Â鶹Éç

'Cynhyrchiad slic' y sioe gynradd yn aros yn y cof

Disgyblion bro'r Eisteddfod yn cymryd rhan yn sioe Ar Gof a Chadw

06 Mehefin 2012

Adolygiad Meinir Williams o'r sioe cynradd a berfformiwyd yn mhafiliwn Eisteddfod yr Urdd 2012 ar nos Fawrth a nos Fercher yn ystod yr ŵyl:

Roeddwn wedi edrych ymlaen yn eiddgar i weld sioe yr ysgolion cynradd eleni - wedi darllen ambell erthygl yn y papur lleol ac wedi clywed hanesion gan rai o'r cast am yr holl hwyl a sbri yr oeddynt wedi ei gael dros y misoedd diwethaf yn mynychu'r ymarferion.

Noson ddigon diflas a mwdlyd oedd hi ar y maes nos Fercher diwethaf, ond cafwyd heulwen a chynhesrwydd tu mewn i'r pafiliwn trwy gyfrwng perfformiad gwych plant ifanc Eryri o'r sioe 'Ar Gof a Chadw'

Hanes ardaloedd Eryri a gafwyd yma; roedd golygfa Arfon yn cynnwys sgets ddigrif o dwristiaid Americanaidd yn cyfarfod â 'chofis' tref Caernarfon; golygfa Dyffryn Ogwen yn adrodd hanes trist Twm, y bachgen 10 oed aeth i'r chwarel ar ei ddiwrnod cyntaf ond na ddaeth adre'n fyw wedi damwain angeuol; golygfa ardal Pen Llŷn yn cynnwys canu hwyliog ar y traethau a'r merched tew yn "Joio yn Abersoc!", yna golygfa Eifionydd yn cynnwys rapio'r ffermwr yn canmol ei fyd ynghanol ei wartheg ym Mart Bryncir; ac yna i gloi, hanes digrif Blodeuwedd yn Nyffryn Nantlle yn dod allan o'r pair wedi ei gwisgo fel doli Barbie.

Rhwng cyflwyniad pob ardal roedd ffotograffydd yn 'tynnu llun' o'r olygfa er mwyn ei rhoi ar gof a chadw, syniad tu hwnt o effeithiol.

Roedd yr holl gynhyrchiad yn slic iawn, ac anodd oedd credu fod cynifer â 380 o blant yn cymryd rhan gan fod rheolaeth y llwyfan yn ardderchog.

Cafwyd caneuon newydd gwefreiddiol, rhai sy'n dal i droi a throi yn fy mhen, yn arbennig felly 'Ar Gof a Chadw' a chân 'Blodeuwedd'. Roedd y canu, dan arweinyddiaeth medrus Mrs Pat Jones yn afiaethus, a rheolaeth y plant o'r canu deusain yn anhygoel.

Pob clod i Mr Ken Hughes a'r tîm cynhyrchu talentog am lwyfannu cynhyrchiad arbennig, ac am roi cyfle i bob plentyn yn yr ardal i fod yn rhan ohoni. Roedd mwynhad y gynulleidfa'n amlwg, ond doedd dim i guro'r mwynhad ar wynebau'r plant ifanc ar y noson. Profiad bythgofiadwy i ni gyd, un rwy'n siwr fydd ar gof a chadw yr holl gast am byth.


Plant

Dewch i fyd hudol Tree Fu Tom am gemau, anturiaethau a swynau!

Gêm y Gof

Gêm y Gof

Chwarae

Gweithia dy ffordd trwy'r pedair lefel i ddod yn feistr yng ngefail y castell.

Bitesize TGAU

Logo Bitesize

Cymorth adolygu

Gweithgareddau, testun adolygu, fideos, clipiau sain a phrofion!

C2

Huw Stephens Yn ei Grŵf!

Gêm: Yn y Grŵf

Rhowch dro ar gêm C2 - hwyl a sbri wrth ddewis Huw a mwy fel cyflwynydd!

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.