麻豆社

Brad y Llyfrau Gleision 1847

Ysgol Miss Barlleg, Conwy, 1885. O gasgliad John Thomas, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

gan Catrin Stevens

Oherwydd terfysgoedd yr 1830au a'r 40au cynnar, roedd rhai pobl yn meddwl bod y Cymry yn bobl wyllt ac anystywallt.

Roedd William Williams, AS Coventry, ond o Lanpumsaint yn wreiddiol, yn credu y byddai rhoi addysg i'r Cymry yn eu gwareiddio. Galwodd am sefydlu comisiwn i ymchwilio i addysg yng Nghymru, ac yn arbennig i weld 'pa ddulliau oedd yna i'r gweithiwr cyffredin gaffael gwybodaeth o'r iaith Saesneg'.

Cafodd tri chomisiynydd cydwybodol eu penodi: R.R.W. Lingen, A.C. Symons a H.R. Vaughan Johnson. Saeson a bargyfreithwyr Uchel-eglwysig oedden nhw. Yn eu tro, gofynnon nhw am gymorth clerigwyr eglwys Loegr a m芒n fonedd i gasglu gwybodaeth ar draws Cymru. Ar 么l blwyddyn yn teithio'r wlad, cafodd adroddiad swmpus, mewn tair cyfrol 芒 chloriau glas, eu cyhoeddi.

Cynnwys y llyfrau gleision

Addysg

Roedd y llyfrau gleision yn dilorni holl ffordd-o-fyw y Cymry

Cyflawnodd y comisiynwyr eu br卯ff o safbwynt addysgol yn ddigon boddhaol, oherwydd roedd safon addysg yng Nghymru a Lloegr yn y cyfnod hwn yn echrydus o isel. Cymdeithasau crefyddol - y Gymdeithas Genedlaethol a'r Gymdeithas Brydeinig oedd yn cynnal nifer o'r ysgolion hyn, ond c芒i eraill eu rhedeg gan hen wragedd, cyn-filwyr a chymeriadau amheus ac annysgedig.

Tynnodd yr adroddiad sylw at ddiffyg hyfforddiant a gwybodaeth yr 'athrawon' hyn - dim ond 12.5% oedd wedi derbyn unrhyw hyfforddiant. Roedd dysgu, medden nhw, yn un o'r swyddi isaf ei statws yn y gymdeithas. Roedden nhw'n feirniadol iawn o adeiladu gwael llawer o'r 'ysgolion' ac o'r diffyg adnoddau ynddyn nhw.

Canmolon nhw rai ysgolion er hynny, a chafodd Ysgolion Sul glod am eu bod yn llwyddo i ddysgu gweithwyr cyffredin i ddarllen Cymraeg.

Agweddau eraill

nid yw'r elfen Gymraeg fyth ar frig yr ysgol gymdeithasol ... mae'r iaith yn ei gadw (y Cymro) dan yr hatshys ... Iaith amaethyddiaeth hen ffasiwn a diwinyddiaeth yw hi ... tra bod y byd o'i amgylch i gyd yn Saesneg

Adroddiad addysg 1847

Ond aeth y comisiynwyr ymhell y tu hwnt i'w br卯ff. Gwnaethon nhw sylwadau cas a dilornus ar ffordd y Cymry o fyw - yn arbennig felly'r iaith a'r grefydd anghydffurfiol. Yn 么l y comisiynwyr, roedd y Cymry'n genedl frwnt - meddai'r Parch. J. Pugh: 'Maen nhw'n caniat谩u i foch ddod i mewn (i'w cartrefi) yn aml. ... Mae toiledau yn brin iawn'. Roedden nhw'n honni bod y Cymry yn ddiog, yn anwybodus ac yn anfoesol. Ac ar yr iaith Gymraeg yr oedd y bai pennaf am hynny. Yn 么l Lingen, 'p'run ai yn y wlad neu yn y ffwrneisi, nid yw'r elfen Gymraeg fyth ar frig yr ysgol gymdeithasol ... mae'r iaith yn ei gadw (y Cymro) dan yr hatshys ... Iaith amaethyddiaeth hen ffasiwn a diwinyddiaeth yw hi ... tra bod y byd o'i amgylch i gyd yn Saesneg'.

Roedden nhw'n dadlau, hefyd, fod merched Cymru yn anfoesol gan eu bod yn 'caru ar y gwely'. Ac roedd y capeli anghydffurfiol yn cefnogi'r fath ymddygiad gwarthus, trwy annog pobl ifanc i gerdded adref o'r capel yn hwyr y nos, heb eu goruchwylio.

Yr ymateb i'r adroddiad

Bu'r ymateb yn amrywiol iawn:

Llyncodd llawer o'r Cymry'r cynnwys a theimlo cywilydd eu bod yn Gymry.

  • Gwylltiodd llawer o Gymry, yn eu plith Eglwyswyr amlwg, oherwydd cynnwys enllibus yr adroddiad. Brwydrodd rhai yn 么l trwy geisio profi nad oedd y comisiynwyr yn gymwys i'r gwaith - doedden nhw'n gwybod dim am addysg nac am Gymru. Ymhlith y rhain roedd Thomas Phillips, cyn-faer Casnewydd, a ysgrifennodd lyfr i amddiffyn y Cymry, ac Ieuan Fardd a gychwynnodd y cylchgrawn Y Gymraes, i brofi bod merched Cymru yn barchus a phur. Cyfansoddodd R.J.Derfel gerdd am yr adroddiad a'i galw yn 'Brad y Llyfrau Gleision', er cof am yr hen chwedl am Frad y Cyllyll Hirion, pan dwyllodd yr Eingl-Saeson y Cymry cynnar i gael ymsefydlu ar Ynys Prydain.
  • Cafodd y Methodistiaid eu cynddeiriogi gan y feirniadaeth ar yr anghydffurfwyr, a dechreuon nhw weithredu yn wleidyddol er mwyn newid y sefyllfa. Rhoddodd hyn hwb i dwf y blaid Ryddfrydol yng Nghymru.
  • Ond llyncodd llawer o'r Cymry'r cynnwys a theimlo cywilydd eu bod yn Gymry.
  • Ymatebodd y capeli trwy annog eu haelodau i fyw yn barchus a throi'u cefnau ar hen arferion gwerin Cymru.
  • Trodd llawer eu cefnau hefyd ar yr iaith Gymraeg a chredu mai'r Saesneg oedd iaith 'dod ymlaen yn y byd' - agwedd sydd ddim wedi diflannu'n llwyr yng Nghymru, hyd yn oed heddiw.

Creodd y Llyfrau Gleision hollt yn seice'r Cymry. Ar y naill law, aeth llawer ohonyn nhw i gredu eu bod yn israddol; ar y llaw arall, cafodd rhai eu hysbrydoli i frwydro yn erbyn y fath feirniadaeth a thros eu hawliau fel Cymry Cymraeg.


About this page

This is a history page for schools about a controversial report on education in Wales in 1847 which came to be known as 'Brad y Llyfrau Gleision' ('The Treachery of the Blue Books'). The report caused a furore because of its attack on the Welsh language and morality. Click on the Vocab button at the top of the page for help with Welsh translation.

Gwefannau hanes ar gyfer plant cynradd, uwchradd ac athrawon.

eClips

Clipiau fideo a sain o archif y 麻豆社 am bob pwnc ar gyfer pob oedran.

Bywyd

Llun o stori Antur Sabrina

Chwedlau

Chwedlau hen a newydd, gan gynnwys y Mabinogi, a gemau hwyliog.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc 漏 Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

麻豆社 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆社

麻豆社 漏 2014 Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.