Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Y Celtiaid

Â鶹Éç Homepage
Cymru'r Byd
Addysg
Y Celtiaid

Gemau a storiau

Ffeil ffeithiau

Ble yng Nghymru

Eich Crefftau Celtaidd

Rhieni ac athrawon

English

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Gemau a storiauFfeil FfeithiauEich Crefftau CeltaiddBle yng NghymruRhieni ac athrawonEnglish

Castell Henllys

Castell Mae ymwelwyr â Chaer Oes yr Haearn Castell Henllys ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro yn edrych ar rywbeth sy'n mynd â nhw'n ôl 2,300 o flynyddoedd mewn amser, i cyn hanes Prydain.

Mae adeiladau yma wedi'u hailadeiladu gan ddefnyddio tystiolaeth a gloddiwyd ar y safle. Mae'r anheddiad Oes yr Haearn sydd wedi'i ail adeiladu yn cynnwys tri thy crwn to gwellt anferth, gof ac ysgubor crwn to gwellt (oddi ar y llawr ar bedwar postyn) gyda ffens o amgylch y blaen, yn ogystal â thy'r pennaeth a chysgodfa i'r anifeiliad.

Mae'n werth mynd ar ymweliad yno gan ei fod yn rhoi cipolwg ar amgylchiadau byw a gweithiol y deiliad gwreiddiol. Mae archeolegwyr o Brifysgol Efrog wedi bod yn cloddio yma bob haf gan ddarganfod tyllau pyst a phyllau yn cynrychioli tai crwn.

Mae cynllun ar gyfer adeiladau pedwar postyn, a gredir eu bod yn ysguboriau wedi'u codi oddi ar y llawr i amddiffyn yr yd rhag llygod mawr, tystiolaeth o waith crefft, gwaith haearn, yn ogystal â gweithgareddau amaethyddol wedi dod i'r wyneb. Mae haneswyr yn awgrymu i'r anheddiad gartrefu cymuned o sawl teulu gyda phoblogaeth efallai o tua 100 neu fwy o bobl.

Cyfarwyddiadau

Dilynwch yr A487 o Drefdraeth i Aberteifi. Tua 6.4 cilometr o Drefdraeth, mae'r safle wedi'i nodi ar bostyn. Trowch i'r chwith i fynd i faes parcio'r safle. Mae'r safle ei hun tua 100 metr ar droed. Oriau agor: Ebrill - Hydref 9.30-1700. Ffôn 01239 891319 ar gyfer ymholiadau.

© y Goron: CBHC



Map © Crown copyright. All rights reserved Â鶹Éç AL100019855 2002


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý