05 Mehefin 2012
Dim ond pymtheg oed yw Nia Haf Jones o Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun, ond ers iddi ddechrau'r ysgol uwchradd mae wedi bod yn uchelgais ganddi i ennill Medal y Dysgwyr.
A heddiw ar faes Eisteddfod yr Urdd Eryri, fe wireddodd hi'r uchelgais honno.
"Roeddwn i eisiau ennill y Fedal oherwydd y byddai hynny yn dweud mod i wedi cyrraedd lefel uwch efo safon well," meddai.
A wnaeth y profiad ddim siomi chwaith yn ôl Nia sy'n ei ddisgrifio fel un "arbennig - profiad gwych. Dydw i byth yn mynd i anghofio bod ar y llwyfan."
Er bod ganddi enw Cymraeg, dim ond ers Blwyddyn 6 mae Nia wedi bod yn dysgu'r iaith. Mae ei thad, sy'n gweithio i Gyngor Wrecsam ac yn wreiddiol o Landegla, yn siarad Cymraeg ond Saesneg yw iaith ei mam, er mai hi a ddewisodd enw Nia, gan deimlo ei bod yn bwysig i'w merch gael enw Cymreig gan ei bod yn byw yng Nghymru.
"Ers pan dwi'n fach, dwi wedi siarad Saesneg efo mam a dad ond rydw i'n trïo siarad dipyn bach o Gymraeg efo dad rŵan," meddai Nia.
"Rydw i hefyd yn cael gwersi tu allan i'r ysgol efo Mrs Thomas," ychwanegodd gan ddweud ei bod am geisio defnyddio mwy o'r iaith mewn siopau a chyda rhai o'i ffrindiau sy'n medru'r iaith. Am mai i ysgol gynradd Saesneg yr aeth hi, dywed mai yn Saesneg mae hi'n cymdeithasu fel arfer.
±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å
Roedd rhaid i Nia ysgrifennu tri darn o waith a chyflwyno recordiad o'i hun yn siarad am ei diddordebau a'i hanes er mwyn ennill y wobr.
Un o'r darnau a ysgrifennodd oedd adolygiad o'r llyfr Cymry Man U, ac mae pêl-droed yn rhan bwysig o fywyd y teulu.
"Mae gen i ddau frawd mawr ac mae dad yn eu cefnogi," esbonia, "mae Man U yn beth pwysig yn ein tÅ· ni. Dwi wedi bod i Old Trafford ddwy waith. Mae'n biti eu bod nhw wedi colli'r gynghrair!"
Weddill yr wythnos, mae gan Nia ddigon ar ei phlât: mae'n cystadlu eto ddydd Iau ar y Llefaru i Ddysgwyr ac mae ganddi hefyd bedwar arholiad TGAU ar ôl.
A'i huchelgais newydd, rŵan ei bod wedi cyflawni hon, ydy gwneud yn dda yn ei harholiadau a chael swydd dda.