Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Llien Gwyn
Geraint Lewis tu allan i'r Trinity College Cyfarchion o Awstralia
Rhagfyr 2007
Newyddion diweddaraf Geraint Lewis a'i wraig o Perth, Awstralia i ddarllenwyr papur bro Y Cardi Bach. (Rhan 4)

Shwt ma pawb? Gobeithio eich bod chi i gyd wedi gorffen eich siopa 'Dolig ac yn edrych ymlaen at yr Å´yl.

Mae tipyn wedi digwydd ers i fi sgrifennu atoch chi gwpwl o fisoedd nôl. Dwi wedi llwyddo i gael swydd, mae Jen ar fyrstio, mae Cymru wedi cael hyfforddwr rygbi newydd ar ôl ein perfformiad anobeithiol yng Nghwpan y Byd ac mae'n twymo mas 'ma! Heb os nac oni bai mae'r tywydd wedi newid ac wrth i mi sgrifennu hwn mae'r tymheredd yn 39 gradd y tu allan a dim ond y gwanwyn yw hi.

Diolch byth, dyw hi ddim mor dwym a hyn yr adeg hon o'r flwyddyn fel arfer a thua 32 gradd yw'r tymheredd ar gyfartaledd. Ond mae addysgu yn yr awyr agored yn y gwres 'ma drwy'r dydd yn galetach na'r disgwyl a bellach dwi wedi dod i arfer a gwisgo het pan fydda i'n gadael y tÅ· yn y bore a'i chadw ar fy mhen hyd nes i mi ddod adre. Mae'n rhaid cael het mas 'ma.

Ychydig wythnosau yn ôl pan oeddwn i heb wisgo un roeddwn i wedi blino'n llwyr ac fe ges i ben tost am weddill y nos, sy'n dangos bod angen i chi amddiffyn eich hun. Rhaid rhoi dos go dda o eli haul neu `sunscreen' fel maen nhw'n dweud yma ar y croen bob awr. Hefyd, pan fydda i'n addysgu AG yn yr awyr agored, os oes yna ddisgybl sydd heb wisgo'i het, mae'n cael ei wahardd rhag dod allan ac yn colli gwers gan orfod gweithio yn yr ystafell ddosbarth! Maen nhw'n ymwybodol iawn o'r effaith y gall yr haul ei chael ar y corff ac mae'r plant yn cael eu magu i wybod beth all ddigwydd os na fyddan nhw'n amddiffyn eu hunain. Dyna rywbeth y gallen ni ei wneud ychydig yn well nôl adre efallai!

Swydd newydd
Fel y dwedes i, dwi wedi cael swydd mewn ysgol breifat i fechgyn yng nghanol Perth sef, Trinity College sydd reit wrth ymyl y WACA, un o brif feysydd criced Awstralia. Mae'n gyfle anhygoel ac mae'r ysgol yn cael ei hystyried yn un o ysgolion gorau'r ddinas a Gorllewin Awstralia. Cyn hynny roeddwn i wedi gwneud rhywfaint o waith cyflenwi yno a phan ddaeth swydd i fyny am Athro Addysg Gorfforol dyma fynd amdani. Roedd chwe deg tri wedi ymgeisio a dim ond pump gafodd gyfweliad. Diolch byth roedden nhw' n chwilio am rywun gyda phrofiad ym maes Rygbi a deuddydd ar ôl y cyfweliad ces i alwad gan y Pennaeth yn cynnig y swydd i fi.

Y teitl swyddogol yw Athro Addysg Gorfforol a Chyfarwyddwr Rygbi. Rhaid i fi ddweud, y gwir mai dyma'r swydd roeddwn i wedi breuddwydio amdani. Bydda i'n gyfrifol am rygbi drwy'r ysgol, datblygu chwaraewyr a hyfforddwyr yn y blynyddoedd iau, trefnu twrnameintiau i'r blynyddoedd canol ac yn Brif Hyfforddwr y tîm cyntaf. Fy nghyfrifoldeb cyntaf yw trefnu taith y tîm cyntaf y flwyddyn nesaf. Roeddwn ni'n rhagdybio y bydden ni'n teithio i rywle yn Awstralia, draw i'r taleithiau dwyreiniol efallai a fyddai'n golygu taith awyren o 4 awr. Ond er syndod mawr i fi, y dewis sydd gen i yw Canada, UDA neu De Affrica. Felly dyma sylweddoli'n go handi bod yr ysgol hon yn cymryd ei chwaraeon yn go ddifrifol!

Eisoes y tymor hwn dwi wedi bod yn addysgu cryn dipyn o feysydd nad oeddwn i wedi cael profiad ohonyn nhw erioed o'r blaen ac wedi bod ar rai cyrsiau er mwyn gallu addysgu'r campau hyn. Mae'r rhain yn cynnwys Canŵio, Beicio Mynydd, Pêl -droed Gwyddelig, Pêl-droed yn ôl Rheolau'r Awstraliaid a Dringo. Mae'r ysgol ar lannau'r Afon Swan lle dwi'n mynd â'r disgyblion i gael eu gwersi canŵio.

Tra roeddwn i'n dilyn y disgyblion yn fy nghwch modur bach tun y dydd o'r blaen dyma fi'n sylwi bod rhywbeth yn ein dilyn ni i fyny'r afon. Roeddwn ni'n cadw llygad ac ar unwaith dyma fi'n gweld asgell yn dod allan o'r dŵr. Roeddwn i wir yn meddwl mai siarc ifanc oedd yno gan fod sôn eu bod nhw'n nofio i fyny'r afon ym Mherth weithiau. Diolch byth dolffin oedd yno a dyma fe'n dechrau dod i fyny o'r dŵr a dilyn y bechgyn yn eu canwod. Roeddwn nhw wedi dotio ac yn dweud bod hyn yn digwydd yn rheolaidd yn ystod Tachwedd a Rhagfyr.

Gan fod pwll nofio awyr agored 50 metr yn yr ysgol ac y bydda i'n addysgu nofio y tymor nesaf mae'n rhaid i fi gwblhau cwrs Achub Bywyd ymhen rhai wythnosau. Rydw i wedi bod yn Trinity nawr ers rhyw 4 wythnos ac yn teimlo'n gartrefol iawn. Yn amlwg roedd yr ychydig wythnosau cyntaf yn go anodd gan fod rhai o'r myfyrwyr yn rhoi'r athro newydd ar brawf, ond gymerodd hi ddim yn hir iddyn nhw sylweddoli nad o' n i' n mynd i ddioddef eu campau a bellach dwi'n credu eu bod nhw'n gwybod bod Mr Lewis yn meddwl beth mae e'n ddweud!!

Y peth da arall am gael y swydd yw y bydda i'n cael 8 wythnos bant yn ystod gwyliau'r haf, gyda chyflog llawn a bydd hynny'n dipyn o help gyda 'Lewis Bach' ar y ffordd. Mae hefyd yn golygu y bydda i ar gael yn ystod y saith wythnos gyntaf felly bydd llai o straen ar y ddau ohonon ni. Mae Jen yn gwneud yn dda a'r meddygon yn fodlon iawn â hi. Buon ni yn ein dosbarth Cyn Geni diwethaf yr wythnos ddiwethaf a bellach rydyn ni'n barod am y babi a ddylai gyrraedd ymhen 4 wythnos o adeg sgrifennu'r erthygl hon. Dwi wedi dechrau rhoi trefn ar y feithrinfa, rydyn ni wedi paentio'r waliau, rhoi cist o ddroriau at ei gilydd, hongian llenni newydd ac ychwanegu rhai goleuadau llachar felly'r cyfan sydd ar ôl i'w wneud yw cael y crud a'r pram!

Gyda'r haf yn agosau mae Perth yn denu llawer o ddigwyddiadau mawr a phythefnos yn ôl cynhaliwyd Ras Awyr y Red Bull yma - efallai bod rhai ohonoch chi wedi'i gweld ar y teledu yn ddiweddar. Daeth 300,000 i wylio'r digwyddiad ar hyd yr Afon Swan yng nghanol y ddinas. Un o'r awyrennau acrobatig yn Ras Awyr y Red BullCynhaliwyd y gystadleuaeth ar ddydd Sadwrn a dydd Sul a dydych chi ddim yn sylweddoli pa mor gyflym mae'r awyrennau'n teithio oni bai eich bod chi'n eu gweld yn agos. Os nad ydych chi wedi clywed am Ras Awyr y Red Bull, ras yw gyda 13 o beilotiaid gyda'u hawyrennau acrobatig eu hunain. Mae'n rhaid iddyn nhw wau'u ffordd ar hyd cwrs sydd wedi'i farcio gyda chonau gwynt enfawr a'r peilot sy'n cwblhau'r cwrs yn yr amser cyflymaf gyda'r nifer lleiaf o gamsyniadau sy'n ennill y ras. Mae'n hynod gyffrous ac fel y gwelwch chi yn y llun maen nhw hedfan yn agos iawn i'r ddaear felly gallai un gwall syml arwain at drychineb.

Atgofion am Grav
Roeddwn i'n drist iawn i glywed am farwolaeth Ray Gravell. Roeddwn i wedi darllen y newyddion ar wefan y Â鶹Éç ac yn rhyfeddu faint o bobl enwog o'r byd teledu a'r campau oedd am rannu eu atgofion am y Cymro angerddol. Roeddwn i'n ffodus o fod wedi cwrdd â Ray sawl gwaith. Roedd yna gysylltiad rhyngom yn y gorffennol a phryd bynnag roedd e'n ein gweld ni mi fyddai'n aros i gael sgwrs. Roedd ganddo amser i bawb, ond fy atgof anwylaf am Ray oedd pan roedd Llanelli yn chwarae yn erbyn Hendy-gwyn yng Nghwpan Schweppes ddiwedd y 1980au. Cafodd y gêm ei chwarae ar Barc TÅ· Gwyn ac roedd Ray yn sylwebu i Â鶹Éç Radio Wales.

Roeddwn i'n ffan mawr o'r Sgarlets ac roedd Jonathan Davies, fy arwr, yn chwarae i Lanelli. Chwaraeodd Hendy-gwyn yn dda gan frwydro'n ddewr ond Llanelli a enillodd y gêm ac er bod llofnod Jonathan Davies yn fy llyfr llofnodion tua 8 gwaith (gan mod i'n rhedeg allan i'r maes ar Barc y Strade hanner amser i gael llofnodion y chwaraewyr) roeddwn i am gael ei lofnod e eto. I mi, ef oedd y chwaraewr gorau yn y byd felly pa ots os cawn ni ei lofnod e 9 gwaith!! Beth bynnag, ar ôl y gêm dyma fynd i fyny i'r eisteddle a chael sgwrs gyda Ray.

Roedd e'n gweld mod i'n gwisgo sgarff y Sgarlets a dyma fe'n dweud yn sydyn "Wyt ti am fynd lawr i gael llofnodion?' Wel, gallwch chi ddychmygu fy ymateb, felly lawr a fi, a dyna lle'r oedd mawrion y tîm roeddwn ni'n ei dilyn yn yfed caniau o Worthington, cerdded o gwmpas yn noethlymun ac yn mynd mewn a mas o'r gawod. (Rhyfedd fel mae rygbi'r timau mawr wedi newid!) Yn sydyn, dyma Ray yn troi a dweud `Jonathan, dere 'ma' ac wrth i mi droi dyna lle'r oedd Jonathan Davies yn gwbl noethlymun gyda chan o Worthy yn ei law yn cerdded tuag atom ni. Roeddwn i mewn sioc! Dyma fe'n cerdded ata i a gofyn pa safle roeddwn i'n chwarae a beth oeddwn i'n feddwl o'r gêm a dyna fe'n llofnodi'r llyfr a bant ag e i nôl tywel! Allwn i ddim credu'r peth a bydd y profiad yn aros yn y cof am byth, nid am ei fod e'n noethlymun ond am fy mod i yn yr ystafell newid gyda'r tîm cyfan, cyfle na fydd llawer yn ei gael.

Gallwch chi weld p'un yw llofnod Jonathan Davies y diwrnod hwnnw oherwydd mae ôl dŵr ar y man lle'r oedd e'n dal y llyfr a hefyd mae Ray wedi llofnodi'r dudalen gyferbyn. Anghofia i byth mo'r diwrnod hwnnw a bydda i'n ddiolchgar am byth i Ray am y cyfle. Bydd bwlch ar ei ôl, nid yn unig am ei angerdd o fod yn Gymro ac am bopeth sy'n ymwneud â'n diwylliant ni, ond am ei fod fel y dywed yr Aussies yn `real champion'.

Wel, does dim llawer mwy yn digwydd yma ar wahân i weithio'n galed gyda diwedd y tymor yn agosau a pharatoi at dywydd yr haf a geni Lewis Bach. Rydyn ni'n llawn cyffro wrth ddisgwyl ein ymwelwyr cyntaf o'r DU yr wythnos hon sy'n dod i aros gyda ni am 5 niwrnod. Mae Chris ac Avril, ffrindiau o Gaerfaddon, wedi bod yn teithio o amgylch Awstralia yn ystod y bythefnos ddiwethaf ac yn galw yn Perth cyn mynd nôl adref. Rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr at ddangos atyniadau a seiniau Perth iddyn nhw ac yn gobeithio mai dyma fydd y cyntaf o sawl ymwelydd arall yn y dyfodol.

Erbyn i chi ddarllen hwn dylai Lewis Bach fod wedi cyrraedd (dyna mae Jen yn ei obeithio ta beth) a byddwn ni'n dechrau ar gyfnod newydd gydag aelod arall yn y teulu. Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb nawr a gobeithio y cewch chi'ch dymuniadau yn 2008. Rhaid sôn yn arbennig am Mam, Dad, Carwyn, Sarah, Jac a Josh - rydyn ni'n edrych ymlaen at eich gweld chi ar y gwe gamera ddydd Nadolig. Mam, dwi'n eitha' bodlon i chi brynu Chocolate Oranges yn anrheg i fi - dwi'n clywed eu bod nhw'n para am flwyddyn yn yr oergell felly gallwch chi gadw nhw yno tan i ni ddod yn ôl y flwyddyn nesaf. Jac a Josh - gobeithio y bydd Santa yn garedig eleni, a gwnewch yn siŵr nad yw Dadi yn bwyta gormod o mins peis.

Gobeithio y cewch chi i gyd Nadolig da.
Pob hwyl,
Ger a Jen.

Gair gan Geraint o Awstralia: rhan 1

Gair gan Geraint o Awstralia: rhan 2

Gair gan Geraint o Awstralia: rhan 3


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý