolig hwn, gyda llawer mwy o ddillad am gael eu llacio eto! I gysylltu â Cynthia Davies yn 'Nodwydde a Phinnau', ffoniwch 07971684754.

Heledd ap Gwynfor
Prosiect Papurau Bro.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý