06 Mehefin 2012
Roedd prosesiwn o geffylau Mari Lwyd yn cerdded drwy'r faes Eisteddfod yr Urdd yng Nghlynllifon ddydd Mercher er mwyn tynnu sylw at brosiect i helpu i adfywio y traddodiad drwy Gymru.
Ar un adeg, roedd y Fari Lwyd yn rhan o ddathliadau'r flwyddyn newydd drwy Gymru ond erbyn hyn mae'n draddodiad a gysylltir yn bennaf â de ddwyrain y wlad, er ei bod yn ymddangos hefyd yn nathliadau Cadi Ha' Sir y Fflint.
Mae mudiad Trac - Traddodiadau Cerddorol Cymru - wedi cael cyllid o £6,700 i gynnal prosiect i helpu i adfywio'r traddodiad.
Bwriad y prosiect ydy darparu adnoddau a gwethdai ar arferion traddodiadol y Fari Lwyd, gan gynnwys gwersi cerddoriaeth a dawns a model 'pacio'n fflat' o benglog ceffyl, i ateb y broblem o ddod o hyd i benglog ceffyl go iawn ar gyfer creu y Fari.
Bu Trac yn Ysgol Gynradd Nefyn yn ddiweddar i gynnal gweithdai i hyrwyddo'r traddodiad a pharatoi'r ceffylau gyda'r plant ar gyfer cymryd rhan yn y perfformiad yn yr Urdd.
Meddai Gwawr Howel, athrawes yn Ysgol Gynradd Nefyn: "Rydym wedi bod yn ffodus iawn i fod yn un o'r ysgolion cyntaf i gymryd rhan ym mhrosiect Fari Lwyd.
"Yn ogystal â chefnogi'r cwricwlwm, fe gipiodd y gweithdai ymarferol ddychymyg y plant a datblygu sgiliau newydd a gwell dealltwriaeth o'u treftadaeth a diwylliant."
Meddai Danny Killbride, Cyfarwyddwr Trac: "Trwy gydol y prosiect byddwn yn ymweld ag ysgolion a grwpiau cymunedol ... Gobeithio y bydd y sgiliau hyn yn cael eu pasio ymlaen rhwng grwpiau cymunedol wedyn, gan ehangu gwybodaeth ac arfer traddodiad y Fari Lwyd ledled Cymru."