Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Llien Gwyn
Mike Phillips Mike a'r Gamp Lawn
Ebrill 2005
Rydym i gyd fel ardal yn llawenhau yn llwyddiant Michael Phillips, 22 oed, ym myd rygbi. Mae'n fab i Trevor a Morfydd, Fferm Parcyrabbot, San Clêr ac mae ganddo ddau frawd hŷn, Robert a Mark.

Dechreuodd Michael chwarae rygbi yn Ysgol Gynradd Bancyfelin o dan hyfforddiant Mr. Trefor Evans, Glyn-mynach, Hendygwyn. a oedd yn Brifathro yno ar y pryd. Yna bu'n chwarae yn San Clêr o dan 9 oed ac o dan 13 oed, gyda'r hyfforddwyr Lloyd Davies a Huw Lewis.

Symudodd wedyn i dîm ieuenctid Hendygwyn at Lynn, Ray a Morlais a chafodd pob cefnogaeth gan Glwb Rygbi Hendygwyn. Ar ôl gadael Ysgol Dyffryn Taf a'r athrawon, Christopher Skone a Graham Evans, cafodd ei ddewis i dîm dan 21 Llanelli. Bu'n chwarae i dîm Cymru mewn cystadlaethau saith-bob-ochr gan deithio'r byd, i Dubai, Malaysia, Singapore a Chile. Pan yn 19 oed chwaraeodd i dîm Cymru o dan 21 oed ac ennill y Grand Slam' yn Ffrainc a chystadlu yng nghwpan y byd o dan 21 yn Ne Affrica.

Yn dilyn hyn enillodd y Western Mail Sports Star Award' am 2003 - cystadleuaeth i bob math o chwaraeon. Hefyd enillodd wobr newyddiadurwyr Rygbi am y 'Chwaraewr mwyaf addawol y flwyddyn'.

Erbyn hyn roedd wedi ei ddewis i chwarae gyda'r Scarlets; Steve Hansen yn ei ddewis i fod yng ngharfan Cymru ac aeth allan gyda nhw ar daith i Awstralia a Seland Newydd. Enillodd ei gap hŷn cyntaf wrth chwarae yn erbyn Romania, yn Wrecsam, 2003. Mike Ruddock yn ei ddewis i garfan Cymru a mynd ar daith i'r Ariannin a De America, a'r tîm yn cael ei gyflwyno i Nelson Mandela yn 2004.

Ymarfer gyda charfan Cymru eleni eto ac ar y fainc yn y gêm yn erbyn Yr Alban. Bu'n chwarae yn Twickenham, i godi arian at Apêl Tsunami. Roedd hefyd ar y fainc yn y gêm fawr rhwng Cymru a'r Iwerddon - braint fawr i Michael oedd bod yn rhan o ddathliadau'r Grand Slam.

Mae cyfnod hapus a rhyfeddol yn y Scarlets yn dod i ben gan ei fod yn symud i'r 'Gleision' Caerdydd y tymor nesaf - pennod arall yn dechrau.

I Michael, mae wedi bod yn fraint ac yn anrhydedd i wisgo Crys Coch Cymru, a thrwy rygbi mae wedi teithio'r byd, gwneud ffrindiau di-ri a chwrdd â nifer fawr o enwogion. Diolch i'r hyfforddwyr i gyd.

Llongyfarchiadau mawr i Michael ar ei lwyddiant ac edrychwn ymlaen yn awr i ddilyn ei yrfa yn y blynyddoedd i ddod.

Gair gan ei hyfforddwr cyntaf, Trefor Evans
Mike Phillips ar y chwith yn 10 oed ar ôl ennill gêm bwysig ym Mharc Y Strade.Dechreuodd Mike chwarae rygbi pan oedd yn ddisgybl yn Ysgol Gynradd Bancyfelin. Buan iawn dangosodd ei ddawn, yn arbennig ei barodrwydd i daclo bechgyn llawer yn fwy nag ef. Gan nad oedd llawer o fechgyn yn yr ysgol, gemau 7, neu ambell waith 10, bob ochr oedd yr ysgol yn chwarae gyda Mike yn chwarae yn safle'r mewnwr.

Pan oedd dim ond yn naw oed cafodd ei ddewis i chwarae i Ysgolion Caerfyrddin a'r Cylch yn erbyn ardaloedd eraill De Cymru. Yn ystod ei ddwy flynedd gyda'r tîm yma symudodd Mike i chwarae yn y rheng ôl. Yn ystod ei flwyddyn diwethaf yn Ysgol Bancyfelin cafodd ei ddewis i chwarae i Ysgolion Gorllewin Cymru yn erbyn Ysgolion Dwyrain Cymru. Cynhaliwyd y gêm ar Barc y Strade gyda'r Gorllewin yn ennill o 5 pwynt i 0, gyda wythwr y Gorllewin, sef Michael Phillips yn sgorio unig cais y gêm.

Chwaraeodd Mike am y tro cyntaf yn y Stadiwm Cenedlaethol, sef yr hen Parc yr Arfau, pan oedd ond yn 10 oed. Roedd yn chwarae i Ysgolion Caerfyrddin a'r Cylch mewn cystadleuaeth 7 bob ochr Ysgolion Cymru dan 11. Gobeithio y byddwn yn ei weld eto yn chwarae ar y Maes Cenedlaethol yn ystod y blynyddoedd nesaf yn gwisgo'r crys coch.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý