Â鶹Éç

Cymru yn y 1960au

Gofodwyr America ar y lleuad

gan Catrin Stevens

Bu'r 1960au yn ddegawd o newidiadau aruthrol yn hanes y byd. Cafodd Arlywydd America, J.F. Kennedy, ei lofruddio yn 1963, ac arweinydd y bobl dduon, Martin Luther King, ei saethu yn 1968; anfonodd yr Undeb Sofietaidd ddyn i'r gofod yn 1961 a glaniodd dau Americanwr ar y lleuad yn 1969.

Bu llawer yn protestio a gorymdeithio i wrthwynebu rhyfel Fiet-nam ac ynni niwclear, ac o blaid hawliau cyfartal i fenywod a phobl dduon. Ar ôl blynyddoedd diflas a llwyd yr 1950au, gwawriodd degawd newydd - 'The Swinging Sixties'.

Ond a gafodd hyn effaith ar Gymru?

Gwaith

Crebachu a chau wnaeth llawer o'r diwydiannau traddodiadol. Caeodd 83 pwll glo a chollwyd 53,000 o swyddi; dim ond glofa'r Maerdy oedd ar ôl yng Nghwm Rhondda yn awr. Ond roedd olion y diwydiant yn beryglus o hyd. Ar Hydref 21, 1966 digwyddodd damwain fwyaf ingol y degawd, pan lithrodd tip glo i lawr ar ben ysgol gynradd Pant-glas, Aberfan, a lladd 116 o blant a 31 oedolyn.

Bellach, roedd y diwydiant llechi yn edwino hefyd, a chaeodd Richard Beeching fwyafrif rheilffyrdd gwledig Cymru.

Ffatri Hoover ym Merthyr
Roedd Hoover yn gyflogwr mawr ym Merthyr

Ar y cyfan, er hynny, roedd yr economi yn ffynnu, gyda gweithfeydd newydd, fel gwaith dur Llanwern, purfeydd olew Milffwrd, ffatri Hoover Merthyr Tudful, gorsafoedd niwclear yr Wylfa a Thrawsfynydd, bathdy brenhinol Llantrisant, Canolfan Drwyddedu Abertawe a nifer o ffatrïoedd ar stadau masnach, fel yn Nhrefforest. Cafodd yr economi hwb pan agorodd pont gyntaf afon Hafren yn 1966 a heol blaenau'r cymoedd yn 1967.

Cartrefi

Roedd cartrefi'r cyfnod yn fwy cyfforddus a moethus. Roedd gan 52% o'r boblogaeth beiriant golchi dillad erbyn 1963 a 37% rewgell. Erbyn 1970, roedd 50% o gartrefi yn berchen car - gyda'r mini yn un o eiconau'r degawd.

Eto, mae'n bwysig peidio gorliwio hyn, oherwydd yn 1971 roedd 22% o dai'r Rhondda yn dal heb ddŵr poeth, a 46% heb dŷ bach yn y tŷ.

Hamdden

Stiwdio
'Heddiw' oedd un o raglenni newyddion y cyfnod

Cafodd oriau hamdden yn y cartref eu chwyldroi gan y teledu. Erbyn 1963, roedd gan 85% o'r boblogaeth set deledu, ac yn 1967 cyrhaeddodd teledu lliw.

Roedd rhaglenni fel Coronation Street yn ffefrynnau mawr, ond roedd tipyn o gwyno bod cyn lleied o raglenni Cymraeg. Dwy raglen newyddion, Heddiw ac Y Dydd, a Siôn a Siân, oedd y prif rai, a doedd fawr ddim ar gyfer plant. Ar y radio, roedd gwrando ar orsafoedd answyddogol, fel Radio Luxembourg, ar y 'transistor' yn boblogaidd. Roedd ffilmiau James Bond yn dal i ddenu pobl i'r sinema.

Roedd hyder y degawd yn amlwg yn y canu pop. Heb os, y Beatles oedd y grŵp mwyaf dylanwadol, a gwelodd Caerdydd effeithiau Beatlemania pan ymwelon nhw â'r brifddinas yn 1964.

Roedd cantorion Cymreig yn sêr rhyngwladol hefyd, yn enwedig Shirley Bassey gyda Goldfinger, yn 1964, a Tom Jones â It's Not Unusual, flwyddyn yn ddiweddarach. Daeth Dafydd Iwan, Meic Stevens a Tony ac Aloma yn sêr pop y Gymru Gymraeg.

Shirley Bassey
Merch o Gaerdydd oedd Shirley Bassey

Roedd ffasiynau'r oes yn adlewyrchu dylanwad y byd pop. Eicon ffasiwn y 60au oedd y sgert 'mini', a gafodd ei lansio gan y gynllunwraig o Gaerdydd, Mary Quant. Yna, ar ddiwedd y degawd, daeth gwisgo fel 'hipi', gyda gwallt hir a dillad at y traed, yn ffasiynol.

Chwaraeon

Roedd yr 1960au yn gyfnod digon llewyrchus i Gymry ym maes chwaraeon. Enillodd Lynn Davies y fedal aur am y naid hir yng Ngemau Olympaidd Tokyo, 1964, ac roedd Howard Winston yn bencampwr bocsio'r byd yn 1968.

Ond ar y maes rygbi y gwnaeth y Cymry'r argraff fwyaf, yn enwedig ar ôl i'r dewin, Gareth Edwards, a'r brenin, Barry John, ddechrau chwarae gyda'i gilydd dros Gymru.

Yr Iaith Gymraeg

Dangosodd cyfrifiad 1961 fod nifer y siaradwyr Cymraeg wedi gostwng eto. Dyna sbardunodd Saunders Lewis i draddodi'i ddarlith radio 'Tynged yr Iaith' yn 1962. Ynddi, roedd e'n galw ar y Cymry i ddefnyddio dulliau chwyldro, os oedd angen, i achub yr iaith.

Proetst arwyddion Cymdeithas yr Iaith
Protestwyd yn erbyn arwyddion unieithog

Ysbrydolodd hyn nifer o bobl ifanc i ffurfio Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, i ymgyrchu'n ddi-drais dros Ddeddf Iaith (pasiwyd y Ddeddf Iaith gyntaf yn 1967), a sicrhau statws swyddogol i'r Gymraeg. Buon nhw'n ymgyrchu'n galed am ffurflenni ac arwyddion ffyrdd Cymraeg, a chafodd sawl aelod ei garcharu am dorri'r gyfraith.

Roedd rhai Cymry yn ddig iawn, hefyd, pan gafodd cronfa Tryweryn ei hagor yn 1965, a phan gafodd Charles ei arwisgo yn Dywysog Cymru yn 1969. Yn 1966, cafodd Gwynfor Evans ei ethol yn Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru i Senedd San Steffan.


About this page

This is a history page for schools about the Sixties in Wales which saw the decline of heavy industry, the emergence of a Welsh entertainment scene and a tradition of protest among the new generation of politically aware young people. Click on the Vocab button at the top of the page for help with Welsh translation.

Gwefannau hanes ar gyfer plant cynradd, uwchradd ac athrawon.

eClips

Clipiau fideo a sain o archif y Â鶹Éç am bob pwnc ar gyfer pob oedran.

Bywyd

Llun o stori Antur Sabrina

Chwedlau

Chwedlau hen a newydd, gan gynnwys y Mabinogi, a gemau hwyliog.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc © Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.