Y Brythoniaid Celtaidd - tua 600 CC i 43 OC
28 Awst 2008
Tarddodd yr ieithoedd Celtaidd gwahanol a siaradwyd ar draws Cyfandir Ewrop o'r iaith Ewropeaidd wreiddiol.
Datblygodd dau brif grŵp o ieithoedd ar Ynysoedd Prydain: Gaeleg yn Iwerddon a'r Frythoneg yn yr hyn a elwir heddiw yn Gymru, Lloegr a De'r Alban.
Bellach, gelwir iaith y bobl gyntaf i fyw yn Ewrop yn Indo-Ewropeaidd. Esblygodd y mwyafrif o'r ieithoedd Ewropeaidd, gan gynnwys y Gymraeg, o'r iaith yma. Oherwydd effaith ymfudo ac amser, datblygodd naw grŵp ieithyddol allan o Indo-Ewropeaidd, a'r Gelteg yn un ohonynt. Yn ei dro, datblygodd teulu o ieithoedd o'r Gelteg.
Cyn dyfod yr Ymerodraeth Rufeinig, yr oedd ieithoedd Celtaidd yn cael eu siarad ar draws Ewrop. Mae hyn i'w weld heddiw mewn enwau llefydd: mae yna gysylltiad Celtaidd â thref Bala yn Nhwrci a dinas Llundain yn Lloegr, felly hefyd afonydd Donaw, y Rhôn a'r Rhein. Credir bod tair ffurf y Gelteg yn cael eu siarad ar gyfandir Ewrop: Galeg yn Ffrainc a gogledd yr Eidal, Celtibereaidd yn Sbaen a Galateg yng Nghanolbarth Twrci. Y mae'r ieithoedd hyn wedi hen farw.
Yr ieithoedd Celtaidd a oroesodd oedd y rhai a ymfudodd o dir mawr Ewrop i ynysoedd gorllewinol Prydain ac Iwerddon. Fe'i gelwid yn Ynysig er mwyn gwahaniaethu rhyngddynt â ieithoedd Cyfandir Ewrop. Fe ddatblygodd dwy gangen o'r Gelteg ar yr ynysoedd gorllewinol hyn.
Goedeleg ddaeth yn brif iaith Iwerddon, Celteg Q, oherwydd y sŵn kw nodweddiadol, gan arwain at yr Wyddeleg, Gaeleg yr Alban a'r Fanaweg. Yn ôl y rhan fwyaf o haneswyr daeth yr iaith Geltaidd i Brydain tua 600 CC O'r fersiwn yma o'r Gelteg y tarddodd Y Frythoneg, a'r iaith yma esgorodd yn ei thro ar y Gymraeg, y Gernyweg a'r Llydaweg.
Gan fod y sŵn kw yn y Goedeleg yn troi'n p yn y Frythoneg, mae'n cael ei hadnabod hefyd fel Celteg P. Mae olion o'r berthynas rhwng y ddwy iaith wedi goroesi: er enghraifft, pen yn y Gymraeg a ceann yn yr Wyddeleg.
Mae'n ymddangos mai Brythoneg oedd iaith mwyafrif y bobl oedd yn byw yn yr hyn a elwir heddiw yn Gymru, Lloegr a De'r Alban. Mae tystiolaeth hefyd bod siaradwyr Galeg yn Ffrainc yn deall yr iaith; yr oedd y Galiaid a'r Brythoniaid yn ymwneud llawer â'u gilydd. Yn wir, mae haneswyr o'r farn bod derwyddon Gâl, os bosib, wedi derbyn hyfforddiant ar Ynys Môn, ac am fod Prydain wedi cefnogi'r llwythau Galaidd yn ystod y rhyfeloedd Rhufeinig fe ymosododd Iwl Cesar ar dde ddwyrain Lloegr yn 55 a 54 CC er mwyn dial.
Y Frythoneg fyddai prif iaith pobl Ynys Prydain nes i'r Rhufeiniaid ddychwelyd ganrif yn ddiweddarach. Daeth y llengoedd Rhufeinig yn ôl yn 43 OC a chodi eu baneri ar draethau de ddwyrain Lloegr.
Yr Iaith Gymraeg
Mwy
Hanes Cymru
Creu'r genedl
Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.