麻豆社

Blwyddyn brysur Eirian

Eirian Stephen Jones

06 Mehefin 2012

Wrth siarad gyda'r wasg fore Mercher dywedodd Eirian Stephen Jones na fyddai hi fyth wedi gallu gwneud hynny oni bai iddi gael ei dewis yn Llywydd yr Urdd fis Tachwedd diwethaf

Diolchodd i'r mudiad am y cyfle.

Meddai: "Mae'n synnu llawer o bobl pan fyddai'n dweud mod i'n eithaf swil ac mae'n gas gen i siarad yn gyhoeddus.

"Mae'n well gen i fod yn gwneud pethau yn ddistaw bach yn y cefndir, ond mae'r Urdd wedi bod yn gymorth i mi fagu rhywfaint o hyder trwy gystadlu, arwain cyfarfodydd ac arwain Eisteddfodau," ychwanegodd.

Mae wythnos Eisteddfod yr Urdd Eryri yn binacl arall gofiadwy yng nghyfnod Eirian, 34 oed, ers cael ei hethol.

Fore Mercher roedd hi eisoes wedi bod mewn rhagbrawf parti cerdd dant gydag Adran Bentref Rhosybol ac yn edrych ymlaen ers tro i gael bod yn rhan o'r bwrlwm am yr wythnos gyfan.

Hyd yma eleni mae hi wedi mwynhau bod yn westai ar Wedi 7 yn Llanelli, helpu trefnu, fel arfer, Eisteddfodau Cylch a Sir Rhanbarth M么n yn nhymor y Pasg, a mynd n么l i Lanelli ar daith gyda llond bws o griw ifanc Ynys M么n: "Taith rygbi oedd hi, ac roedd y criw yn cael y cyfle i hyfforddi gyda staff hyfforddi y Scarlets a Dafydd Jones cyn chwaraewr i'r Scarlets a Chymru, a gweld y Scarlets yn chwarae yn erbyn Gwyddelod Llundain.

Mae un profiad yn sefyll allan fel uchafbwynt i flwyddyn Eirian: "Ces i gynrychioli'r Urdd mewn derbyniad G诺yl Ddewi yn rhif 10 Stryd Downing," meddai. "Roedd yn brofiad swreal siarad gyda Ffion Hauge, ac enwogion fel Rebecca Evans, Karl Jenkins, Tim Rhys Evans, Steve Jones, Warren Gatland and Joanna Page yn sefyll y tu cefn i fi.

"Ges i gyfarfod y Prif Weinidog, ac arwr y foment Sam Warburton, a hynny ddyddiau ar 么l i Gymru ennill y goron driphlyg!"

Meddai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr Urdd: "Mae'r Urdd yn ymfalch茂o mewn rhoi profiadau gwerthfawr i bobl ifanc, ac rydyn ni hefyd yn falch o weld y pobl ifanc hynny yn datblygu i fod yn arweinwyr eu hunain.

"Ry'n ni'n falch iawn bod ein Llywyddion yn cael profiadau da, a'n bod yn cael cyfle i ddiolch iddyn nhw am y gwaith gwirfoddol cyson sy'n cael ei gyflawni ganddynt. Mae Eirian wedi bod yn wyneb cyhoeddus gwych i'r Urdd eleni, a dwi'n edrych mlaen i barhau i gydweithio gyda hi hyd ddiwedd ei chyfnod."

Is lywyddion yr Urdd eleni yw Bethan Mair Williams o Gaerdydd ac Edryd Eynon o Lanboidy.


Plant

Dewch i fyd hudol Tree Fu Tom am gemau, anturiaethau a swynau!

G锚m y Gof

G锚m y Gof

Chwarae

Gweithia dy ffordd trwy'r pedair lefel i ddod yn feistr yng ngefail y castell.

Bitesize TGAU

Logo Bitesize

Cymorth adolygu

Gweithgareddau, testun adolygu, fideos, clipiau sain a phrofion!

C2

Huw Stephens Yn ei Gr诺f!

G锚m: Yn y Gr诺f

Rhowch dro ar g锚m C2 - hwyl a sbri wrth ddewis Huw a mwy fel cyflwynydd!

麻豆社 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆社

麻豆社 漏 2014 Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.