06 Mehefin 2012
Gyda'r Urdd yn dathlu 90 mlynedd eleni, mae Bwrdd yr Eisteddfod wedi penderfynu cynnal adolygiad o'r ŵyl er mwyn paratoi at ddathliadau'r can mlynedd yn 2022.
Dan gadeiryddiaeth y Barnwr Nic Parry mae Eisteddfod yr Urdd wedi sefydlu gweithgor i greu strategaeth ar gyfer dyfodol yr ŵyl.
Bwriad y Gweithgor yw cyflwyno argymhellion i Gyngor yr Urdd eu hystyried, a bydd yr argymhellion hynny yn ffrwyth gwaith ymchwil eang.
Bydd y gwaith ymchwil yn cynnwys cyfarfodydd grwpiau ffocws, grwpiau cwsmer, cyfweliadau, a holiaduron gydag ystod eang o gwsmeriaid yr Eisteddfod.
Mae'r gwaith eisoes wedi dechrau gyda'r Eisteddfod yr wythnos yma yn holi ymwelwyr beth hoffen nhw ei weld ar y Maes ymhen deng mlynedd.
"Rydyn ni'n cynnal ymgynghoriad cenedlaethol ac yn gofyn i bobl beth hoffen nhw ei weld yn wahanol fel modd o gasglu barn y bobl," meddai Nic Parry.
Ychwanegodd: "Mae cynllunio at y dyfodol yn allweddol yn enwedig yng ngoleuni'r wasgfa ariannol bresennol, sefyllfa sy'n cael effaith ar amryw o bartneriaid yr Eisteddfod o lywodraeth ganolog a lleol, darlledwyr, noddwyr, arddangoswyr, busnesau, costau cludiant. I'r perwyl hynny, dwi'n gobeithio bydd y Gweithgor yn gallu arwain y ffordd ar ddatblygiadau newydd i'r ŵyl yn y dyfodol, a dwi'n edrych ymlaen i weld ble fydd y trafodaethau yn ein harwain."
Ymysg y themâu fydd o dan sylw bydd Maes yr Eisteddfod a materion technegol, y maes carafanau a'r maesydd parcio, gweithgaredd ac atyniadau'r Maes, materion cystadlu - o ddewis testunau i'r Eisteddfodau Cylch a Sir - marchnata a chyfathrebu, darlledu o'r ŵyl, gwirfoddolwyr a chyllido'r Eisteddfod.