Â鶹Éç

Yr Oes Haearn: Ffordd o fyw

TÅ· crwn 'Celtaidd'

gan Catrin Stevens

Yn dilyn Oes y Cerrig a'r Oes Efydd, mae oes ddiwethaf cynhanesyddol Prydain yn cael ei galw yn yr Oes Haearn, oherwydd daeth gwneud arfau ac offer o haearn yn gyffredin ynddi.

Yn draddodiadol, mae'r Oes Haearn yng Nghymru yn dyddio o'r seithfed ganrif CC hyd at ganol y ganrif gyntaf OC, pan gyrhaeddodd y Rhufeiniaid.

Bellach, dydy haneswyr ddim yn credu bod ton ar ôl ton o Geltiaid wedi ymfudo o Ewrop i Brydain yn y cyfnod hwn. Yn hytrach, maen nhw'n meddwl bod dylanwad y Celtiaid wedi treiddio dros y canrifoedd a bod yr Oes Haearn yn gyfnod o barhad a dilyniant o ran patrymau aneddiadau a thraddodiadau.

Sut ydyn ni'n gwybod?

Gan nad oedd y Celtiaid yn ysgrifennu'u hanes eu hunain ar bapur, mae'n rhaid dibynnu ar dystiolaeth archaeolegol a darganfyddiadau eraill. At hyn mae gyda ni sylwadau haneswyr Groegaidd fel Hecataeus o Filetus, a soniodd am fodolaeth 'Celtiaid' yn Ewrop yn 517CC, neu'r concwerwyr Rhufeinig a oedd yn galw'r bobl hyn yn 'Galiaid' neu 'Celtae'. Mae'n rhaid defnyddio'r termau hyn yn ofalus, achos maen nhw'n gallu bod yn rhagfarnllyd.

Cartrefi

Roedd pobl yr Oes Haearn yn byw mewn llwythau: y Silwriaid yn y de-ddwyrain, y Demetae yn y de-orllewin, y Deceangli yn y gogledd-ddwyrain a'r Ordofigiaid yn y gogledd-orllewin a'r canolbarth.

Actorion yn portreadu cartref Celtaidd
Ail-gread o'r tu mewn i dÅ· crwn

Roedden nhw'n byw mewn amrywiaeth o gartrefi, o ffermydd teuluol unigol i'r bryngaerau sy'n cael eu cysylltu yn arbennig â nhw. Does neb yn siŵr beth oedd union ddefnydd y bryngaerau. Oedden nhw'n gadarnleoedd dros dro, yn ganolfannau sanctaidd neu'n gartrefi parhaol ar gyfer yr uchelwyr? Bu pobl yn byw yn rhai ohonyn nhw am ganrifoedd ac yn eu haddasu fel roedd ei angen. Maen nhw'n amrywio yn eu maint o ddeuddeg hectar bryngaer Castell Henllys ym Mhenfro i 57 hectar bryngaer Llanymynech ger Croesoswallt. Mae archaeolegwyr yn credu bod rhwng 100 a 400 o bobl yn byw yn y 150 o gytiau ym mryngaer Tre'r Ceiri, Penrhyn Llŷn.

O fewn y bryngaerau roedd tai crwn gyda waliau o fwd, gwellt a thail, tua 8 metr mewn diamedr ar gyfartaledd, â thoeon o wellt neu frwyn; stordai i gadw grawn; pydewau i gasglu dŵr glaw a llefydd tân yn yr awyr agored. Roedd rhai o'r Celtiaid yn byw, er hynny, mewn caerau pentir, fel yng Ngarn Boduan, Penrhyn Llŷn.

Ffordd o fyw

Llyn Cerrig Bach heddiw
Llyn Cerrig Bach ym Môn

Byddai dynion yr Oes Haearn yn treulio'u hamser yn tyfu cnydau gwenith, rhyg, barlys, a cheirch efallai, ac yn bugeilio moch, geifr, defaid a gwartheg; yn hela ac yn pysgota.

Byddai'r menywod yn malu grawn ac yn gwehyddu ac yn coginio ar gyfer eu teuluoedd. Doedden nhw ddim yn bobl gyntefig. Roedd ganddyn nhw erydr haearn i drin y tir; bydden nhw'n cylchdroi cnydau ac yn defnyddio gwrtaith o galch a marl.

Roedd ganddyn nhw gaethweision i weithio iddyn nhw, naill ai o blith troseddwyr neu elynion a oedd wedi cael eu cipio mewn brwydr. Mae'r cadwyni caethweision a gafodd eu darganfod yng nghelc Llyn Cerrig Bach ar Ynys Môn yn profi hynny. Bydden nhw'n masnachu gydag Iwerddon a'r cyfandir ac yn cyfnewid allforion fel cŵn hela, metelau, crwyn a chaethweision am fewnforion o grochenwaith, gwinoedd a thlysau.

Bara, cawl ac uwd ynghyd â chig ffres neu gig wedi'i halltu, oedd eu diet. Câi'r bwyd ei goginio mewn crochan neu bair, neu ar gigwain, dros dân agored. At hyn, bydden nhw'n tyfu pys a ffa, perlysiau a ffrwythau. Felly, er bod diffyg fitaminau a haearn yn eu diet, roedd yn ddigon iachus, os yn undonog.

Actorion wedi eu gwisgo fel 'Celtiaid'
Dillad lliwgar y 'Celtiaid'

Yn ôl disgrifiadau'r Rhufeiniaid, byddai'r Celtiaid yn gwisgo dillad lliwgar, patrymog, gyda thorchau am eu gyddfau a'u breichiau a thlysau i gau eu clogynnau. Roedd y dynion yn eillio'u barfau ond yn cadw'u gwallt a'u mwstashis yn hir.

Eu rhyfelwyr

Mae'r Rhufeiniaid yn dweud bod y 'Celtiaid' yn 'bobl ryfelgar a pharod i ymladd'. Mae amddiffynfeydd cymhleth nifer o'r bryngaerau: y ffosydd, y palisadau, y drysau cryfion a'r tyrau pren yn dangos eu bod yn ymladd ymysg ei gilydd yn ogystal ag yn erbyn gelynion allanol fel y Rhufeiniaid. Cyn brwydr byddai rhyfelwr yn rhoi calch ar ei wallt i wneud iddo sefyll i fyny'n stiff, a byddai'n addurno'i gorff noeth â thatŵs gyda sudd y glaslys. Ei nod oedd codi ofn ar y gelyn. Byddai'r penaethiaid yn ymladd o gerbydau yn cael eu tynnu gan geffylau rhyfel.


About this page

This is a history page for schools about the Iron Age people of Britain, who are often called Celts. They lived in tribes, spoke a Celtic language and farmed the land but were also fierce fighters according to Roman writers. Click on the Vocab button at the top of the page for help with Welsh translation.

Gwefannau hanes ar gyfer plant cynradd, uwchradd ac athrawon.

eClips

Clipiau fideo a sain o archif y Â鶹Éç am bob pwnc ar gyfer pob oedran.

Bywyd

Llun o stori Antur Sabrina

Chwedlau

Chwedlau hen a newydd, gan gynnwys y Mabinogi, a gemau hwyliog.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc © Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.