Â鶹Éç

Coron i Anni Llŷn am waith ffantasïol

Anni LlÅ·n

08 Mehefin 2012

Mae Anni LlÅ·n yn wyneb cyfarwydd i wylwyr ifanc S4C fel cyflwynydd y rhaglen Stwnsh ac i Eisteddfodwyr fel cystadleuydd ac enillydd cyson ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd ers pan mae hi'n blentyn.

A rŵan mae'r ferch fferm 24 oed o Sarn Mellteyrn wedi profi ei dawn mewn maes arall gan ddod yn brif lenor Eisteddfod yr Urdd Eryri 2012 ac ennill y Goron ar ddiwrnod gwlypaf yr ŵyl.

Wrth ganmol safon y gystadleuaeth, soniodd Catrin Dafydd wrth draddodi ei beirniadaeth hi a Meg Elis o'r llwyfan, am 'fyd hudol' ei darn rhyddiaith buddugol sy'n darlunio 'realiti arall' mewn pentref dychmygol o'r enw Mychlogydd.

Gan gyfaddef bod y stori a'r syniad yn un cymhleth esbonia Anni fod yna ddau fath o berson ym mhentref Mychlogydd - seiri geiriau, sydd â phwerau arbennig i allu cyfansoddi rhywbeth sy'n debyg i gynghanedd a'r 'dychmygwrs' ond mae'r seiri geiriau yn gallu rheibio dychymyg y dychmygwrs os nad ydy'r ddawn i ddychmygu ganddyn nhw eu hunain, eglurodd

"Hanes dychymyg y dychmygwr sydd yma. Y syniad ydy fod y darn yn edrych ar y ffin rhwng yr awdur a'r darllenydd a'r awdur a'i gymeriadau," meddai.

Lluniodd Anni'r gwaith yn wreiddiol ar gyfer ei chwrs MA mewn Cymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, lle dilynodd hi fodiwl ysgrifennu creadigol, ac mae'n nodi fod ei thiwtor Ceri Elen yn arbennig wedi ei helpu gyda'r gwaith.

Ond, dywedodd fod y thema Egin, sef testun y gystadleuaeth, wedi rhoi cyfle roedd hi'n falch ohono i fynd yn ôl at y gwaith a'i ailwampio. Dywed fod y testun wedi ei helpu hi i ddeall ei syniad gwreiddiol ei hun ac egin dychymyg yr awdur yw'r egin yn ei darn hi.

Mae Anni yn nodi'r awdur Robin Llywelyn, a'i nofel O'r Harbwr Gwag i'r Cefnfor Gwyn yn enwedig, fel dylanwad mawr arni a hefyd nofel Emlyn Gomer Roberts, Ar Drywydd y Duwiau.

"Dwi'n licio stori gryf," meddai Anni "ond roeddwn i eisiau bod yn heriol ar gyfer y gystadleuaeth yma a chyflwyno syniad llenyddol."

Dywedodd ei bod yn hoffi'r syniad bod awdur yn gallu mynd â phobl i fyd arall.

A dydi Anni ddim yn gweld unrhyw wrthdaro rhwng ei gyrfa ym myd y cyfryngau a llenydda ac mae'n gobeithio parhau i allu gwneud y ddau.

"Rydw i'n mwynhau fy ngwaith ac rydw i'n lwcus bod cyflwyno Stwnsh yn fy ysbrydoli ond mi alla i droi at 'sgwennu ryw dro," meddai.

Ar y gweill ganddi ar hyn o bryd mae noson lenyddol y mae hi, Osian Rhys Jones, Rhys Iorwerth - un o feirniaid cystadleuaeth y yn yr Urdd eleni - a LlÅ·r Gwyn Lewis wedi eu comisiynu i ysgrifennu ar ei chyfer fel rhan o Daith y Sipsiwn sydd i ymddangos ar S4C cyn hir.

Dyma'r ail dro iddi gystadlu mewn cystadleuaeth ysgrifennu yn Eisteddfod yr Urdd; daeth yn drydydd yn nghystadleuaeth y Goron llynedd ac mae wedi ennill coron yr Eisteddfod Ryng-golegol hefyd.


Dysgu

Merch yn adolygu

Bitesize TGAU

Nodiadau adolygu, gweithgareddau a phrofion i fyfyrwyr TGAU.

Gêm y Gof

Gêm y Gof

Chwarae

Gweithia dy ffordd trwy'r pedair lefel i ddod yn feistr yng ngefail y castell.

Ffeil

Darllenwch y penawdau newyddion a'r chwaraeon diweddaraf a gwylio'r rhaglen.

Plant

Dewch i fyd hudol Tree Fu Tom am gemau, anturiaethau a swynau!

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.