Â鶹Éç

Cymru a'r Normaniaid

Ail gread o filwr yn cario baner William y concwerwr

gan Catrin Stevens

Yn 1063 roedd Cymru wedi ei rhannu'n glytwaith o dywysogaethau mân. Roedd rhai ohonyn nhw - Gwynedd, Powys a Deheubarth yn arbennig - yn ceisio tra-arglwyddiaethu ar y gweddill. Ar yr un pryd roedd gan y Cymry ymdeimlad cryf o'u hunaniaeth eu hunain; eu cyfreithiau eu hunain - Cyfraith Hywel; eu hiaith eu hunain - y Gymraeg, a diwylliant cryf.

Dyma Oes y Tywysogion, oes pan gafodd annibyniaeth y Cymry ei herio o ddifrif gan ddyfodiad y Normaniaid.

Yn dilyn Brwydr Hastings yn 1066, pan gafodd yr Eingl-Saeson eu goresgyn gan y Normaniaid, rhoddodd y Brenin William I diroedd ar ffiniau Cymru i dri o'i farwniaid mwyaf pwerus. Ymsefydlodd Huw o Avranches yng Nghaer; Roger Montgomery yn yr Amwythig a William Fitz Osbern yn Henffordd. Rhoddodd William rwydd hynt iddyn nhw ddwyn mwy o dir yng Nghymru. Yn raddol, felly, meddiannodd y barwniaid hyn a'u his-arglwyddi arfordir a thiroedd gwastad, ffrwythlon y wlad. Dyma 'Arglwyddiaethau'r Mers', arglwyddiaethau hanner-annibynnol, a oedd yn ffurfio ardaloedd byffer rhwng y tywysogaethau Cymreig yn Pura Wallia a thiroedd coron Lloegr.

Cestyll

Castell Caerdydd
Castell mwnt a beili Caerdydd

Y Normaniaid gyflwynodd y castell i Brydain. Gyda'r cestyll roedden nhw'n gallu diogelu'u tiroedd newydd, ac ymestyn allan i goncro mwy o dir. Cestyll pren, mwnt a beili, hawdd a chyflym i'w codi, oedd y rhai cynharaf, ac mae olion dros 470 o'r cestyll hyn ar hyd a lled Cymru. Cafodd mwy o gestyll Normanaidd eu codi yn ne Cymru nag yn unrhyw ran arall o Brydain.

Yn ystod y ddeuddegfed ganrif cafodd nifer o'r rhain eu hailadeiladu mewn carreg. Roedd rhai o'r cestyll carreg, e.e. Dinbych, Cydweli a Rhuddlan yn enfawr, ac eraill yn fach, ond yn strategol bwysig, e.e. Llwchwr, Fflint a Chastell Newydd Emlyn. Roedd y cestyll yn ganolfannau gweinyddol a chyfreithiol hefyd.

Yn eu tro, sylweddolodd y tywysogion Cymreig werth milwrol y castell ac aethon nhw ati i adeiladu eu cestyll eu hunain, e.e. yn Nolwyddelan, Dinefwr, Cricieth a Dolforwyn.

Eto, cestyll rhyfeddol Edward I, a gafodd eu codi o 1282 ymlaen, yn Harlech, Caernarfon, Conwy a Biwmares yw'r cestyll enwocaf, ac maen nhw a muriau eu bwrdeistrefi wedi ennill statws Safle Treftadaeth y Byd. Y Meistr James o St George yn Savoy oedd eu pensaer.

Plannodd y Normaniaid fwrdeistrefi o gwmpas eu cestyll. Dyma arf economaidd y goncwest a chafodd estroniaid eu denu i fyw ynddyn nhw gan y breintiau arbennig yn eu siarteri.

Aneddiadau'r Normaniaid

Ymsefydlodd y Normaniaid ar hyd yr arfordiroedd a'r dyffrynnoedd ffrwythlon. Mae enwau llawer o'u haneddiadau yn gorffen gyda -ton (fferm / tref); 155 ohonyn nhw yn ne Penfro a 74 ym Morgannwg, e.e. Cosheston, Bonvilston a Cosmeston.

Cafodd y Sacsoniaid eu gorfodi i symud i weithio ar ffermydd y Normaniaid, yn enwedig ym Mhenrhyn Gŵyr a Bro Morgannwg. System ffiwdal oedd un y Normaniaid. Byddai'r Brenin yn berchen yr holl dir, ac yna'n rhoi darnau ohono i'w brif denantiaid yn gyfnewid am eu gwrogaeth a'u gwasanaeth milwrol. Bydden nhw, yn eu tro, yn rhannu'u tiroedd rhwng is-denantiaid a byddai'r rhain yn sefydlu maenorau.

Cadwai arglwydd y faenor un rhan o dair o'r tir iddo'i hun, a rhentu'r gweddill i'w fileiniaid. Byddai'n rhaid i'r bileiniaid weithio ar dir eu harglwydd am ran o'u hamser, ac ar eu tiroedd eu hunain weddill yr amser.

Câi'r tir âr ei rannu yn gaeau agored, a hwy yn eu tro yn lleiniau cul, unedau yr oedd modd eu haredig mewn diwrnod. Câi cnydau eu cylchdroi a châi un cae ei adael yn fraenar (heb ei aredig), er mwyn rhoi seibiant i'r pridd. Byddai dolydd i'w pori, tir comin a choedwigoedd bychain ar faenor hefyd. Mae'n bosibl gweld rhai o gaeau agored y Normaniaid o hyd yn y Vile, Rhosili ar Benrhyn Gŵyr. Roedd eglwys, melin a gefail yn rhan o batrwm anheddu'r Normaniaid hefyd.

Yr eglwys Normanaidd

Mynedfa i abaty Ystrad Fflur. Hawlfraint y Goron © Croeso Cymru.
Abaty Ystrad Fflur © Croeso Cymru

Roedd gan y Cymry eu heglwys Gristnogol eu hunain ers Oes y Seintiau yn y chweched ganrif. Ond cyflwynodd y Normaniaid strwythur yr Eglwys Babyddol i Gymru - yr eglwysi plwyf, degymau (rhoi un rhan o ddeg o eiddo i'r eglwys), ac archesgob yng Nghaergaint.

Cyflwynon nhw abatai i Gymru hefyd. Roedd abatai'r Benedictaidd o fewn muriau bwrdeistrefi'r Normaniaid. Ond yna, daeth Urdd y Sistersiaid i Gymru, ac enillodd y tai Sistersaidd a ymsefydlodd yn Pura Wallia, e.e. Ystrad Fflur ac Aberconwy, galonnau'r Cymry.

Roedd cyfnod y Normaniaid yng Nghymru yn un o frwydro, ond hefyd o gyd-fyw a chydweithio'n heddychlon.


About this page

This is a history page for schools about the Normans in Wales. The Norman lords took the fruitful lands along the coasts and valleys of Wales, built castles and introduced a feudal regime. Click on the Vocab button at the top of the page for help with Welsh translation.

Gwefannau hanes ar gyfer plant cynradd, uwchradd ac athrawon.

eClips

Clipiau fideo a sain o archif y Â鶹Éç am bob pwnc ar gyfer pob oedran.

Bywyd

Llun o stori Antur Sabrina

Chwedlau

Chwedlau hen a newydd, gan gynnwys y Mabinogi, a gemau hwyliog.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc © Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.