Ddydd Mercher mae'r cystadlu yn symud ymlaen at blant Blwyddyn 7 - 9 a bydd cyfle cyn y brif seremoni i glywed Neges Heddwch ac Ewyllus Da yr Urdd a .
Mae'r neges eleni yn cael ei hariannu gan yr Olympiad Diwylliannol ac fe'i lluniwyd gan Fforwm Ieuenctid Eryri ar y thema Gemau Olympaidd.
Y Fedal Ddrama yw prif seremoni'r dydd am 2.30pm.
Caiff prif ddramodydd yr ŵyl ei anrhydeddu am gyfansoddi drama lwyfan un act sy'n cymeryd rhwng 40 - 60 munud i'w pherfformio.
Yn ogystal â'r fedal, caiff y buddugol gyfle i dreulio amser gyda'r Theatr Genedlaethol.
Meistr y Ddefod yw Ffion Dafis a'r beirniaid yw Iola Ynyr a Dafydd James. Rhoddir y fedal er cof am Wil Sam gan ei weddw Dora, a'i ddwy ferch, Mair ac Elin.
Enillydd y fedal hon llynedd oedd ac mae ei drama buddugol hi, Gwagle, yn cael ei pherfformio ar ddydd Sul, Mehefin 3 a dydd Mercher, 6 Mehefin.
Fin nos, yn y Pafiliwn, ceir cyfle arall i weld y Sioe Cynradd, Ar Gof a Chadw, am 8pm.